Llwyddiannau

Gweld sut rydym eisoes wedi helpu llawer o fusnesau bwyd i gyrraedd eu nod

Mae llawer o fusnesau wedi tyfu a ffynnu o ganlyniad i’r cymorth a’r gefnogaeth y mae ein Technolegwyr Bwyd wedi’i roi yn ystod yr ugain mlynedd y mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod ar waith. Dyma ddetholiad bach o astudiaethau achos am gleientiaid rydym wedi gweithio â nhw:

Sefydlodd Jonathan y Pembrokeshire Beachfood Company am ei fod wrth ei fodd yn creu bwyd môr o ansawdd gan ddefnyddio cynhwysion lleol. Dechreuodd y cwmni mewn sied fach hyfryd ar draeth Freshwater West, Sir Benfro o’r enw ‘Café Môr’, lle gweinir pob math o brydau poeth a byrbrydau rhwng cyfnod y Pasg a mis Medi. Cafodd Jonathan y syniad o greu Café Môr am ei fod am ddianc o fywyd gormesol y swyddfa ac ymgolli mewn busnes a ddefnyddiai ei sgiliau arlwyo ac a olygai y gallai dreulio rhagor o amser ger y môr, rhywbeth sy’n rhoi pleser mawr iddo. 

Mae Jonathan, sydd yn ei elfen yn anadlu awyr iach y môr, yn casglu’r holl wymon mae ei angen arno i greu’i gynhyrchion o draethau cyfagos.  Mae yna’n ei brosesu i gyd yn ei uned gweithgynhyrchu bwyd ei hun cyn ei roi yn y bwydydd blasus mae’n eu creu.  Sefydlodd y fenter yn 2010 wedi cael llwyddiant mewn sawl gŵyl a digwyddiad mawr yn ystod blynyddoedd cyntaf y busnes. Fodd bynnag, setlo yn Freshwater West a wnaeth Café Môr yn y pen draw, sef hoff draeth Jonathan fel mae’n digwydd – dyna oedd gwireddu breuddwyd! Enillodd Café Môr enw iddo’i hun yn fuan am ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau i greu prydau diddorol a llawn blas a llwyddodd i ddenu cwsmeriaid lleol o bobman.

“Dw i wrth fy modd â’r môr a dw i ‘di dotio at y ffaith fy mod i bellach yn gallu gweithio yma yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu. Rwy’n teimlo’n angerddol am greu bwyd blasus, ond dim ond drwy ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau lle bo hynny’n bosib. Nid gwneud bwyd yw fy unig fwriad. Rwy’ am greu rhywbeth sydd allan o’r cyffredin ac sy’n llawn blas. Dw i am i bobl deimlo gwefr wrth fwyta fy mwyd.”

Yn 2012, dechreuodd Jonathan gynhyrchu nwyddau i’w gwerthu mewn siopau delicatessen a siopau fferm ac ymhen dim roedd yn cyflenwi siopau fel M&S. Bachodd siop M&S ei gynnyrch ‘Ship’s Biscuits’ i’w gynnwys yn ei chasgliad o nwyddau ‘Best of British’.

Ar ôl bod mewn digwyddiadau megis y ‘Speciality and Fine Food Fair’ a ‘lunch!’, dechreuodd Jonathan gael archebion o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Mae ei fusnes wedi gallu tyfu rhagor drwy allforio a dechreuodd gael archebion o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Sweden, Nigeria ac America, ar ôl iddo fod yn nigwyddiad Blas Cymru yn 2017.

 

Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:

Manteisiodd Pembrokeshire Beachfood ar gymorth Canolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2010, ar ôl i Landsker, a oedd yn helpu Jonathan i sefydlu’i fenter newydd, ei gyfeirio at y Ganolfan. Bryd hynny, roedd angen help ar Jonathan i gynhyrchu cacennau a chynyddu’u cyfnod silff.  Wrth i’w fusnes dyfu, buan iawn y dechreuodd ddatblygu’i gynnyrch newydd, sef y ‘Ship’s Biscuits’, ailwampiodd y rysáit a chafodd help i greu prosesau cynhyrchu cyson. Crëwyd blasau newydd dros y blynyddoedd nesaf ac roedd Canolfan Bwyd Cymru wrth law i helpu â phob proses.

Yn 2012, enillodd Jonathan gystadleuaeth i gyflenwi 20,000 o frechdanau tortilla i’r Gemau Olympaidd. Cafodd Jonathan gymorth gan y tîm yng Nghanolfan Bwyd Cymru i sefydlu’r broses gynhyrchu yn ardaloedd prosesu bwyd arbennig y Ganolfan.

“Roeddem yn ffodus o allu llogi’r ystafelloedd prosesu yng Nghanolfan Bwyd Cymru i gynhyrchu’r brechdanau tortilla i’r Gemau Olympaidd. Ar ôl i gwmni fethu â’n helpu ni ychydig wythnosau cyn y Gemau, camodd y Ganolfan i’r adwy a doedd dim rhaid inni boeni am ddim. Trefnwyd y gwaith cynhyrchu a llwyddwyd i gyflawni’r archeb. Dydw i ddim yn siŵr beth fyddem wedi’i wneud pe na fyddent wedi bod yno i’n helpu ni.”

Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi helpu Jonathan drwy gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau iddo, gan gynnwys creu manylebau i’w gynhyrchion, datblygu cynhyrchion newydd, cynllunio prosesau, gweithredu system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) a microbrofi.  Aeth y tîm o Dechnolegwyr hefyd ati i gynnal dadansoddiadau maeth a rhestru’r cynhwysion i’w cynnwys ar y labeli ar y gwahanol gynhyrchion, a hynny er mwyn bodloni’r holl ofynion a rheoliadau cyfreithiol. 

“Mae popeth i’w gael dan yr un to yng Nghanolfan Bwyd Cymru i’ch helpu chi i weithgynhyrchu bwyd. Gall y staff yno eich helpu chi i ddatblygu eich cynhyrchion ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth maent yn barod iawn i’w rhannu â chi. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy i’m busnes i. Hyd yn oed heddiw, os oes gen i broblem, gallaf godi’r ffôn ac maen nhw’n fy helpu i ddatrys y broblem honno”

Datblygwyd y cynnyrch diweddaraf, ‘Kelchup’, sy’n gyfuniad o sôs coch a gwymon, â chymorth Canolfan Bwyd Cymru. Roedd y swp cyntaf a gynhyrchwyd yn 2017 yn boblogaidd iawn. Gwnaeth yn llawer gwell na’r disgwyl a hedfanodd oddi ar y silffoedd! Rydym yn disgwyl cyflenwi’r cynnyrch hyn yn fwy rheolaidd yn y dyfodol agos.

