Digwyddiad Lansio Prentisiaeth Newydd

Dyddiad: Dydd Iau 23ain Mai

Lleoliad:  Canolfan Bwyd Cymru, Horeb

Amser:  11.30yb – 2yp

Prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Bwyd a Diod

Hoffai Canolfan Bwyd Cymru a Choleg Sir Benfro gwahodd cynhyrchwyr bwyd a diod i achlysur lansio'r brentisiaeth hir-ddisgwyliedig sy'n seiliedig ar STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) yng ngorllewin Cymru ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod.  Mae'r llwybr cynnal a chadw peirianyddol aml-sgiliau hwn wedi'i gynllunio i ddiogelu'r sector at y dyfodol drwy gynnig rhaglen dechnegol i uwchsgilio gweithlu’r presennol neu gynorthwyo recriwtio.

Dyluniwyd y fframwaith Lefel 3 City and Guilds gan 50 o weithgynhyrchwyr bwyd mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig, gan gynnwys; Dairy Crest, Mars, McCain Foods (GB) Ltd, Müller Dairy a Nestlé UK. Mae Coleg Sir Benfro wedi treulio 6 mis yn datblygu'r rhaglen mewn ymgynghoriad â Puffin Produce, Capestone Organic a First Milk ac rydym yn barod i dderbyn dysgwyr am y tro cyntaf ym mis Medi 2019. Dewch draw i weld sut y gallai'r rhaglen hon fod o fudd i'ch busnes.

Coleg Sir Benfro yw'r darparwr arweiniol yn y consortiwm dysgu seiliedig ar waith (B-WBL) ac mae'n darparu hyfforddiant ar draws 23 o sectorau mewn 17 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae gan y Coleg gyfoeth o arbenigedd ym maes peirianneg sy'n gweithio gyda llawer o sectorau peirianneg, yn arbennig sectorau peirianneg petrol a morol.

RSVP:   A wnewch chi gadarnhau eich presenoldeb erbyn 17eg Mai gydag-  gen@foodcentrewales.org.uk

Dyddiad: Dydd Iau 23ain Mai

Lleoliad:  Canolfan Bwyd Cymru, Horeb

Amser:  11.30yb – 2yp (darperir cinio)