Hwb i fusnesau bwyd a diod newydd!

Ydych chi wedi darganfod sgiliau coginio newydd yn ystod y cyfyngiadau symud? Neu a oes angen help arnoch chi i droi eich hobi yn fusnes?

I rai mae’r cloi mawr wedi bod yn gyfnod o arbrofi a dysgu yn y gegin, mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn brysur gyda phobl yn rhannu eu creadigaethau pobi, mae blawd wedi bod yn brin iawn ac mae'r galw am becynnau pobi gartref wedi bod yn enfawr.

Er bod y cloi mawr oherwydd y Coronafeirws wedi tarfu ar fywydau ledled y wlad, mae hefyd wedi rhoi cyfle i bobl sy'n gaeth i’w cartrefi fod yn greadigol yn y gegin ac ailddarganfod eu hoffter o goginio. Gyda llai o fynd a dod i'r siopau, mae cogyddion wedi gorfod bod yn ddyfeisgar a defnyddio’u dychymyg wrth gynllunio prydau bwyd.

Felly, rydych chi wedi creu cynnyrch arbennig, wedi meddwl am syniad ar gyfer brand gwahanol ac rydych chi eisiau rhannu eich cynnyrch gyda gweddill y byd. Beth sy'n digwydd nesaf?

 

Ydych chi am gychwyn eich busnes bwyd a diod eich hun, ond angen arweiniad?

Efallai ei fod yn teimlo’n frawychus i gychwyn eich busnes eich hun yn awr, ond wrth i ni ddechrau dod allan o’r cyfyngiadau symud, mae'r byd cyfnewidiol yr ydym bellach yn byw ac yn gweithio ynddo oherwydd COVID-19 wedi creu cyfleoedd newydd. Felly, os ydych chi'n angerddol am fwyd ac yn awyddus i fod yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod, mae'n amser gwych i archwilio'r farchnad a darganfod beth all eich busnes ei gynnig i'ch cymuned leol ac ehangach.

Enghraifft berffaith yw, Y Gegin Maldod - busnes yn cynhyrchu melysion a gefnogwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru i sefydlu'n gyflym ac yn effeithlon yn ystod y cyfnod. Cynorthwyodd y tîm o Dechnolegwyr Bwyd y busnes trwy'r broses o arolygiad o bell gan Iechyd yr Amgylchedd, gan sicrhau bod yr holl systemau cywir ar waith i weithredu'r busnes bwyd yn ddiogel o gartref. Bu tîm Canolfan Bwyd Cymru hefyd yn helpu gyda labelu i sicrhau rhestri cywir o’r cynhwysion a’r alergenau, gwybodaeth am oes silff a disgrifiadau cyfreithiol o'r cynnyrch.

“Heb y gefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru, gallaf ddweud yn onest na fyddwn yn rhedeg y busnes nawr. Byddwn yn dal i fod yn ceisio creu cynlluniau HACCP a dysgu am yr hyn yr oeddwn ei angen ar gyfer fy labeli - yn sicr ni fyddwn wedi cael cymeradwyaeth Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i fasnachu oni bai am y Ganolfan Bwyd. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi, gan fod gen i incwm bellach yn dod i mewn ar adeg pan na fyddwn yn ennill yr un geiniog goch fel arall.  Fe wnaethant hyd yn oed helpu drwy rannu eu cysylltiadau â chynhyrchwyr pobi eraill a chyflenwyr cynhwysion, sydd wedi arbed arian imi.” - Louise, Y Gegin Maldod

Os ydych chi'n angerddol am fwyd ac yn awyddus i gychwyn busnes bwyd neu ddiod, mae digon o opsiynau ar gael. Mae angen buddsoddiad bach ar lawer o fusnesau bwyd i ddechrau, a gellir rhedeg rhai o gartref; o gaws ac iogwrt i fariau byrbrydau iach a phrydau parod - gallwn eich helpu chi. Nid yw cychwyn busnes yn ystod pandemig y coronafeirws yn ddim gwahanol i gychwyn busnes ar unrhyw adeg arall, ond ar hyn o bryd byddwn yn eich cefnogi yn rhithwyr yn hytrach nag mewn person.

 

Cymorthfeydd Ar-lein

Er bod Canolfan Bwyd Cymru wedi bod ar gau ers y cloi mawr, rydym wedi addasu ein gwasanaethau i gynnig cefnogaeth ar-lein i fusnesau. Mae'r sesiynau misol ar-lein wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i droi eich diddordeb angerddol i mewn i fusnes. Mae'r sesiynau yn tynnu sylw at yr holl gymorth a chefnogaeth a gynigir i wneud eich busnes bwyd neu ddiod yn un llwyddiannus. Peidiwch â phoeni am yr holl gwestiynau technegol neu bryderon sydd gennych chi, gall y Technolegwyr Bwyd eich arwain bob cam o'r ffordd ar bob agwedd ar gynhyrchu bwyd.

“Rydym yn falch o allu parhau i gynnig ein cymorthfeydd ar-lein. Mae ein technolegwyr bwyd ar gael i'ch helpu chi trwy’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a rheoliadau bwyd - rydyn ni'n edrych ymlaen at eich helpu chi i gymryd eich camau cyntaf i sefydlu busnes bwyd neu ddiod." - Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol Twf a Menter, Cyngor Sir Ceredigion 

Mae’r Cymorthfeydd Ar-lein am ddim i unrhyw un i ymuno. Felly manteisiwch ar y gefnogaeth sydd ar gael i gychwyn eich busnes bwyd eich hun a chofrestrwch eich diddordeb yma: http://www.foodcentrewales.org.uk/gwasanaethau/