Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru dîm o Dechnolegwyr Bwyd arbenigol yn cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.
Os oes gennych syniad newydd gwych am gynnyrch ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych chi’n gynhyrchydd profiadol sydd angen cymorth gyda mater penodol neu gymorth i ennill achrediad gyda BRC (Chonsortiwm Manwerthu Prydain) neu SALSA (Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol), gall ein Technolegwyr Bwyd helpu i’ch tywys a’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan.
Mae ein Technolegwyr Bwyd yn brofiadol iawn ym mhob sector o’r diwydiant cynhyrchu bwyd a gallant helpu i ddatrys eich problemau technegol neu ddatblygu eich cynnyrch. Gallant gynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gynhyrchu bwyd, gan gynnwys:
Mae profiad masnachol ein Technolegwyr Bwyd yn eu galluogi i gynnig cymorth sylweddol wrth i chi berffeithio eich systemau rheoli diogelwch bwyd. Maen nhw’n cynnig cymorth gyda’r canlynol:-
Mae ein Technolegwyr Bwyd yn arbenigwyr ar ddatblygu cynnyrch cwbl newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli a gallant eich helpu gydol y broses gyfan:-
Cychwyn Busnes Prosesu Bwyd a Diod
Ydych chi'n ystyried fod yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod? Neu a oes angen help arnoch gyda Datblygu Cynnyrch Newydd? Neu efallai eich bod am gynyddu eich cynhyrchiad cartref presennol?
Er bod y Ganolfan Fwyd ar gau ar hyn o bryd oherwydd Pandemig COVID-19, rydym yn dal i gefnogi busnesau a chleientiaid newydd i sicrhau bod pob busnes yn dal i dderbyn y lefel uchel o gefnogaeth y mae'r ganolfan yn ei gynnig.
Trwy ein gwasanaethau ar-lein rydym yn cefnogi busnesau sy'n cychwyn trwy ein rhaglen 5 cam: -
Os hoffech ddarganfod mwy am dderbyn cefnogaeth ar gyfer cychwyn busnes gan Ganolfan Bwyd Cymru, cofrestrwch eich diddordeb trwy gysylltu â'n Swyddog Datblygu Busnes trwy e-bost: gen@foodcentrewales.org.uk neu dros y ffôn: 01559 362230
Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi lansio’r cyfeirlyfr digidol cynhwysfawr cyntaf o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Mae’r cyfeirlyfr, sy’n cynnwys cofnodion o dros 430 o gwmnïau, wedi’i greu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwerthu cynhyrchion Cymreig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cynhwysir cwmnïau bach a mawr yn y cyfeirlyfr a gynhyrchwyd ar ran Bwyd a Diod Cymru ac fe’i defnyddir ar ymweliadau datblygu masnach ac arddangosfeydd ledled y byd. Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchydd yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch, sianel gyflenwi ac ardystiad.
Wrth siarad am lansio’r cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
“Rydym am i gwmnïau bwyd a diod Cymru gael eu dathlu ar lwyfan byd eang. Bydd y cyfeirlyfr hwn yn help i godi proffil bwyd a diod arloesol o Gymru yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol.”
Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth fwyd sy’n ymroddedig i annog datblygiad sector bwyd Cymru a darparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwyd. Ar hyn o bryd mae Arloesi Bwyd Cymru yn ymgymryd â Phrosiect HELIX, rhaglen £21 miliwn a ariennir trwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE i gryfhau sector bwyd a diod Cymru.
I ganfod rhagor am y cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, ewch i’r wefan: http://foodinnovation.wales/directory