Trosolwg o Brosiect HELIX Mehefin 2016 – Mehefin 2023

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar allbynnau a gweithgareddau Prosiect HELIX ers mis Mehefin 2016.

Trwy Brosiect HELIX, mae gan gwmnïau cymwys sydd wedi’u lleoli yng Nghymru fynediad at amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol a ariennir gan Arloesi Bwyd Cymru.

Mae Prosiect HELIX yn darparu gweithgareddau ymarferol i drosglwyddo gwybodaeth, gan gefnogi cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion arloesol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, i fasged siopa’r defnyddiwr.

Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad yma.