Mae'r ASB wedi lansio ei ymgyrch 'Blwyddyn i fynd' i gefnogi busnesau ac awdurdodau lleol yn y cyfnod yn arwain at weithredu deddfwriaeth newydd ar labelu alergenau ar gyfer bwydydd sy'n cael eu pecynnu ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol.
Bydd angen i unrhyw fwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) arddangos ar y pecyn, neu label sydd ynghlwm wrth y pecyn, enw'r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion gyda gwybodaeth am alergenau wedi'i phwysleisio o 1 Hydref 2021 yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Bydd y deddfau newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
Mae PPDS yn fwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig i ddefnyddwyr ac sydd mewn deunydd pecynnu cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis. Gall hyn gynnwys salad a brechdanau y mae cwsmeriaid yn eu dewis eu hunain a bwyd sydd wedi'i lapio ymlaen llaw a’i gadw y tu ôl i gownter.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cynhyrchu gwybodaeth ac adnoddau newydd i helpu busnesau i baratoi ar gyfer y cyfreithiau newydd. Mae canllaw rhyngweithiol i wirio pa gynhyrchion fydd angen eu labelu o’r newydd ac e-hyfforddiant alergedd bwyd wedi'i ddiweddaru sydd ar gael am ddim gan yr ASB sy'n cynnwys hyfforddiant ar y rheoliadau PPDS newydd