Buddion y Gefnogaeth:

Roedd Jonathan yn ffodus o fod wedi clywed am Ganolfan Bwyd Cymru yn gynnar iawn yn ei fenter. Oherwydd y gefnogaeth hon, gallai ddysgu am y systemau prosesu cywir a meistrolodd y systemau hynny o’r cychwyn gyntaf, felly roedd yn siŵr ei fod yn cynhyrchu’r bwydydd mewn ffordd ddiogel ac effeithlon reit o’r cychwyn.

“Fi oedd yn ben ar yr holl broses ar y cychwyn. Byddwn yn creu pethau heb fesur y rhan fwyaf o’r cynhwysion. Yng Nghanolfan Bwyd Cymru, dysgais am bwysigrwydd cysondeb, felly dechreuais fesur popeth yn ofnadwy o ofalus a byddwn yn defnyddio’r un broses yn union bob tro y byddwn yn creu saig. O ganlyniad i hyn, daeth yn haws cynhyrchu ein nwyddau yn fasnachol.”

Cafodd Jonathan help Canolfan Bwyd Cymru â nifer o gynhyrchion. Dechreuodd gynhyrchu pethau yng nghegin ei fam gan ddefnyddio’i Rayburn ond mae ganddo erbyn hyn ei gyfleuster prosesu masnachol ei hun. Mae’r Technolegwyr Bwyd wedi rhoi cymorth a chyngor iddo bob cam o’r daith ac mae wedi elwa o’u gwybodaeth a’u harbenigedd i’w helpu ar y daith honno. 

Mae datblygu’r cynnyrch mwyaf newydd yn broses sydd wedi’i hariannu gan brosiect HELIX, sy’n fenter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai angen i’r cwmni fod wedi mynd at weithgynhyrchwyr yn uniongyrchol er mwyn datblygu a chreu’r cynnyrch. 

“Wn i ddim beth fyddwn i wedi’i wneud heb help Canolfan Bwyd Cymru. Rwy’n gwybod y byddai wedi cymryd llawer rhagor o amser imi wireddu fy nghynlluniau. Rwy’ hefyd yn siŵr na fyddwn yn cyflenwi M&S erbyn hyn gan na fyddwn wedi dysgu am yr agweddau masnachol heb gymorth y Ganolfan. Rwy’ wedi bod yn ffodus iawn bod Canolfan Bwyd Cymru wedi gallu rhoi cymaint o gymorth a gwybodaeth imi, a hynny dafliad carreg i ffwrdd.”

Mae cyllid prosiect HELIX wedi galluogi Pembrokeshire Beachfood i ddatblygu’r cynnyrch newydd heb ormod o fuddsoddiad ariannol. Mae’r cwmni bellach yn gallu gwario’r cyllid hwnnw’n fwy effeithiol ar hyrwyddo’r cynnyrch i gynulleidfa ehangach fyth.

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

Mae Jonathan yn dal i sicrhau bod yr holl fwyd mae’r cwmni’n ei gynhyrchu yn dod o’r ardal leol a’i fod o’r ansawdd orau. Mae wedi gweld ei fusnes yn tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n bwriadu gwerthuso’r busnes unwaith yn rhagor a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo ac ar gael rhagor o bobl i brynu’i gynnyrch.

Mae Jonathan wedi dechrau gweithio tuag at ennill achrediad SALSA, ond mae hefyd yn ystyried rhagor o opsiynau o ran cyd-gynhyrchu fel ei fod yn gallu trosglwyddo’i angerdd am greu’r bwydydd blasus yn ei fusnes Café Môr i eraill.

Dyw Jonathan ddim yn bwriadu cael hoe o gwbl. Mae wedi bod yn treulio misoedd y gaeaf yn addasu hen gwch er mwyn creu Café Môr ar ei newydd wedd.  Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn cychwyn tymor yr ymwelwyr adeg y Pasg.

 

BWYD NATURIOL, CYNALIADWY A BLASUS O ORLLEWIN CYMRU

Ffrwyth angerdd dau am arloesi, gwyddoniaeth, yr amgylchedd a bwyd blasus yw Bug Farm Foods.  Daeth y cogydd Andy Holcroft a’r entomolegydd (gwyddonydd trychfilod) Dr Sarah Beynon at ei gilydd i ddatblygu cenhedlaeth newydd o fwydydd blasus sy’n cynnwys trychfilod ac sy’n llesol i’r corff ac i’r amgylchedd.

Dechreuodd y daith yn 2013 pan brynodd Sarah ac Andy, ill dau yn arbenigwyr yn eu meysydd, hen fferm deuluol Sarah, Harglodd Isaf ar gyrion Tyddewi. Arweiniodd blwyddyn gyfan o waith adnewyddu at greu Dr Beynon’s Bug Farm (neu ‘The Bug Farm’), sy’n ganolfan ymchwil, fferm weithredol ac atyniad i ymwelwyr sy’n llwyfannu eu cariad tuag at ffermio cynaliadwy a bwyd blasus. Drwy’r ymchwil a gynhaliodd Sarah i gynhyrchu bwydydd cynaliadwy ac entomophagy yn arbennig, (bwyta trychfilod), ysbrydolwyd Andy i arbrofi â ryseitiau newydd gan ddefnyddio trychfilod. Ei nod oedd creu cynhyrchion sy’n cynnwys trychfilod yn hytrach na chig. Eu hathroniaeth yw datblygu bwydydd sy’n defnyddio cynhwysion mwy cynaliadwy sydd hefyd yn fwy maethlon, gan gynnwys rhagor o brotein, omega 3 ac asidau amino.  Buan iawn y trodd y treialon hyn yn seigiau ar fwydlen bwyty Andy, y ‘Grub Kitchen’ yn y Bug Farm. Hwn yw’r bwyty trychfilod amser-llawn cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol.   

Dair blynedd yn ddiweddarach ac mae’r Bug Farm yn atyniad a chanolfan ragoriaeth academaidd sydd wedi ennill gwobrau lu, gan gynnwys Busnes Newydd Gorau’r Flwyddyn yn 2016 a Busnes y Flwyddyn yng Nghymru 2017 o ran Cynaliadwyedd/Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol/Busnes Gwyrdd. Mae’r Grub Kitchen hefyd wedi cael llawer o lwyddiannau, gan ennill gwobr Busnes Arloesol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2017.

