Annog pobl i aros adref trwy bobi

Trwy addasu ac ehangu eu cynnyrch ar-lein, gall cwsmeriaid Crwst nawr fwynhau blas o Crwst o adref. 

Mae'r pandemig coronafeirws cyfredol yn gorfodi busnesau, mawr a bach, i addasu. Mae cau siopau, caffis a bwytai dros dro yn her wirioneddol i berchnogion busnes. Er hynny, mae nifer o fusnesau yn darparu ysbrydoliaeth fawr trwy arallgyfeirio a pharhau i fasnachu trwy gydol yr amseroedd rhyfedd ac ansicr hyn.

Mae Crwst yn dangos hydwythder yn eu gallu i arloesi ac addasu eu busnes i wasanaethu eu cymuned leol ac ehangach. Trwy ehangu eu cynhyrchion ar-lein, gall cwsmeriaid nawr fwynhau blas o Crwst gartref. Maent yn brysur iawn yn cadw i fyny â’r galw am eu pecynnau 'Aros Gartref – Pobi yn y Cartref'. Mae pecyn yn cynnwys cynhwysion a chardiau rysáit ar gyfer eu bisgedi caramel hallt, picau ar y maen, bara brith a hambwrdd pobi.

“Ar ôl cau’r caffi a’r popty oherwydd yr achosion o Covid-19, roeddem yn gwybod y byddai’n rhaid i ni addasu ac esblygu ein busnes er mwyn cadw fynd a chadw ein ‘Crwstomers’ ffyddlon yn hapus. Fe ddechreuon ni wasanaeth tecawê am yr wythnos gyntaf ar ôl cau, ond gyda difrifoldeb y sefyllfa yn dod yn fwy amlwg, roeddem yn credu mai'r peth cyfrifol i'w wneud oedd cau'n gyfan gwbl.” - Rhodri, Crwst.

Yna penderfynon nhw ganolbwyntio eu sylw ar y siop ar-lein. Gan na allai pobl alw mewn i Crwst i brynu'r bara a'r cacennau dyddiol, dyna pryd y daeth y syniad o'r pecynnau 'Aros Gartref – Pobi yn y Cartref' – maen ffordd wych o aros yn gysylltiedig â chwsmeriaid a'r gymuned leol nes ei fod yn ddiogel i ailagor y drysau.

“Gan mai caffi ydyn ni yn bennaf, rydyn ni wedi colli bron ein holl fasnach oherwydd y pandemig. Er hynny, mae'r cynllun furlough a grantiau'r llywodraeth wedi bod yn bwysig iawn wrth warchod dyfodol ein busnes a llawer o rai eraill ledled y wlad. ”

Mae Crwst wedi ymuno â busnes lleol Myrddin Heritage. Maent hefyd wedi gorfod addasu strategaeth busnes ac yn awr yn cyflwyno bocsys bwyd sydd yn gynnwys eu cynhyrchion cig a chynnyrch i gartrefi pell ac agos. Am y 7 wythnos diwethaf, mae Crwst wedi bod yn cyflenwi bara ar gyfer y bocsys hyn, yn ogystal â'u taeniad siocled.

Mae Crwst hefyd yn cydweithio gyda Hiut Denim, gwneuthurwr jîns sy'n seiliedig Aberteifi, maent yn cynhyrchu sgrybs ar gyfer gweithwyr rheng flaen yn y GIG. Maent yn cyfrannu £5 am bob pecyn sy’n gwerthu, maent wedi codi dros £2100 hyd yma. Gobeithion Crwst yw y bydd y set hon yn annog pobl i aros gartref, ac ar yr un pryd yn codi arian ar gyfer achos da.

“Mae’r pecynnau wedi bod yn llwyddiant mawr i ni ac rydym yn gobeithio nid yn unig parhau ond hefyd ehangu ein cynhyrchion ar ôl i’r argyfwng ymsuddo.”