Beth sy'n gwneud cwrs hyfforddi da?

Ydych chi wedi cael eich anfon ar gwrs hyfforddi, ond i ddarganfod mae’n amherthnasol, yn ddiflas ac yn wastraff amser? Pa les ydyn ni yn cael o’r profiadau hyn mewn gwirionedd?

Mae busnes llwyddiannus, cystadleuol a phroffidiol yn dibynnu ar staff gwybodus, medrus a brwdfrydig a gall ddod â'ch cynnyrch neu’ch sefydliad yn fyw. Fel perchnogion neu reolwyr busnes, mae’n bwysig dewis cyrsiau hyfforddi sy’n ychwanegu gwerth i'r cwmni - byddant yn talu'r buddsoddiad yn ôl ichi, lle mae hyfforddiant sydd wedi'i ddarparu'n wael yn costio amser ac arian.

Y cwestiwn pwysig yw, sut ydych chi'n adnabod cwrs da? Mae gofyn cwestiynau iawn yn holl bwysig! Pwy yw'r hyfforddwyr? Beth yw eu profiadau ac a ydyn nhw wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg a deddfwriaeth newydd? Yng Nghanolfan Fwyd Cymru rydym yn ymfalchïo mewn cael detholiad o hyfforddwyr profiadol a brwdfrydig sydd ond yn cyflwyno cyrsiau diddorol a pherthnasol. Rydym yn cadw ein bysedd ar guriad y diwydiant ac yn trosglwyddo ein gwybodaeth mewn sesiynau deniadol ac addysgiadol sydd wedi'u cynllunio i helpu ein cleientiaid i gynhyrchu cynhyrchion arloesol, blasus, cyfreithiol a diogel.

Mae croeso i chi siarad â mi am unrhyw anghenion hyfforddi, neu fy ffonio os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rwy yma i helpu!