Wedi darlledu rhaglen a gomisiynwyd gan y BBC o’r enw ‘The Bug Grub Couple’ ym mis Awst a Rhagfyr 2017, dechreuodd y ddau ddatblygu eu bisgedi criciaid (eu ‘Cricket Cookies’) gan ddefnyddio brand Bug Farm Foods.  Y nod oedd creu bisgedi a fyddai’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddechrau cynnwys protein trychfilod yn eu diet. Roedd datblygu eu ‘Cricket Cookies’, o’r gegin i’r broses gweithgynhyrchu bwyd ar raddfa fwy, yn gam mawr ond mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Helpodd y rhaglen y cwpl i ddatblygu proffil y busnes ymhellach ac mae’r Cricket Cookies wedi bod yn boblogaidd iawn, yn arbennig felly yn y farchnad anrhegion.

 

 

 

Cymorth Canolfan Bwyd Cymru:

Y nod oedd datblygu’r Cricket Cookies i fod yn gynnyrch a oedd yn fasnachol hyfyw, felly trodd Andy a Sarah at Ganolfan Bwyd Cymru i gael help. Yn gyntaf, gweithiodd y Technolegwyr Bwyd gydag Andy i ailwampio cynhwysion y rysáit er mwyn creu rhywbeth y gellid ei gynhyrchu ar raddfa fwy. Wedi i’r rysáit gael ei haddasu i’w defnyddio mewn system weithgynhyrchu fwy, aethpwyd ati i ddatblygu’r broses o gynhyrchu’r bisgedi. Am fod Andy wedi bod yn cynhyrchu’r bisgedi mewn sypiau bychain, sylweddolodd nad oedd hyn yn fasnachol hyfyw os oedd am eu cynhyrchu ar raddfa fwy. Addasodd y Technolegwyr Bwyd beiriant i’w helpu nhw i awtomeiddio’r broses o dorri’r bisgedi ac i gynyddu’r cyfnodau cynhyrchu.

“Roedd mentro i mewn i gynhyrchu bwyd yn codi braw arnom ar y dechrau am ein bod ni’n awyddus i wneud pethau’n iawn. Ond, roedd y cymorth a’r cyfarwyddyd a gawsom gan Ganolfan Bwyd Cymru yn wych a diflannodd ein hofnau ni. Gallem fod yn sicr ein bod yn gwneud pethau’n iawn o’r dechrau’n deg ac nad oeddem yn gwneud camgymeriadau.” 

Helpodd y Technolegwyr Bwyd nhw â’r system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) ac i gofrestru ag Adran Iechyd yr Amgylchedd. Ar ôl datblygu’r cynnyrch, aethant ati i ddadansoddi maeth a phroffil microbiolegol y bisgedi, eu cyfnod silff a’r cyfrifon ar gyfer y labeli.

“Mae’r Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru wedi ein helpu ni drwy’r broses i gyd ac maen nhw wedi trosglwyddo’u gwybodaeth inni fel ein bod yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r sgiliau newydd a ddysgom ni oddi wrthyn nhw. Mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy ac os oes gennym ni broblem, neu os ydym am wybod rhywbeth, gallwn godi’r ffôn a gofyn cwestiwn.” 

 

Buddion y Gefnogaeth:

Mae’r holl gefnogaeth a gafodd The Bug Farm i ddatblygu’r ‘Cricket Cookies’ a’u cyflwyno i’r farchnad wedi’i hariannu gan brosiect HELIX, sy’n fenter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai’n rhaid i’r cwmni fod wedi ariannu’r fenter hon ei hunan. 

“Rydym yn fusnes newydd bychan a doedd gennym ni ddim mo’r cyfalaf i fuddsoddi mewn datblygu, profi a sefydlu’r broses. Yn ogystal â hynny, nid oes gennym ni brofiad o weithgynhyrchu, felly doedd gennym ni ddim mo’r wybodaeth angenrheidiol i fwrw ‘mlaen â’r syniad.  Oni bai am gefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru, byddem wedi gwario ffortiwn ar ymgynghorwyr a byddem wedi mentro i fuddsoddi arian mewn arbrawf arall na fyddem, yn ôl pob tebyg, wedi bwrw ‘mlaen ag ef”.

Mae cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru wedi galluogi Bug Farm Foods i ddatblygu. Maent wedi gallu dysgu popeth posib ynglŷn â rhedeg eu busnes prosesu bwyd eu hunain â’r sicrwydd bod rhywun ar ben arall y ffôn os oes angen rhagor o gefnogaeth arnynt.   

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

Ers hynny, mae’r cwpl wedi cael rhagor o gyllid drwy Lywodraeth Cymru a thrwy phrosiect SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach) Innovate UK i ddatblygu bwydydd sy’n cynnwys protein trychfilod i’w bwyta mewn ysgolion. Y bwriad yma yw lleihau’r halen, y siwgr a’r brasterau dirlawn yn niet plant. Mae’r cyllid hwn hefyd yn galluogi’r busnes i ehangu a chreu’i gyfleusterau Ymchwil a Datblygu ei hun ar y fferm. Drwy hyn, bydd rhagor o gynhyrchion newydd yn cael eu datblygu i’w hychwanegu at yr ystod o gynhyrchion sy’n perthyn i’r brand Bug Farm Foods.

Mae Technolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru yn eu helpu nhw â diwyg y ffatri newydd ac i ddod o hyd i’r cyfarpar angenrheidiol. Pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, byddant hefyd yn eu helpu nhw â HACCP a sicrhau bod y cyfleusterau yn barod i’w cymeradwyo gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.

Mae gan Sarah a Andy lawer o syniadau yr hoffent eu hystyried a’u bwriad yw parhau i ehangu ystod o gynhyrchion Bug Farm Foods yn y dyfodol. 

Yn 2000, daeth pedwar o ffermwyr organig o Gymru a oedd yn gwerthu llaeth i bobl leol ynghyd i sefydlu cwmni cydweithredol Calon Wen, ac mae nifer o ffermydd teuluol bellach yn rhan o’r cwmni cydweithredol. Maent yn credu’n gryf mewn cadw pethau’n syml. Mae’r gwartheg yn pori porfeydd organig nad ydynt wedi’u trin â chwistrelli neu gemegau ac mae’r caeau’n gyforiog o feillion. Mae’r gwartheg hefyd yn cael digon o ymarfer ac awyr iach allan yn y caeau a phan fônt yn barod, mae’r ffermwyr yn eu godro nhw eu hunain. Mae cwmni Calon Wen yn talu ei ffermwyr am ansawdd y llaeth yn ogystal â faint o laeth maent yn ei gynhyrchu. Golyga hyn nad yw’r ffermwyr yn cael eu gwthio tuag at systemau llaetha trwm.

