Mae Canolfan Bwyd Cymru yn ganolfan technoleg bwyd bwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.
Os oes gennych syniad newydd gwych am gynnyrch ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych chi’n gynhyrchydd profiadol sydd angen cymorth gyda mater penodol neu gymorth i ennill achrediad, gall ein Technolegwyr Bwyd arbenigol eich tywys a’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan.
Mae gan y ganolfan adeilad Ymchwil a Datblygu pwrpasol gyda chyfleusterau heb eu hail i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli. Diben y cyfleuster technegol yw galluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynhyrchion ar raddfa ddiwydiannol fach. Mae Technolegwyr Bwyd Arbenigol wrth law i gynorthwyo pobl i ddefnyddio ein holl gyfarpar ac ardaloedd prosesu, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad gydol y broses. Byddant yn eich cynorthwyo i gynhyrchu’ch ryseitiau ar raddfa fwy, eich hyfforddi i ddefnyddio’r offer, gosod amodau prosesu - i gyd yn hanfodol os ydych am gynhyrchu bwyd.
Rheolwr y Ganolfan Fwyd Amaeth - Angela Sawyer
Ymunodd Angela â’r tîm yn 2002 a hi yw Rheolwr y Ganolfan yma yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Gyda gyrfa helaeth mewn uwch reolaeth dechnegol mewn ystod eang o fusnesau bwyd a diod, mae hi’n deall yr heriau sy’n wynebu busnesau o bob sector a maint.
Mae Angela yn defnyddio ei phrofiad mewn prosiectau a ariennir a gweithgareddau masnachol i’r Ganolfan i ddarparu system cymorth dechnegol cynhwysfawr i fusnesau ledled Cymru a thu hwnt. Gan ddarparu cyfleusterau a chymorth sydd wedi’u cynllunio i feithrin sector gweithgynhyrchu bwyd a diod gadarn a bywiog, mae Angela mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y ganolfan wrth gefnogi pob busnes gyda’u hanghenion technegol a masnachol.
Rheolwr Gweithrediadau Busnes - Catherine Cooper
Ymunodd Catherine â’r tîm ym mis Ionawr 2019, gan ddatblygu cynnig hyfforddi rhagorol a hynod lwyddiannus cyn dod yn Rheolwr Gweithrediadau Busnes ym mis Medi 2024. Gan ddod ag 20 mlynedd o brofiad diwydiant mewn gweithgynhyrchu bwyd pan ymunodd, mae Catherine mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall yr heriau a’r rhwystrau i fusnesau wynebu a nodi eu hatebion.
Gan ddefnyddio ei dealltwriaeth fanwl o gydymffurfiaeth a diogelwch bwyd a phrosesu, ynghyd â’i phrofiad o brosiectau cymorth a ariennir a strategaeth Datblygu Busnes, rôl Catherine yw sicrhau bod Canolfan Bwyd Cymru yn gweithredu’n effeithiol ac yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.
Rheolwr Technegol - Mark Jones
Ymunodd Mark Jones â thîm Canolfan Bwyd Cymru fel Technolegydd Bwyd yn 2013 cyn dod yn Rheolwr Technegol ym mis Hydref 2024, gan ennill ei blwyf fel technolegydd rhagorol sy’n cael ei yrru gan brosesau gyda dawn arbennig i ddatblygu caws arobryn. Wedi graddio mewn gwyddor bwyd a thechnoleg gyda llawer o flynyddoedd o brofiad mewn diwydiant, yn ogystal â swyddi uwch mewn adrannau cynhyrchu a thechnegol, wedi rhoi’r profiad delfrydol i Mark arwain y tîm technegol yma yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
Mae Mark yn sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer cleientiaid a ariennir a chleientiaid masnachol, gan arwain ar ddigwyddiadau a phrosiectau arloesol ac effeithiol sydd wedi’u cynllunio i gefnogi sector gweithgynhyrchu bwyd gwydn a chadarn.
Uwch Dechnolegydd Bwyd - Gina Sarracini Davies
Ymunodd Gina â’r tîm yn 2024 fel Uwch Dechnolegydd Bwyd. Gyda gradd BSc(Anrh) Cynhyrchu Bwyd Amaeth a dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant llaeth a chynnyrch ffres gan gynnwys ei busnes gweithgynhyrchu bwyd ei hun mewn pasta ffres. Hefyd, gyda phrofiad Amgylcheddol, cynaliadwyedd ac ynni adnewyddadwy.
