12 Mawrth, 10yb - 1yp yng Nghanolfan Fwyd Cymru
Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cynnal cyfres o weithdai i drafod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer cynhyrchion bwyd sy'n cael eu pecynnu ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol.
Bydd y gweithdai rhyngweithiol yn agored i ddefnyddwyr sydd ag alergeddau bwyd, busnesau (sy'n gwerthu cynhyrchion bwyd a gaiff eu pecynnu ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol) ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddwn yn gofyn i'r rhai sy'n cymryd rhan drafod y ddarpariaeth o wybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol, ac yn benodol y dewisiadau polisi a nodir yn yr ymgynghoriad (dolen).
Dyma ddiffiniad o gynhyrchion bwyd sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol:
Bwyd sy'n cael ei werthu mewn siop frechdanau, caffi, bar byrgyr, ffreutur neu fanwerthwr. Gallai hyn gynnwys brechdanau, saladau, sleisys pizza unigol, bwyd poeth fel cyw iâr rotisserie neu wedges tatws a gaiff eu pecynnu ar y safle yn barod ar gyfer archebion, cyn cael eu cynnig i'w gwerthu.
LLYFRAU yma ar Eventbrite: http://bit.ly/FSAAllergens_FCW
Bydd y gweithdy yma hefyd yn cael ei gynnal yn y lleoliadau canlynol ar hyd a lled Cymru:
Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, Prifysgol Metropolitan Caerdydd - Dydd Llun 4 Mawrth, 1-4pm
Y Ganolfan Technoleg Bwyd, Coleg Menai, Sir Fôn – Dydd Mercher 6 Mawrth, 10am-1pm
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad ar 12 Mawrth yng Nghanolfan Fwyd Cymru, cysylltwch â gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230