Sioe Deithiol Busnes Bwyd a Diod

Digwyddiad Cymorth Busnes i Gynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghaerfyrddin

Ydych chi’n gynhyrchydd bwyd neu ddiod yng Nghaerfyrddin? Yn chwilio am gymorth busnes, cyngor technegol neu gyfleoedd cyllido?

Dewch i'n gweld ni yn:

📍 Tŷ Melyn, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gar

📅 Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025 | 10:00yb–2:00yp

Cofrestrwch eich diddordeb yma >

 

 

Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad diweddar yng Ngheredigion, mae Rhaglen HELIX yn dod i Sir Gaerfyrddin ar gyfer y nesaf yn ein cyfres o Sioeau Deithiol Busnes Bwyd a Diod – digwyddiad lleol, am ddim, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r sesiwn galw heibio anffurfiol hon ar agor i bob busnes bwyd a diod yng Nghaerfyrddin – o fusnesau newydd i gynhyrchwyr sefydledig. Dyma’ch cyfle i gwrdd ag arbenigwyr o Ganolfan Bwyd Cymru, Busnes Cymru, Cywain, Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a Cyswllt Ffermio – a chael cyngor un-i-un ar bopeth o ddatblygu cynnyrch newydd a hyfforddiant i dwf busnes a chyllid.

Does dim angen archebu – galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10:00yb a 2:00yp. Bydd diodydd poeth a chacennau ar gael.

Pam mynychu?

  • Mynediad at gymorth wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod
  • Cyfle i siarad wyneb yn wyneb ag ymgynghorwyr lleol
  • Darganfod pa gymorth ariannol sydd ar gael
  • Dysgu am gyfleoedd i dyfu, arloesi a datblygu sgiliau
  • Cwrdd ag eraill yn sector bwyd a diod Sir Gaerfyrddin

Mae’r sioeau teithiol hyn wedi’u cynllunio i wneud cymorth yn haws, yn agosach ac yn fwy personol i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.

📍 Tŷ Melyn, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin SA32 8HN

🕙 Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025 | 10:00yb–2:00yp

Cofrestrwch eich diddordeb yma >

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cymuned fywiog bwyd a diod Sir Gaerfyrddin!