Yn 2003, dechreuodd Calon Wen greu ystod o gynhyrchion llaeth gan ddefnyddio llaeth organig o’u ffermydd. Cynhyrchwyd menyn ar y dechrau ac maent erbyn hyn yn cynhyrchu caws ac iogwrt wedi’i rewi hefyd. Y cwmni’n sy’n creu’r cynhyrchion i gychwyn ac mae’n defnyddio cwmnïau prosesu allanol i’w gweithgynhyrchu ar ei ran.

Mae Calon Wen bellach yn un o brif frandiau Cymru ac mae’n cyflenwi siopau Tesco, Sainsbury’s, Morrison’s a Waitrose. Mae eu nwyddau hefyd ar gael mewn sawl siop annibynnol yng Nghymru.

Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:

Daeth cwmni Calon Wen i gyswllt â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2016 am ei fod yn awyddus i ddatblygu’i gaws organig ei hun. Anfonodd Canolfan Bwyd Cymru ei Dechnolegydd Gwneud Caws arbenigol i gynorthwyo Calon Wen i ddatblygu’i gynnyrch. Aeth Canolfan Bwyd Cymru ati i ddatblygu caws glas newydd y cwmni, y Preseli Blue, a chynhaliwyd nifer o dreialon i berffeithio’r rysáit a’r prosesau ar ran y cwmni. 

‘Rydym wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi gallu manteisio ar gyfleusterau cynnyrch llaeth masnachol Canolfan Bwyd Cymru i ddatblygu ein caws yn ogystal â gwybodaeth ac arbenigedd y Technolegwyr Bwyd. Maen nhw wedi datblygu’r caws ac maent wedi hyfforddi pobl i’w gynhyrchu ar ein rhan.’

Yna, mae’r Technolegwyr Bwyd yn treulio’u hamser yn arwain y cynhyrchwyr drwy’r broses gweithgynhyrchu caws. Yn yr achos hwn, dewiswyd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn y Gogledd. Y nod yw sicrhau y gall Canolfan Bwyd Cymru Bodnant lwyddo i efelychu’r cynnyrch ar eu rhan. Mae gan y caws newydd, sef y Preseli Blue, nod masnach erbyn hyn a dylai gyrraedd silffoedd yr archfarchnadoedd yn gynnar yn 2018.

 

Buddion y Gefnogaeth:

Mae’r broses o ddatblygu’r cynnyrch newydd wedi’u hariannu drwy brosiect HELIX, sef menter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai angen i’r cwmni fod wedi mynd at weithgynhyrchwyr caws yn uniongyrchol er mwyn datblygu’r caws a’i gynhyrchu. 

‘Byddai cynhyrchu’r caws glas wedi bod yn broses llawer anos petawn wedi gorfod mynd at rywun arall, gan y byddai gennym lai o reolaeth dros y rysáit. Un fantais arall inni yw’r ffaith nad ydym wedi ein ‘clymu’ wrth un cwmni gweithgynhyrchu penodol am mai ni sy’n berchen ar y rysáit caws glas. Rydym yn gallu dewis y cwmni gweithgynhyrchu gorau i wneud y caws ar ein rhan.’

Mae sicrhau cyllid drwy brosiect HELIX wedi golygu bod Calon Wen wedi gallu datblygu’r cynnyrch newydd heb lawer o fuddsoddiad ariannol. Gall y cwmni yn awr ddefnyddio’r cyllid hwnnw’n fwy effeithiol er mwyn dod â’r cynnyrch i’r farchnad a’i hyrwyddo i gynulleidfa ehangach.

 

 

 

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

Mae Canolfan Bwyd Cymru ar hyn o bryd yn cynorthwyo Calon Wen â’r broses Sicrwydd Cyflenwyr, a hynny er mwyn gwarantu bod cysondeb yn y ffordd mae’r caws newydd yn cael ei gynhyrchu a bod y broses honno mor effeithlon â phosib.  Mae’r cymorth hwn hefyd yn cael ei ariannu drwy brosiect HELIX, sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd systemau gweithgynhyrchu bwydydd mewn cwmnïau bach a chanolig.

Bydd Calon Wen yn parhau i arbrofi â blasau a’r gobaith yw y bydd yn gallu datblygu rhagor o gynhyrchion llaeth newydd yn y dyfodol agos. 

O’i wreiddiau di-nod, mae cwmni charcuterie o Gymru, Cwm Farm, yn brysurach nag erioed o’r blaen yn cyflawni archebion i siopau megis Selfridges ac yn allforio’i nwyddau i Ganada. Bwriad gwreiddiol y perchnogion, Ruth ac Andrew Davies, oedd cynhyrchu’u porc a’u selsig eu hunain ar y fferm â dwy hwch ifanc yn unig. Fodd bynnag, ymhen cwta chwe blynedd, tyfodd y fenter i fod yn fusnes charcuterie llawn weithredol, a rhaid eu hedmygu am hyn. 

 ‘Mae’n rhaid ichi fod yn hollol ymroddedig os ydych am weithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwydydd. Rhaid ichi fod yn angerddol am y peth ac yn barod i weithio’n galed, felly peidiwch â disgwyl i bethau ddigwydd dros nos!’

Dechreuodd y fenter yn 2010 pan brynodd y perchnogion, y saer Andrew Davies a’i wraig Ruth, a oedd yn weinyddwraig mewn ysgol, fferm Cwm Farm yn Rhyd-y-fro ger Pontardawe. Arloesodd y pâr priod â’r syniad o ddefnyddio’u cynnyrch eu hunain yn eu cerbyd arlwyo, y ‘Poachers Pantry’. Byth ers hynny, mae pobl wedi dotio ar eu cynnyrch. Roedd y selsig a’r byrgyrs arobryn mor boblogaidd fel y penderfynodd y pâr ehangu’r cynhyrchiant a gwerthu’r cig a ddeuai o’u cenfaint o foch cyfrwyog a moch Gloucestershire Old Spot. 