Fel uwch dechnolegydd bwyd mae Gina yn goruchwylio'r tîm technegol, gan ddarparu cymorth technegol i gwmnïau bwyd a diod, paratoi cynigion ar gyfer gwaith datblygu prosiect, cyflwyno a chynorthwyo i ddarparu digwyddiadau, seminarau a gweithdai.
Technolegydd Bwyd - Rhian Jones
Mae Rhian yn Dechnegydd Bwyd gyda dros 11 mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws nifer o sectorau yn y diwydiant bwyd. Ers ymuno â Chanolfan Bwyd Cymru yn 2005 mae wedi meithrin diddordeb arbennig mewn NPD, cig a thechnoleg barod i'w fwyta gan weithio gyda chleientiaid i ddod â chynnyrch newydd i'r farchnad. Yn ogystal, mae wedi ehangu ei phortffolio i ddod yn Hyfforddwr Diogelwch Bwyd achrededig ar gyfer cyrsiau a ddarperir gan Ganolfan Bwyd Cymru.
Technolegydd Bwyd - Gerallt Morris
Ymunodd Gerallt Morris â'r tîm fel Technolegydd Bwyd yn 2015. Mae gan Gerallt radd mewn Cemeg a sawl cymhwyster diwydiannol. Mae wedi gweithio yn y diwydiant bwyd am dros ddeng mlynedd. Mae Gerallt yn arbenigo mewn Systemau Ansawdd, Rheoli Ansawdd, Effeithlonrwydd Prosesau ac mae wedi helpu sawl cwmni i symud o'r cyfnod datblygu cynnyrch newydd i roi’r cynnyrch ar y silff.
Technolegydd Bwyd - Karolina Davies
Ymunodd Karolina â’r tîm ym mis Hydref 2024, gan ddod â 17 mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu bwyd, gyda chefndir mewn cig ffres, prydau parod, a becws. Mae'n arbenigo mewn Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd, Rheoli Ansawdd, Archwilio, dilysu prosesau ac Arferion Gweithgynhyrchu Da. Mae Karolina yn gweithio'n agos gyda chwmnïau prosesu bwyd, gan rannu ei harbenigedd mewn datblygu cynnyrch, cynhyrchu a gwella prosesau. Mae ei ffocws ar helpu busnesau i wella eu harferion a safonau Diogelwch Bwyd.
Technolegydd Bwyd - Amanda Newton
Ymunodd Amanda â’r tîm ym mis Rhagfyr 2024, gan ddod â BSc (Anrh) mewn Maeth Bwyd a Diogelu Defnyddwyr a dros 18 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau lladd, cig ffres ac wedi’i goginio, reis a bwyd anifeiliaid anwes.
Mae'n arbenigo mewn archwilio, cydymffurfio, hyfforddi a datblygu systemau diogelwch ac ansawdd bwyd. Mae Amanda yn darparu cyngor technegol i gleientiaid, yn rheoli prosiectau amrywiol ac yn darparu gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth. Mae hi hefyd yn cefnogi achredu cleientiaid trwy gyngor wedi'i deilwra, dadansoddiadau bylchau o systemau rheoli diogelwch bwyd a mentora archwilio mewnol.
Cydlynydd Cyfleusterau - Ceris Moyle
Ymunodd Ceris Moyle â Chanolfan Bwyd Cymru yn 2014. Gyda llawer o flynyddoedd o brofiad gweithgynhyrchu bwyd a diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod, mae ganddi gyfrifoldeb am y cyfleusterau ffisegol yma ar y safle. Mae Ceris yn sicrhau bod offer a chyfleusterau adeiladu Canolfan Bwyd Cymru yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a bod ganddynt y dechnoleg sydd ei hangen ar ein cleientiaid ar gyfer y cymorth technegol.
