Symopsiwn Proses a Hylendid Arloesol

Archwilio technolegau arloesol, lleihau costau a gwella cynaliadwyedd yn eich prosesau cynhyrchu

 

 

Ymunwch â ni ar 16 Hydref 2024 i archwilio’r defnydd o dechnolegau arloesol yn eich prosesau cynhyrchu a hylendid.  Gyda photensial enfawr ar draws pob sector i leihau costau ynni, defnyddio llai o gemegau a llai o weithgarwch trin dŵr gwastraff, ynghyd â’r posibilrwydd o ymestyn oes silff, dewch i glywed am y ffordd y gallai’ch busnes chi gael budd gan ddull gweithredu newydd tuag at gynaliadwyedd a rheoli costau.

Uchafbwyntiau'r Digwyddiad:

  • Rheolaeth Hylendid Arloesol: Cyfle i ddysgu gan yr arbenigwyr pennaf am yr arferion hylendid diweddaraf.
  • Datblygiadau ym maes Technoleg Osôn: Cyfle i ddarganfod sut y gall technoleg Osôn drawsnewid eich prosesau.
  • Dirnadaeth Ymchwil: Cyfle i glywed y canlyniadau diweddaraf gan waith ymchwil sy’n seiliedig ar yr diwydiant.

Pam Mynychu?

  • Lleihau Costau: Dysgwch sut i leihau costau ynni a chost cemegau.
  • Cynaliadwyedd: Cyfle i ddarganfod dulliau gweithredu newydd tuag at gynhyrchu cynaliadwy
  • Ymestyn Oes Silff: Cael dirnadaeth o ddulliau i ymestyn oes silff cynnyrch.
  • Rhwydweithio: Cysylltu ag arbenigwyr a chymheiriaid yn y diwydiant.
  • Arddangosiadau Byw: Cyfle i brofi arbrofion amser real yn ein cyfleusterau cynhyrchu diweddaraf.

Manylion y Digwyddiad:

Dyddiad: 16 Hydref 2024
Amser: 09:30 - 15:00
Lleoliad: Canolfan Bwyd Cymru, Parc Busnes Horeb, Llandysul, Ceredigion, SA44 4JG

Hoffem Glywed Gennych Chi!
Rydym yn eich gwahodd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad arloesol hwn.  Rhowch wybod i ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu.

CLICIWCH YMA I ATEB
      
     
YMWADIAD:
Cynhelir gan Ganolfan Bwyd Cymru. Ariennir gan Lywodraeth Cymru.
SYLWCH: DIM OND ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru y mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.