Felly, nid yw’n syndod bod eu cynhyrchion wedi ennill gwobrau lu ers hynny. Enillodd eu selsig bara lawr ffres Seren Aur yng Ngwobrau Gwir Flas 2015 a chyflwynodd Rosemary Shrager y wobr gyntaf iddynt am eu salami bara lawr yn y Great British Farm Produce Awards. Mae eu cynhyrchion hefyd wedi ennill sêl bendith y Teulu Brenhinol. Archebwyd dwy fasged o nwyddau Nadoligaidd y llynedd i’w hanfon i Highgrove at Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Siarl a derbyniodd Ruth lythyr oddi wrth Balas Buckingham yn diolch iddi.   

Yn dilyn rhuthr o archebion ar ôl cwrdd â phrynwyr o bedwar ban byd yn nigwyddiad Blas ar Gymru Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017, maent yn ddiweddar wedi arwyddo cytundeb i weithredu fel prif gyflenwr i Selfridges.  Eu bwriad yw gwerthu drwy’r Deyrnas Gyfunol yn adrannau nwyddau ‘i’w bachu’ Selfridges, a bydd lansiad cynhyrchion mawr yn digwydd yno ddiwedd Awst.  Dramor, mae prynwr o Ganada wedi allforio’r salami bara lawr er mwyn hyrwyddo’r cynhyrchion mewn siopau delicatessen a busnesau drwy Ganada. Mae’r adborth hyd yma wedi bod yn rhagorol a bydd Ruth yn hedfan allan yno’n fuan i gwrdd â’r prynwyr! 

 

Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:

Yn dilyn taith i Ddenmarc i gasglu ffeithiau yn 2013, penderfynodd Ruth gynhyrchu ffyn salami a chwrw. Awgrymwyd wrthi y dylai gysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i gael cymorth â’r cam nesaf yn y broses. I gychwyn, derbyniodd Ruth hyfforddiant bwtsiera yn y Ganolfan er mwyn datblygu rhagor ar ei sgiliau. Yn ystod y 18 mis a dreuliodd yn y Ganolfan, manteisiodd Ruth ar gyngor technegol a chymorth gan Dechnolegwyr Bwyd y Ganolfan i ddatblygu’i chynnyrch.

“Rwy’n cofio poeni am y peth a meddwl, sut yn y byd ydw i’n mynd i wneud hyn? Ond, diflannodd y pryderon hynny’n syth wedi imi gyrraedd Canolfan Bwyd Cymru. Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun a gwyddwn fod gen i help a chefnogaeth. Gwnaeth hyn fyd o wahaniaeth.”

Yn ystod y cyfnod hwn, crëwyd tri math o fyrbryd salami, sef blas bara lawr, blas paprica traddodiadol a blas sbeisys Moroco. Y ffyn salami bara lawr yw eu cynnyrch mwyaf poblogaidd hyd yn hyn.  

 

Buddion y Gefnogaeth: 

Cafodd Ruth help drwy gydol y broses, o feithrin sgiliau newydd i ddatblygu’i chynhyrchion newydd yn barod i’r farchnad. Gallai ddefnyddio’r cyfleusterau a’r cyfarpar yn y Ganolfan heb orfod mynd i gost enfawr a phrynu’i chyfleusterau ei hun. Drwy hyn, mae Ruth wedi gallu tyfu ei busnes cyn bwrw ‘mlaen a datblygu’i chyfleuster cynhyrchu ei hun.

“Wnewch chi fyth mo hyn ar eich pen eich hun. Mae llawer yn gallu mynd o’i le wrth gynhyrchu salami, ac mae’n rhaid ichi gael pethau’n gywir o’r dechrau un er mwyn ei werthu i’r cyhoedd. Yn fy marn i, roedd cydweithio â Chanolfan Bwyd Cymru pan oeddwn yn datblygu fy nghynnyrch, ynghyd â’r cymorth a gefais oddi wrth HACCP, yn hollbwysig gan imi fagu arferion da o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn bendant yn argymell y lle i bobl eraill sydd am fynd i mewn i’r diwydiant.”

Aeth Ruth yn ei blaen i ddatblygu’i ffatri ei hun ger ei chartref ym Mhontardawe. Daeth Technolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru i’w helpu hi i gynllunio’r safle ac i ddod o hyd i’r cyfarpar roedd ei angen ar y cwmni i ddatblygu’i gynhyrchion yn effeithlon. 

‘Ni fyddem yn gwneud hyn heddiw oni bai am yr help a gawsom oddi wrth Dechnolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru. Nhw sydd wedi ein helpu ni i gael pethau’n gywir o’r dechrau un. Maent yn eich helpu a’ch cefnogi chi ac yn eich dysgu chi sut i brosesu bwyd y ffordd gywir, a hynny er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r holl safonau iechyd a diogelwch.  Roedd y cymorth a’r gefnogaeth a gawsom wrth ddatblygu ein cynhyrchion, ac wrth gynllunio ein ffatri, yn amhrisiadwy.’

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

O’u ffatri ym Mhontardawe, bwriad Cwm Farm yw parhau i ddatblygu’u blasau ac maent yn bwriadu lansio Salami Cennin a Garlleg Du eleni.  Maent hyd yn oed yn prosesu cig carw Parc Margam ac maent yn ystyried cigoedd eraill y gallent eu prosesu er mwyn creu cynhyrchion newydd blasus. 

Am fod yr archfarchnadoedd mawr wedi mynegi diddordeb yn eu cynnyrch, maent ar hyn o bryd yn gweithio tuag at achrediad SALSA.

 

The Wickedly Welsh Chocolate Company was born out of Karen and Mark’s passion for delicious tasty chocolate and fun.  Their talented and enthusiastic team produce a range of high quality and contemporary, hand-crafted chocolates from their artisan factory in Haverfordwest, Pembrokeshire, which also houses their exciting and unique visitor centre.

Karen trained as a chocolatier whilst she was a University student, she developed a keen interest in all things chocolate but also enjoyed other areas of the business particularly sales and marketing.  This led her into a career as an account manager which she did for over 15 years, during which time she met her husband, Mark.  Mark trained as a mechanical engineer in his home country of Ireland but came to the UK in his early twenties to broaden his experience.  He also developed a passion for sales and marketing and enjoyed a successful career selling in several different industries including IT and Telecommunications. 

