Pobl yw elfen bwysicaf unrhyw fusnes, a gall pobl sydd wedi'u hyfforddi’n briodol, sy'n ymroddedig ac yn hyderus yn eu gallu eu hunain wneud gwahaniaeth mawr i’ch llwyddiant.
Gallwn eich helpu trwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar eich staff i weithio i’r safonau uchaf.
Dan y gyfraith, mae’n rhaid i bawb sy’n trin bwyd gael eu hyfforddi yn ôl eu gweithgareddau trin bwyd. Ar ben hynny, bydd gan unigolion sydd wedi cyflawni’r cwrs hylendid bwyd yn llwyddiannus yr hyder a’r arbenigedd i gyflwyno bwyd o ansawdd yn ddiogel i gwsmeriaid.
Mae cymwysterau diogelwch bwyd ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes arlwyo, lletygarwch neu weithgynhyrchu, lle mae hylendid bwyd yn hollbwysig gan fod bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei weini neu ei gynhyrchu. Er enghraifft, tafarnau, gwestai, bwytai, siopau, ffatrïoedd, llefydd bwyd cyflym, ysbytai, cartrefi nyrsio a gofal, ysgolion, carchardai a’r lluoedd arfog.
Highfield yw’r corff dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn darparu cyrsiau diogelwch bwyd, HACCP a chyrsiau hyfforddi ymarferol i grwpiau, naill ai yn ein canolfan ni neu’ch lleoliad chi. Mae ein Technolegwyr Bwyd profiadol yn arbenigo mewn cynnal dadansoddiad o fylchau mewn sgiliau a datblygu cynlluniau hyfforddiant er mwyn darparu hyfforddiant penodol i anghenion eich staff a’ch busnes. Gallwn ddarparu cyrsiau wedi’u teilwra i fodloni’r cyfarwyddebau HACCP i’r sectorau cig, llaeth ac arlwyo. Gallwch astudio sgiliau cig a llaeth sylfaenol, a’u defnyddio’n ymarferol yn ein hardaloedd prosesu cig a llaeth ni neu yn eich canolfan brosesu chi.
Cwrs undydd ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y maes arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu, lle mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rhai sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant).
Cynhelir y cwrs bob MIS.
Dyddiad Cwrs nesaf: I'w drefnu
Ystod: rhaglen un diwrnod
Rhagofyniad: Dim
Dull asesu: arholiad atebion aml ddewis
Unedau RQF: Oes
Pris: £60
Byddai'r rhai a fynychodd yn sefyll y papur arholiad sy'n fwyaf perthnasol i'w swydd:
Pynciau allweddol a gwmpesir:-
Y ffordd ymlaen a argymhellir:-
Highfield yw'r Corff Dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.
Cwrs tridiau ar gyfer goruchwylwyr trin bwyd yn y diwydiannau bwyd ac arlwyo / gweithgynhyrchu. Cwrs delfrydol i Reolwyr a goruchwylwyr mewn busnesau arlwyo neu weithgynhyrchu canolig a mawr.
Nod y cymhwyster hwn yw cefnogi rôl yn y gweithle a rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu’n bersonol a chymryd rhan mewn addysg. Mae’n addas i ddysgwyr sydd naill ai wrthi, neu’n dymuno camu ymlaen i lefel uwch neu lefel oruchwylio o fewn busnes arlwyo bwyd.
Dyddiad Cwrs nesaf: I’w drefnu
Ystod: Rhaglen 3 diwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 2 Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo, Cynhyrchu neu Adwerthu
Dull asesu: Arholiad atebion aml ddewis
Unedau RQF: Oes
Pris: £280
Byddai'r rhai a fynychodd yn sefyll y papur arholiad sy'n fwyaf perthnasol i'w swydd:
Y prif bynciau fydd yn cael sylw:
Highfield yw'r Corff Dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.
Cwrs pum diwrnod ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr uwch yn Fusnesau Bach a Chanolig a busnesau fwy. Targedwyd y cymhwyster at y rhai y mae eu rôl yn cynnwys cyfrifoldeb am ddiogelwch bwyd a chyfrifoldebau rheoli gweithredol, ac argymhellir yn gryf bod dysgwyr gyda thystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 3 yn barod, â rhywfaint o brofiad o weithio o fewn rôl gydag ymwybyddiaeth o Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am addasrwydd y cymhwyster hwn, rhowch alwad i ni!
Mae'r dystysgrif hon yn dystysgrif oes, ond awgrymir eich bod yn cadw tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus i gadw'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn gyfredol.
Dyddiad Cwrs nesaf: I'w drefnu
Ystod: Rhaglen 5 diwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 3 Diogelwch Bwyd
Dull asesu: Arholiad
Unedau RQF: Oes
Pris: Cysylltwch am bris
Cwrs un diwrnod ar gyfer gweithwyr sy’n trin bwyd a staff eraill sy’n arlwyo, paratoi bwyd a gweini. Mae’r cwrs hefyd yn addas i bobl sy’n trin bwyd yn y maes gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff y bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rheini sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant).
Dyddiad y cwrs nesaf: Dyddiadau i’w drefnu
Hyd y cwrs: 1 diwrnod
Rhagofyniad: Dim
Dull Asesu: Arholiad atebion aml-ddewis
Achrediad RQF: Oes
Pris: £50 (cinio bwffe a lluniaeth wedi’u cynnwys. Mae’r cwrs hwn wedi’i eithrio o TAW)
Canlyniadau Dysgu:
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn medru deall y canlynol:
Yr hyn a awgrymir ar ôl cwblhau’r cwrs:
Cwrs dau ddiwrnod ar gyfer y sawl sy’n goruchwylio gweithwyr sy’n trin bwyd a staff eraill sy’n arlwyo, paratoi bwyd a gweini. Mae’r cwrs hefyd yn addas i oruchwylwyr sy’n gweithio yn y maes gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rheini sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant).
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion busnes.
Dyddiadau’r cyrsiau nesaf: Dyddiadau i’w drefnu
Hyd y cwrs: Dau ddiwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 2 - Ymwybyddiaeth o Alergenau Bwyd a Rheoli Alergenau yn y maes Arlwyo neu Ddyfarniad Lefel 2 - Diogelwch Bwyd yn y maes Arlwyo neu Weithgynhyrchu
Dull Asesu: Arholiad atebion aml-ddewis
Achrediad RQF: Oes
Pris: £100 (cinio bwffe a lluniaeth wedi’u cynnwys. Mae’r cwrs hwn wedi’i eithrio o TAW)
Canlyniadau Dysgu:
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn medru deall y canlynol:
Yr hyn a awgrymir ar ôl cwblhau’r cwrs:
HACCP - cyrsiau wedi'u llunio yn arbennig ar gyfer defnydd y cleient a gallant amrywio o hyfforddiant sylfaenol ar Ymwybyddiaeth HACCP i'r 12 pwynt llawn. HACCP - cynhyrchu cynllun. O ganlyniad, mae'r costau ar gyfer y cyrsiau yn amrywio a chânt eu seilio ar y drafodaeth rhwng Canolfan Bwyd Cymru â'r cleient.
Pris: Cysylltwch am bris
Efallai y bydd modd derbyn cymhorthdal trwy Gynllun Helix ar gyfer busnesau sy’n gymwys.
Tynnwch y drafferth allan o HACCP
Rydym am neilltuo un diwrnod bob mis i Weithdy HACCP Ymarferol. Bydd y gweithdy undydd wedi'i ariannu trwy Brosiect HELIX ac mae wedi'i anelu at fusnesau 'micro', busnesau newydd a busnesau bach a chanolig.
