Cymorthfeydd Cychwyn Busnes ar gyfer cynhyrchwyr newydd a chynhyrchwyr bwyd
18 Mehefin 2019. 10yb - 2yp
Rydym yn cynnal digwyddiad eto eleni mewn partneriaeth â Gŵyl Arloesi Cymru...
Mae'r digwyddiad hwn yn gyflwyniad i brosesu a gweithgynhyrchu bwyd
Bydd cinio ysgafn a lluniaeth ar gael yn y digwyddiad.
Cyflwyniad (tua 45 munud)
Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chrynodeb o sut i gychwyn busnes bwyd a diod a pha gymorth sydd ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Byddwn yn trafod datblygu cynnyrch newydd, hyfforddiant a data marcio hefyd, a’r cymorth sydd ar gael gan Arloesi Bwyd Cymru trwy gyllid Prosiect HELIX.
Taith o Ganolfan Bwyd Cymru (tua 45 munud)
Taith lawn o’r Hyb Arloesi a Chynhyrchu lle cewch weld y neuaddau a’r cyfarpar prosesu sydd ar y safle. Cyfle i werthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael i’ch helpu ar brosiectau penodol.
Sesiwn un i un (tua 45 munud)
Cyfarfod un i un cyfrinachol gydag un o’n Technolegwyr Bwyd er mwyn trafod syniad am brosiect neu faterion technegol y gallwn eich helpu gyda nhw.
Sesiynau un i un dewisol
Bydd Busnes Cymru a Cywain yn egluro pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi, a chewch archebu sesiwn un i un gyda’u cynghorwyr i drafod eich busnes neu’ch prosiect yn fanylach.
Pa feysydd arloesi fydd yn cael eu harddangos
Bydd arbenigwyr y diwydiant bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn helpu cleientiaid gydag amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau er mwyn helpu’r diwydiant bwyd a diod i arloesi a chyrraedd marchnadoedd newydd. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys: datblygu cynnyrch newydd, sicrhau ansawdd, datblygu prosesau, gweithgynhyrchu, cyrchu cynhwysion, cynllunio ffatri, cyrchu cyfarpar, llogi cyfleusterau, maethiad, labelu, iechyd amgylcheddol, hylendid a diogelwch bwyd.
Pwy ddylai fynychu
Ar gyfer busnesau cyfredol neu newydd, rydym yma i’ch helpu i chwalu’r rhwystrau o ran cyflwyno’ch cynnych i gwsmeriaid. Unrhyw un sy’n gweithio yn y sector bwyd a diod a hoffai ddysgu mwy am Ganolfan Bwyd Cymru.
Manteision mynychu
Manylion cyswllt
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, e-bostiwch gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230