Bydd ein gweminar Gwerthu Tu Hwnt i Llaeth yn tynnu sylw at y gwahanol lwybrau sydd ar gael i ffermwyr sydd am arallgyfeirio.
Bydd Canolfan Bwyd Cymru yn cynnal digwyddiad a fydd yn tynnu sylw at y gwahanol lwybrau sydd ar gael i ffermwyr sy'n chwilio am ffyrdd i arallgyfeirio eu busnesau, ynghyd ag ychwanegu gwerth at eu cynnyrch.
Bydd y weminar yn cael ei rhedeg gan Mark Jones, un o'n Technolegwyr Bwyd, a fydd yn trafod amrywiaeth o wahanol lwybrau y gellir eu cymryd, gan nodi'r amser a'r ymrwymiad ariannol tebygol y bydd pob un ohonynt angen. Byddwn yn gwahodd cwestiynau ar ôl y cyflwyniad.
Nodwch: Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofrestru'ch manylion ac yn archebu'ch lle heddiw.