When Karen and Mark married and started their family, several tragic events combined with the pressures of 2 corporate careers made them re-evaluate things.  They considered several ideas but having discovered a gap in the tourism and chocolate market in Karen’s home county of Pembrokeshire, they decided to sell their home and move their young family to West Wales.  Their plan was to develop a modern Welsh chocolate company, creating exciting new flavours and sharing their passion for making chocolate with all those who visit.  They found a building in Haverfordwest and spent 6 months renovating it using the proceeds from the sale of their house!  A lot was riding on this venture, but the gamble paid off and Wickedly Welsh Chocolate opened its doors in April 2014 to 1500 visitors on day one alone!

 Four years on and the factory and demonstration areas have proved very popular with over 45,000 people visiting every year to learn about how chocolate is made and have a go themselves.  During this time the awards have rolled in too, including Best New Start up, Most Exciting New Business and Best New Tourism Business.

The company now boasts a delicious range of chocolates and has even developed its own range of speciality chocolates with health benefits for diabetes and high blood pressure.  They have exhibited at trade fairs throughout the UK including Speciality and Fine Foods, Taste Wales and Food Matters Live, generating orders and building exciting sales opportunities.  In 2017, they won 5 Great Taste Awards, making them second to only one other chocolate company in the world for the most Great Taste Awards achieved.

 

 

 

Support Provided by the FCW: 

Prior to the launch of Wickedly Welsh Chocolate in April 2014, the team received Level 2 Award in Food Safety training at Food Centre Wales.  The one day training course was delivered at Food Centre Wales by one of the qualified tutors, who are also Food Technologists at the centre, with the exam held at the end of the day. 

Following the successful launch of the company, the Wickedly Welsh Chocolate range grew considerably and they were supplying many small retailers throughout Wales.  In March 2017, the company exhibited their range at the ‘Taste Wales’ event in Celtic Manor and received a lot of interest from larger retailers and catering companies who require their suppliers to have SALSA (Safe And Local Supplier Approval) Accreditation.  Mark and Karen quickly identified the need to get SALSA to further develop their business and decided to take guidance offered by Food Centre Wales.  The Food Technologists started to work with them by conducting a gap analysis of all their processes and procedures to identify the areas they needed to work on to achieve the SALSA Accreditation. 

“We didn’t realise until speaking to Food Centre Wales at the event, that we could get help with this process through Project HELIX, so we decided to take them up on this instead of trying to do it on our own.  The Food Technologists have really helped us understand what is required to achieve SALSA.   They have explained clearly what needs to be done and also help with mentoring and training throughout the process to ensure we achieve SALSA.” 

The food technologists also delivered a full day HACCP training session for the whole team at the factory, to ensure they were all knowledgeable on HACCP processes and confident to put them into practise.  Receiving the HACCP training from Food Centre Wales onsite enabled staff to learn in their own working environment, making it easier to apply the HACCP principals to their own processes and procedures, it also meant they did not have the extra expense of staff travelling off-site.

 

Benefit of the Support:

The third party accreditation mentoring and support has been funded through Project HELIX, which is a Welsh Government initiative delivered by Food Innovation Wales under the European Agricultural Fund for Rural Development Fund.  Had this support not been available at Food Centre Wales, the Company would have had to navigate the SALSA scheme themselves, making it considerably more challenging to gain the all-important accreditation.

“Having the Food Technologists has been so beneficial for us.  To have someone experienced explain where the gaps are, but also teach you how to fill those gaps has been so much easier than doing it all ourselves.  They have really mentored us through the whole process and I’m grateful that we have been able to take advantage of this local, expert support, enabling us to get the process done quickly and professionally.”

Achieving SALSA Accreditation will enable Wickedly Welsh Chocolate to continue its growth plans, reaching new markets sectors and opening up larger opportunities.  Project HELIX also funded the HACCP training under ‘Knowledge Transfer’, which meant the business was able to upskill its staff and involve them all in achieving SALSA standards without having to fund it themselves.

 

 

Future Plans:

Wickedly Welsh Chocolate will complete the SALSA accreditation shortly.  The plan is to maintain the brand as a producer of premium handmade Welsh chocolates and focus on speciality retailers whose customers are happy to pay for a premium crafted product.

“We will definitely maintain our working relationship with Food Centre Wales as part of our external network of business support and welcome any guidance they can offer us in the future development of our business”

Karen and Mark are well on their way to achieving their 5 year business targets and are excited about continuing to develop the brand whilst working on new and varied opportunities.  They plan to encourage their own children to get involved in the business as they grow up, enabling them to develop their own work skills and to keep it as a thriving family business for many years to come.

Mae’r Little Welsh Deli yn fusnes teuluol o Lanelli sy’n arbenigo mewn cynhyrchu pasteiod a chacennau tun pobi bas a wnaed â llaw. Mae’r busnes, a gychwynnodd yng nghegin ddi-nod cwpl priod, wedi ehangu ac mae ganddo bellach ei gyfleuster cynhyrchu ei hun er mwyn cwrdd â’r galw am eu pasteiod blasus. Dechreuodd y fenter fel hobi, yn gwneud cacennau a’u gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr. Ond, wedi iddynt ddechrau cynhyrchu’u pasteiod cartref, fe ddechreuon nhw gyflenwi marchnad lawer mwy.

“Cawsom y syniad o wneud pasteiod drwy hap a damwain. Gwnaeth Clare lwyth ohonyn nhw un penwythnos i farchnad ffermwyr ac fe werthom bob un ohonyn nhw’n syth! Meddyliom efallai y dylem wneud rhagor, ac felly y bu.”

Roedd eu pasteiod mor boblogaidd mewn marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd drwy Gymru fel y tyfodd y busnes i’r graddau nad oedd eu cegin arlwyo yn y seler gartref yn gallu ymdopi, ac felly rhaid oedd ailystyried pethau. Fel cyn nyrs, roedd Clare wedi hen arfer ag oriau gwaith hir, felly gweithiodd yn galed i ddatblygu’r busnes. Pan gollodd ei gŵr, Ryan, ei swydd, hon oedd yr adeg berffaith i arwain y busnes tua’r cam nesaf.

Symudodd y ddau i mewn i’w huned eu hunain yn Llanelli y llynedd ac maent erbyn hyn yn gallu cynhyrchu 2,500-4,000 o basteiod bob wythnos a chyflenwi cacennau tun pobi bas i gwmni Castell Howell. Mae’r ddau yn gweithio llawn-amser yn y busnes ac maent yn cyflogi eu nith, eu mab a ffrind i’w helpu nhw. Maent yn dîm bach a chyfeillgar ac maent i gyd yn mwynhau cydweithio, drwy lwc!

