Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar allbynnau a gweithgareddau Prosiect HELIX ers mis Mehefin 2016.
Trwy Brosiect HELIX, mae gan gwmnïau cymwys sydd wedi’u lleoli yng Nghymru fynediad at amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol a ariennir gan Arloesi Bwyd Cymru.
Mae Prosiect HELIX yn darparu gweithgareddau ymarferol i drosglwyddo gwybodaeth, gan gefnogi cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion arloesol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, i fasged siopa’r defnyddiwr.
Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad yma.