Bydd y gweithdy ymarferol yn cymhwyso holl egwyddorion HACCP i'ch proses penodol a'ch busnes. Gellir defnyddio'r gweithdy fel hyfforddiant anffurfiol i arddangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda thystysgrif presenoldeb yn cael ei dyfarnu ar ddiwedd y dydd.
Gall ein technolegwyr sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant helpu ac arwain eich busnes trwy'r broses o ddatblygu a gweithredu cynllun HACCP. Gall ein technolegwyr hefyd adolygu eich HACCP cyfredol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Fel bonws, gallwch elwa o ddiwrnod ychwanegol gyda thechnolegydd i adolygu eich cynllun HACCP sydd newydd ei weithredu.
Dyddiad Cwrs nesaf: I'w drefnu
Ystod: Un diwrnod
Rhagofyniad: Dim
Dull asesu: Dim
Pris: Am ddim i fusnesau cymwys
Cwrs undydd i rai sy’n gweithio ym maes arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu, lle mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rhai sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant). Nod y cymhwyster yw rhoi cyflwyniad i HACCP, a hefyd cynorthwyo’r rhai sydd, neu a fydd, yn rhan o dîm HACCP (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) ym maes arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu.
Dyddiad Cwrs nesaf: I’w gadarnhau
Ystod: rhaglen un diwrnod
Rhagofyniad: Dim
Dull asesu: arholiad atebion aml ddewis
Unedau RQF: Oes
Pris: £60
Byddai'r rhai a fynychodd yn sefyll y papur arholiad sy'n fwyaf perthnasol i'w swydd:
Y prif bynciau fydd yn cael sylw:
Y ffordd ymlaen a argymhellir:
Highfield yw'r Corff Dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am helpu i ddatblygu a chynnal systemau HACCP mewn amgylchedd gweithgynhyrchu bwyd. Nod y cymhwyster yw rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr fel y gallant fod yn rhan hanfodol o’r tîm HACCP ym maes gweithgynhyrchu a diwydiannau eraill, er enghraifft, y rhai sy’n ymwneud â gwaith dosbarthu a storio. Mae’n addas i ddysgwyr sydd eisoes yn gweithio yn y maes gweithgynhyrchu bwyd sydd â gwybodaeth am beryglon a rheoli bwyd.
Dyddiad Cwrs nesaf: I'w drefnu
Ystod: 2 diwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 2 mewn HACCP ar Cynhyrchu
Dull asesu: arholiad atebion aml ddewis
Unedau RQF: Oes
Pris: £200
Y prif bynciau fydd yn cael sylw:
Highfield yw'r Corff Dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.
Cwrs pum diwrnod wedi'i anelu at reolwyr ac uwch staff sy'n aelodau o dîm HACCP. Nod y cymhwyster yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso HACCP sy'n seiliedig ar Codex. Argymhellir yn gryf bod dysgwyr gyda chymwysterau Diogelwch Bwyd Lefel 4 a HACCP Lefel 3 yn barod, cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn. Byddai profiad o weithio o fewn tîm HACCP yn fanteisiol hefyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am addasrwydd y cymhwyster hwn, rhowch alwad i ni!
Mae'r dystysgrif hon yn dystysgrif oes, ond awgrymir eich bod yn cadw tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus i gadw'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn gyfredol.
Dyddiad Cwrs nesaf: I’w gadarnhau
Ystod: Rhaglen 5 diwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 3 HACCP, Dyfarniad Lefel 4 Diogelwch Bwyd
Dull asesu: Arholiad
Unedau RQF: Oes
Pris: Cysylltwch am bris
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ymarferol pwrpasol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion eich busnes. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Pris: Cysylltwch am bris
Efallai y bydd modd derbyn cymhorthdal trwy Gynllun Helix ar gyfer busnesau sy’n gymwys.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Iechyd a Diogelwch a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion eich busnes. Cysylltwch â ni am y dyddiadau maen nhw'n eu rhedeg.