Gellir prynu eu pasteiod mewn garejis, siopau coffi a pharciau carafanau ar draws De a Gorllewin Cymru. Maent hefyd yn cyflenwi Maes Awyr Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.

 

Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru: 

Daethant i gyswllt â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2015 gan fod eu ceginau a’u cyfarpar gartref wedi mynd yn rhy fach i ddiwallu’u hanghenion. Roedd angen iddynt felly ddod o hyd i rywle i wneud eu pasteiod. Daethant o hyd i Ganolfan Bwyd Cymru ar-lein, heb sylweddoli faint o gyfleusterau roedd gan y Ganolfan i’w cynnig.

“Rwy’n cofio cael cip ar ardaloedd cynhyrchu’r Ganolfan Fwyd am y tro cyntaf a gweld yr holl gyfarpar gan feddwl sut yn y byd y gallwn ni efelychu hyn!!”

Helpodd y Technolegwyr Bwyd yn y Ganolfan nhw i efelychu’r prosesau ar raddfa lawer mwy gan ddefnyddio’r cyfarpar masnachol yn y Ganolfan. Cawsant gymorth â’r system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) er mwyn sicrhau bod eu systemau i gyd yn dilyn protocol diogelwch bwyd. Defnyddiwyd y cyfleusterau i wneud llenwad eu pasteiod ac i gymysgu’r toes. Wedi iddynt berffeithio’u rysáit er mwyn cynhyrchu ar raddfa fwy, byddent yn dod i’r Ganolfan unwaith yr wythnos a threulio diwrnod yn defnyddio’r cyfleusterau ar y safle. 

Yn ystod y 18 mis o waith prosesu ar y safle a gwrando ar gyngor, fe newidion nhw eu dulliau cynhyrchu er mwyn cynyddu’u capasiti.

“Yn y pen draw, roedd y rhan fwyaf o’r cynhwysion yn cael eu cludo i’r Ganolfan, gan gynnwys y llysiau wedi’u torri’n barod, e.e. y winwns, yn hytrach na gwneud hyn i gyd ein hunain. Aethom hefyd ati i fireinio ein systemau ac roeddem yn gallu cynhyrchu hyd at 6 o wahanol lenwadau mewn un diwrnod.”

Ar ôl cael grant, dechreuodd y cwpl chwilio am gyfleusterau cynhyrchu yn nes at adref. Fe chwilion nhw’n ofalus am gyfarpar ac fe lwyddon nhw i ariannu gweddill y datblygiad eu hunain.

 

Buddion y Gefnogaeth: 

Gallai’r cwmni Little Welsh Deli ymarfer a gwella’u dulliau cynhyrchu tra roeddent yn defnyddio’r Ganolfan Fwyd. Gallent brofi’u systemau heb orfod buddsoddi’n helaeth mewn rhagor o gyfarpar newydd, gan alluogi’r busnes i dyfu heb fynd i ddyled. Roedd y Technolegwyr Bwyd yn y Ganolfan wrth law gydol yr amser i’w hyfforddi nhw i ddefnyddio’r cyfarpar ac i roi cyngor iddynt er mwyn i’r broses lifo’n rhwydd. Helpodd y Ganolfan nhw â’r gofynion HACCP er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir o’r dechrau. Drwy hyn, maent wedi gallu mabwysiadu systemau effeithiol er mwyn sefydlu’u cyfleuster cynhyrchu eu hunain. 

“Ni fyddem yma nawr oni bai am Ganolfan Bwyd Cymru. Nhw a roddodd yr hwb roedd ei angen arnom ni er mwyn symud i’r cam nesaf. Cawsom ddefnyddio’r cyfleusterau a’r cyfarpar i gynyddu ein cynhyrchiant. Drwy hyn, datblygodd ein menter i fod yn fusnes cynhyrchu bwyd llawn-amser.” 

Yn gyffredinol, mae defnyddio cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru am 18 mis wedi helpu’r busnes i ffynnu ac maent wedi gallu ariannu’r cam nesaf yn eu datblygiad â chymorth y grant a gawsant.  Maent wedi gallu tyfu’r busnes yn raddol a chynyddu’u gweithlu er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am eu cynnyrch.

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

Ar ôl plesio prynwr un o’r prif archfarchnadoedd mewn sesiwn flasu yn ddiweddar, y cam nesaf yw sicrhau achrediad SALSA (Cymeradwyaeth i Gyflenwyr Diogel a Lleol), er mwyn i’r cwmni allu cyflenwi’r archfarchnad honno. 

Bydd Technolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru yn eu helpu nhw i wybod pa ddogfennau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt er mwyn ennill yr achrediad. Yna, byddant yn eu cynorthwyo i greu’r polisïau, y gweithdrefnau a’r cofnodion hynny. Bydd help ychwanegol yn cael ei roi i sicrhau bod monitro parhaus yn digwydd a bod addasiadau yn cael eu gwneud ar gyfer archwiliadau yn y dyfodol. 

“Mae’n anodd dod o hyd i’r amser i weithio tuag at y gymeradwyaeth SALSA pan rydym mor brysur yn cynhyrchu, felly bydd arweiniad Canolfan Bwyd Cymru yn hyn o beth yn help mawr inni. Mae hynny’n llawer gwell na cheisio’i wneud ar ein pen ein hunain”.

Mae cynyddu cynhyrchiant hefyd yn arwain at broblemau o ran capasiti ac maent ar hyn o bryd yn ystyried awtomeiddio rhagor ar eu gwaith cynhyrchu drwy gyflwyno gwasg grimpio i orffen eu pasteiod. Ar hyn o bryd, mae hyn i gyd yn cael ei wneud â llaw. Byddai hyn yn eu galluogi nhw i gynyddu capasiti a chyflawni archebion mwy fyth yn y dyfodol.

 

 

Creadigaeth Paul a Linda Mear yw Popty Tan y Castell. Dechreuodd Paul gynhyrchu’r pice ar y maen enwog ar y fferm deuluol ar hen ffwrn Aga a dechreuodd eu gwerthu i siopau lleol ger ei fferm.

Pan sicrhaodd Paul ddigon o gyfalaf, symudodd y cwpl y busnes i hen fwthyn a sefydlu cegin er mwyn cwrdd â’r galw am eu cynnyrch gan eu bod erbyn hynny’n gwerthu i westai bach a mawr, caffis a bwytai.  Unwaith eto, doedden nhw ddim yn gallu cwrdd â’r galw a doedd dim digon o le yn y bwthyn i wneud y gwaith. Daeth Paul o hyd i uned yn Arberth mewn parc busnes bychan nid nepell o’i gartref. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Paul yn cadw dwy swydd, y naill yn darlithio mewn coleg lleol a’r llall yn gwneud pice ar y maen hyd oriau mân y bore.

