Ers i'r cyfyngiadau symud digwydd, mae llawer o fusnesau oedd yn gyflenwi'r gwasanaeth bwyd a'r sector lletygarwch wedi gorfod troi at eFasnach defnyddwyr i barhau i fasnachu.
Er bod Coffi Teifi eisioes wedi bod yn gyflenwr coffi ar-lein i fasnach ac i’r cyhoedd, mae eu gwerthiant dal wedi profi cynnydd yn ystod yr achosion o COVID-19, meddai ei sylfaenydd Chris Snarski.
Mae'r busnes coffi meicro, sydd wedi'i leoli yn Llandysul, wedi creu cyfuniadau ffa o bob cwr o'r byd, sy'n cael eu rhostio mewn sypiau bach i sicrhau paned blasus – mae pob un yn cael eu ddanfon am ddim.
Mae'r siop goffi ar-lein yn adnabyddus fel Y Coffi Elusennol o Gymru ac mae'n rhoi 50c am bob cilogram o goffi a werthir i elusennau lleol. Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, fe wnaeth Teifi Coffee noddi digwyddiad ar Facebook gan gydweithredu â DJ o Sir Benfro a rhoi 50c ychwanegol am bob pecyn o goffi a werthwyd yn ystod y digwyddiad, aeth yr holl elw i fwrdd iechyd lleol y GIG.
‘Rydym wedi gweld cynnydd iach mewn danfonon gartref am resymau amlwg, ac mae gwerthiannau manwerthu hefyd wedi gwella wrth i gwsmeriaid geisio eu mwynhad Coffi Teifi o’u cartrefi yn lle caffis. Mae anrhegion a hamperi gofal hefyd wedi bod yn ‘geisiadau newydd’. – Chris
Aeth Chris ymlaen i egluro ymglymiad y busnes yn ymgyrch Bwydo GIG Cymru, menter sy’n dod a chyflenwyr, ceginau a busnesau bwyd eraill at eu gilydd, gan ganiatáu i werthwyr unigol ddarparu pob rhan o’r prydau bwyd a anfonir at staff y GIG. Y nod cychwynnol yw y bydd staff rheng flaen y GIG yn cael un pryd poeth y dydd ac mae cynlluniau ar y gweill i ddosbarthu parseli bwyd i weithwyr y GIG sydd gartref. Dechreuodd y fenter mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Bae Abertawe ac mae bellach yn cael ei chyflwyno ledled Cymru.
Mae Coffi Teifi hefyd wedi bod yn cydweithredu â microfusnesau lleol eraill. Yn cyflenwi coffi i Myrddin Heritage ar gyfer eu bocsys brecwast a hefyd yn cymryd rhan yn Ridiculously Rich by Alana ‘Small Producers Sunday’ ar Instagram - gan greu Teifi Frappe blasus a Cappuccino hufennog y gallwch ei wneud gartref.
‘Mae'n wirioneddol ysbrydoledig darllen am sut mae busnesau bwyd yn addasu yn ystod yr argyfwng. A siarad yn bersonol rwy’n rhagweld y dylai cyflenwi fod yn rhan o’r holl fodelau busnes ar gyfer y dyfodol agos fel y rhai sy’n agored i niwed, a'r defnyddwyr mwy nerfus sy’n hunan ynysu ac yn dibynnu ar ddanfonon i'r stepen drws’.
Fel cymaint o fusnesau bwyd a diod eraill, mae Coffi Teifi yn dibynnu ar ei werthiannau ar-lein er mwyn cadw'r busnes i fynd, felly os ydych chi'n colli'ch hoff siop tecawê, beth am ddod yn farista eich hun gyda Coffi Teifi!
Darganfyddwch ddewis Coffi Teifi yma: https://www.teificoffee.co.uk/
Cefnogwch #FeedTheNHSWales yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/feedthenhswales