Digwyddiad “Mynd am Dwf” i helpu busnesau gyrraedd marchnadoedd newydd

Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Bwyd Cymru ddigwyddiad ‘Mynd am Dwf’ llwyddiannus ar gyfer busnesau bwyd a diod leol yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyrraedd marchnadoedd newydd.

Roedd y digwyddiad yn boblogaidd gyda dros 70 o bobl yn mynychu, gan gynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod yn bennaf yn ogystal ag asiantaethau cefnogi busnesau eraill.  Wrth estyn croeso i bawb i Horeb, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae’r diwydiant bwyd yn un o’r prif ddiwydiannau yn y Sir, gyda rhyw 3,700 o bobl yn gweithio ynddi a hwnnw, wrth gwrs yn seiliedig ar ein cynnyrch amaethyddol ardderchog. Mae rhai o gwmnïau mwyaf strategol ac eiconig y sector fwyd yng Nghymru â safleoedd yng Ngheredigion, er enghraifft, Rachel’s, Dunbia (Oriel Jones gynt), Tŷ Nant a Volac. Mae Canolfan Bwyd Cymru, Horeb, wedi gwasanaethu’r rhan fwyaf o gwmnïau bwyd a diod Ceredigion ers iddo agor yn 1996. Rydym yn falch iawn bod y Ganolfan hefyd wedi darparu gwasanaethau yn llwyddiannus i nifer o gwmnïau eraill ar hyd a lled Cymru a thu hwnt”.

 

Agorodd Rachel Rowlands, sylfaenydd Rachel’s Organic, y digwyddiad trwy rannu ei phrofiad o dyfu busnes bwyd. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y data ymchwil diweddaraf am y diwydiant er mwyn helpu busnesau ganfod meysydd twf posibl ar gyfer eu busnes. Rhannodd Ruth Davies o Cwm Farm ei phrofiad o ddatblygu cynnyrch, cyflenwi Selfridges ac allforio. 

 

Soniodd Arwyn Davies, Rheolwr Datblygu Busnes newydd Canolfan Bwyd Cymru am y ffordd y gallai cynhyrchwyr bwyd a diod gael budd o'r cymorth a gynigir gan Dechnolegwyr Bwyd a’r prosiect HELIX. Daeth y bore i ben gyda phrynwr Morrisons, Matt Trigg, yn sôn am yr hyn y maent yn chwilio am mewn cynnyrch a sut i gael cynnyrch ar eu silffoedd. Fe wnaeth hefyd gwrdd â nifer o’r cynhyrchwyr mewn cyfarfodydd preifat yn y prynhawn.

 

Amlygodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol, rôl bwysig Canolfan Bwyd Cymru yn y diwydiant bwyd a diod yng Ngheredigion, gan ddweud, "Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor werthfawr yw Canolfan Fwyd Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig. Rwy'n siŵr bod busnesau bwyd a diod leol wedi cael eu hysbrydoli o'r digwyddiad Mynd am Dwf, lle cawsant dderbyn profiad, gwybodaeth a chyngor. Rydym yn falch o safon uchel ein bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yng Ngheredigion ac rydym yn frwdfrydig ynglŷn â sut y gallwn ni ddangos cefnogaeth i fusnesau lleol i ffynnu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y datblygiadau sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol." 

 

Yn dilyn cinio a baratowyd gan ddefnyddio bwyd a gynhyrchwyd yn lleol, nifer wedi cael cymorth gan Ganolfan Bwyd Cymru, bu cyfle i fynd ar daith o gwmpas y cyfleusterau Ymchwil a Datblygu yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Hefyd yn y prynhawn, cynhaliwyd slotiau trafod 1-i-1 gyda’r technolegwyr bwyd, Matt Trigg ac arbenigwyr cefnogi busnes sef Busnes Cymru, Landsker, Cyllid Cymru, Antur Teifi, Menter a Busnes a Lantra.  Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â Cywain a'r grwpiau LEADER - Arwain Sir Benfro (Sir Benfro), RDP Sir Gâr (Sir Gaerfyrddin) a Cynnal y Cardi (Ceredigion).  Menter Llywodraeth Cymru yw prosiect HELIX a gynlluniwyd i helpu i ddatblygu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i fanteisio ar yr arian mawr sydd ei angen ac ar gael i helpu busnesau i dyfu yn y farchnad. Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod mentrau bach a chanolig newydd a rhai presennol yn gallu cael gafael ar gymorth pwrpasol gan dechnolegwyr bwyd penodol ac wedi ei deilwra i'r busnes unigol.