Mynegodd archfarchnad leol ddiddordeb yn y cynnyrch a gofynnodd i Paul gyflenwi rhai siopau yng Nghymru. Erbyn heddiw, mae gan gwmni Tan y Castell ddau bopty pwrpasol mewn 6 ystâd ddiwydiannol ac mae’n cyflogi dros 40 o weithwyr llawn-amser. Mae dros ugain mlynedd o nosweithiau hwyr a gwaith caled wedi talu ar eu canfed gan eu bod bellach ymhlith y poptai mwyaf adnabyddus ac uchel eu parch yng Nghymru. Nhw hefyd sy’n cynhyrchu’r pice ar y maen gorau ar y farchnad! Maent yn weithgynhyrchwyr bwydydd balch sydd wedi ennill achrediad AA oddi wrth  Gonsortiwm Manwerthu Prydain (y BRC) ac maent yn cynhyrchu nwyddau wedi’u pobi o’r ansawdd orau. Dechreuwyd y busnes ag un cynnyrch ond mae ganddynt bellach dros 15 o gynhyrchion. Yn eu plith mae’r pice ar y maen traddodiadol, y teisennau gradell tymhorol modern a blasus, y bara brith arobryn a’r teisennau brau a wnaed â menyn. Gallwch brynu eu cynnyrch yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr ac mae Cynghorau Sir, cyfanwerthwyr cenedlaethol, cwmnïau rheilffordd, gwestai, cwmnïau moduro ar ben ucha’r farchnad a Fortnum and Mason hefyd yn gwsmeriaid iddynt.

 

Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:

Mae Tan y Castell wedi cael cefnogaeth oddi wrth Ganolfan Bwyd Cymru yn barhaus dros y 10 mlynedd diwethaf. Maent wedi cynnal ambell brosiect datblygu yn y Ganolfan. Prif nod y prosiect cyntaf oedd ymestyn cyfnod silff un o’u cynhyrchion er mwyn iddynt gyrraedd marchnadoedd newydd. Gweithiodd y Technolegydd Bwyd yn y Ganolfan â nhw i ail-greu’r rysáit er mwyn ymestyn cyfnod silff un o’u cynhyrchion bara brith. 

‘Fe dreulion ni rai wythnosau yn y Ganolfan yn manteisio ar gefnogaeth a chymorth y Technolegydd Bwyd am ein bod yn ei chael hi’n anodd ymestyn cyfnod silff y cynnyrch ar y pryd.  Rydym yn ffodus o allu defnyddio cyfleusterau ac arbenigedd fel hyn yn lleol. Roedd gwybodaeth y Technolegydd Bwyd, ynghyd â’r cyfleusterau yno, yn hollbwysig wrth inni ddatblygu’r cynhyrchion newydd.’

Pan benderfynodd y cwmni greu rhagor o gynhyrchion a datblygu cynhyrchion heb glwten, at Ganolfan Bwyd Cymru y trodd gyntaf. Helpodd y Technolegwyr Bwyd nhw i ddod o hyd i’r holl ddeunyddiau crai roedd eu hangen arnynt i ddatblygu’u cynhyrchion. Cynhaliwyd nifer o dreialon ar y teisennau brau heb glwten newydd hefyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Cynorthwyodd y Technolegwyr Bwyd nhw i ddatblygu’u cynnyrch newydd ac i berffeithio’r ryseitiau yn barod i’w cynhyrchu.

Drwy hyn, roedd modd iddynt ddefnyddio’r cyfleusterau heb darfu ar eu ffatrïoedd cynhyrchu a oedd eisoes yn brysur.

Yn ogystal â hyn, pan newidiodd y BRC eu canllawiau rai blynyddoedd yn ôl, cawsant gymorth Canolfan Bwyd Cymru i’w deall ac i fabwysiadu prosesau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r canllawiau newydd.

 

Buddion y Gefnogaeth:

Mae’r Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru wedi cefnogi menter pice ar y maen Tan y Castell pan oedd angen y gefnogaeth honno arnynt. Maent wedi defnyddio’r cyfleusterau datblygu a phrosesu yno ar sawl achlysur sy’n golygu nad ydynt wedi gorfod amharu ar eu gwaith cynhyrchu o ddydd i ddydd.

‘Rydym wedi bod yn ffodus o fod wedi cael cymorth a chyngor y Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru dros y blynyddoedd. Mae wedi bod o fudd mawr inni allu trafod ein syniadau neu broblemau technegol â rhywun sy’n wybodus iawn ac sydd â phrofiad o’r diwydiant.’

 Drwy ailddatblygu ac ail-greu’r cynnych yng Nghanolfan Bwyd Cymru, mae Tan y Castell wedi gallu parhau â’u gwaith cynhyrchu arferol ac nid yw’r broses wedi amharu dim ar faint maent yn ei gynhyrchu. Mae cymorth y Technolegwyr Bwyd wedi eu galluogi nhw i ddatrys problemau â’r cynnyrch yn gyflym ac effeithlon. Maent hefyd wedi gallu gwneud y gwaith hwn â hyder bod eu syniadau a’u gwaith datblygu newydd yn ddiogel. 

‘Rydym yn ffodus iawn am ein bod yn gallu cysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i ofyn cwestiwn ar unrhyw adeg ac rydym yn hyderus bod gan y staff yr ateb ac, yn bwysicach na dim i ni, eu bod yn parchu ein cyfrinachedd. Rydym yn teimlo’n ddiogel yn siarad â’r Technolegwyr Bwyd yno.’  

Heb gymorth Canolfan Bwyd Cymru, byddai’n rhaid iddynt fod wedi troi at gynhyrchwyr neu ymgynghorwyr eraill i wneud y gwaith hwn. Byddai hyn wedi bod yn llawer drutach iddynt, yn ariannol a hefyd o ran cyfrinachedd. 

 

Y Cynlluniau i’r Dyfodol:

Er nad oes cynlluniau mawr ar y gweill, mae Tan y Castell yn bwriadu parhau i dyfu’r busnes yn y dyfodol. Byddant yn parhau i gysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i gael cymorth a chefnogaeth pan fo angen.