Technolegydd Bwyd Cynorthwyol - Phoebe Evans
Ymunodd Phoebe â Canolfan Bwyd Cymru yn Hydref 2024 fel Technolegydd Bwyd Cynorthwyol. Derbyniodd Phoebe radd meistr mewn Amaeth a Busnes Rhyngwladol a Rheolaeth y Gadwyn Bwyd, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys arferion cynaliadwy ac arloesi. Cynorthywo’r dechnolegyddion bwyd yw ei rôl, yn enwedig mewn prosiectau newydd, bydd hyn yn cefnogi Phoebe o ran ehangu ei wybodaeth a sgiliau ar ddiogelwch bwyd, y broses o weithgynhyrchu, rheolaeth ansawdd a ddatblygiad cynnyrch newydd.
Technolegydd Bwyd Cynorthwyol – Lowri Hargood
Ymunodd Lowri â ni ym mis Mehefin 2025 fel Technolegydd Bwyd Cynorthwyol. Mae ganddi radd BSc (Anrh) mewn Maeth Dynol ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn datblygu cynnyrch newydd. Gyda phrofiad blaenorol mewn cyfanwerthu, gweithgynhyrchu bwyd a manylebau labelu bwyd, mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o'r diwydiant.
Yn ei rôl, mae Lowri yn cefnogi technolegwyr bwyd ar brosiectau newydd, gan ennill profiad gwerthfawr mewn diogelwch bwyd, prosesau gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd a datblygu cynnyrch newydd.
Myfyriwr Technegydd Bwyd – Ifan Davies
Ymunodd Ifan â Chanolfan Bwyd Cymru yn 2025 fel Myfyrwyr Technegydd Bwyd ar leoliad o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, lle mae’n astudio BSc Gwyddor Bwyd a Maeth (Llwybr Ansawdd, Diogelwch ac Arloesedd).
Gyda chefndir ffermio, mae’n dod â mewnwelediad ymarferol i’r rôl ac yn cefnogi’r tîm technegol wrth gynorthwyo busnesau bwyd a diod, yn ogystal â chyfrannu at brosiectau a digwyddiadau. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn polisi bwyd, labelu a sicrhau ansawdd.
Swyddog Hyfforddi - Tabitha Roberts
Ymunodd Dr. Tabitha Roberts â Chanolfan Bwyd Cymru fel Swyddog Hyfforddiant ym mis Chwefror 2025. Yn athrawes gymwysedig, enillodd MChem mewn Cemeg yn 2014, ac yna PhD mewn Gwyddorau Biolegol yn 2021.
Gyda phrofiad ymarferol yn y diwydiant bwyd a diod ac arbenigedd mewn Systemau Rheoli Ansawdd, cydymffurfiaeth, hyfforddiant ac archwilio, mae hi'n chwarae rhan allweddol mewn datblygu a chyflwyno hyfforddiant i'r diwydiant, gan sicrhau bod busnesau'n cael arweiniad o ansawdd uchel i fodloni safonau'r diwydiant.
Cynorthwydd Cyffredinol - Amanda Draper
Mae Amanda yn sicrhau bod safonau hylendid a diogelwch bwyd yn cael eu cynnal i lefel uchel yn y ganolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu. Mae'n cefnogi Technolegwyr Bwyd ac yn cynorthwyo busnesau bwyd sy'n defnyddio'r cyfleusterau prosesu bwyd.
Roedd Amanda yn hunangyflogedig ym maes arlwyo a'r sector bwyd am 20 mlynedd a bu'n gweithio yng Nghanolfan Bwyd Cymru am 18 mlynedd.
Technegydd Bwyd - Malgorzata Polak
Ymunodd Malgorzata â’r tîm yn 2025, gan ddod â’i 17 mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu bwyd gyda hi. Gyda chefndir mewn cynhyrchu cig a blas, mae hi wedi datblygu arbenigedd ymarferol cryf ar draws adrannau Rheoli Ansawdd, Sicrhau Ansawdd, Cynhyrchu a Hylendid.
Mae ganddi radd mewn Technoleg Bwyd gydag arbenigedd mewn Maeth, gan roi sylfaen gadarn iddi mewn gwyddor bwyd a phrosesu. Yng Nghanolfan Bwyd Cymru, mae Malgorzata yn cefnogi'r tîm technoleg bwyd i ddarparu gwasanaethau technegol i'r diwydiant bwyd ac yn rhoi cymorth ymarferol i ddefnyddwyr masnachol y cyfleusterau prosesu.
