Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths. (Gorffennaf 2023)
Bydd Prosiect Helix, sy'n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.
Gyda'r Sioe Frenhinol yn llawn a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, mae'r Gweinidog wedi datgelu bod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy'n gynnydd o 24.5%.
Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na'r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%.
darllenwch yr erthygl lawn yma
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynllun newydd, y Cynllun Arloesi Strategol, i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.
Fel rhan o hyn, bydd Prosiect Helix, sy'n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.