Cydlynydd y Ganolfan - Annwen Gale
Ymunodd Annwen Gale â’r tîm ym mis Medi 2017 fel Cydlynydd Canolfan. Ei rôl yw darparu cymorth gweinyddol a chydlynol i bob adran yn y Ganolfan.
Mae Annwen wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch ers dros 20 mlynedd mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol yn y sector preifat a chyhoeddus.
Cynorthwyydd Gweinyddol - Joanna Zawlodzka
Daeth Joanna yn rhan o’r tîm ym mis Gorffennaf 2025 fel Cynorthwyydd Gweinyddol. Mae'n cefnogi rhedeg y Ganolfan o ddydd i ddydd, gan ddarparu cymorth gweinyddol ac ariannol i'r Ganolfan.
Mae ganddi ddiploma mewn Rheolaeth Busnes a Chyfrifyddiaeth ac mae ganddi brofiad helaeth o'r diwydiannau gweithgynhyrchu bwyd, lletygarwch a manwerthu.
Swyddog Datblygu Busnes (Marchnata a Chyfathrebu) - Ceris Griffiths
Ymunodd Ceris â Chanolfan Bwyd Cymru ym mis Awst 2019 ac mae’n arwain gwaith marchnata a chyfathrebu’r Ganolfan, gan gynnwys rheoli gwefan a chreu cynnwys dwyieithog. Mae hi hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gynllunio a chyflwyno digwyddiadau’r Ganolfan.
Ers ennill ei gradd Rheolaeth Busnes yn 2005, mae Ceris wedi ennill profiad helaeth yn y diwydiannau lletygarwch a manwerthu.
Mae’r Rhaglen HELIX yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i dylunio i gryfhau a thyfu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Yng Nghanolfan Bwyd Cymru, rydym yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu’r cymorth hwn, gan weithio’n uniongyrchol gyda busnesau i ddarparu cyngor technegol wedi’i deilwra, hyfforddiant ymarferol ac arbenigedd ymarferol. O fusnesau newydd yn dod â’u cynnyrch cyntaf i’r farchnad, i gwmnïau sefydledig sydd am wella prosesau neu archwilio cyfleoedd newydd, mae cyllid Rhaglen HELIX yn ei gwneud hi’n bosibl i fusnesau bwyd a diod o Gymru arloesi a ffynnu.
Pa gymorth y mae Rhaglen HELIX yn ei ddarparu?
Trwy Raglen HELIX, gall cynhyrchwyr bwyd a diod gael mynediad at gymorth pwrpasol gan ein Technolegwyr Bwyd ac arbenigwyr busnes mewn tri maes allweddol:
Effaith Gorffennaf 2023 – Mawrth 2025
Mae Rhaglen HELIX wedi sicrhau buddion diriaethol ledled Cymru, gan gynnwys:
Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth
Cyflwynir Rhaglen HELIX trwy gydweithrediad rhwng:
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n dod â gwybodaeth dechnegol, ymchwil academaidd a mewnwelediad i’r diwydiant i sicrhau bod sector bwyd a diod Cymru yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.
📩 I archwilio cymorth Rhaglen HELIX ar gyfer eich busnes, cysylltwch â gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230.
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn falch o fod yn rhan o Arloesi Bwyd Cymru - tri chanolfan fwyd sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a thyfu diwydiant bwyd a diod Cymru.
O fusnesau newydd i weithgynhyrchwyr sefydledig, mae Arloesi Bwyd Cymru yn darparu cyngor arbenigol, cymorth technegol a datrysiadau ymarferol i helpu busnesau i ddatblygu, arloesi a llwyddo.
Darganfyddwch fwy yn www.foodinnovation.wales
Diwydiant Bwyd Cymru
Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru rôl strategol wrth roi cymorth technegol i Ddiwydiant Bwyd Cymru ac fe’i sefydlwyd ym 1996 gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Datblygu Economaidd. Yn 2001, diolch i gyllid gan Gynllun Her Cyfalaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, agorwyd Adeilad Ymchwil a Datblygu gwerth £1.7 miliwn. Mae gan yr adeilad hwn ardaloedd prosesu, yr holl gyfarpar angenrheidiol yn ogystal â chyfleusterau cynhyrchu ac maen nhw ar gael i’w llogi at ddibenion masnachol. Defnyddir y ganolfan i lansio syniadau newydd ac arloesol hefyd yn y Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru, gan gydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru.