Yn ddiweddar, trefnwyd a cynhaliodd Ganolfan Bwyd Cymru mewn partneriaeth â Busnes Cymru y Gynhadledd Atal Gwastraff yng Nghanolfan Bwyd Cymru ar Ddydd Mawrth, 16 Hydref. Mynychodd dros 40 o fusnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru yn bressenol yn y digwyddiad.
Amcan y digwyddiad oedd annog cynhyrchwyr bwyd a diod i fabwysiadu agwedd gynaliadwy at eu busnesau, gan ychwanegu gwerth at eu brandiau, datblygu cysylltiadau busnes a hybu gwerthiant.
Trefnwyd y gynhadledd ar gyfer cynhyrchwyr unigol bach, BBaChau a chynhyrchwyr mawr, gan ganolbwyntio ar faterion sy’n berthnasol i’r diwydiant gan gynnwys deunydd pacio cynaliadwy, gwella effeithlonrwydd prosesau ac atal gwastraff.
Amcangyfrifir bod marchnad y DU ar gyfer bwyd a diod sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy yn werth £8.64 biliwn ar hyn o bryd a’i fod yn cynyddu 5% bob blwyddyn. Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol, mae’n hanfodol bwysig bod busnesau bwyd a diod yng Nghymru yn arwain y ffordd wrth weithredu’n amgylcheddol gynaliadwy, gan gofio bod y sector manwerthu, y sector cyfanwerthu a’r sector cyhoeddus yn chwilio am gyflenwyr sy’n eu helpu i gyflawni eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a’u hamcanion deddfwriaethol.
Agorwyd y digwyddiad gan Iain Cox o EcoStudio:
“Mae’r gynhadledd hon yn cael ei chynnal ar adeg hollbwysig i’r diwydiant. Mae cynaliadwyedd yn bwysicach nag erioed. Mae prynwyr masnach a defnyddwyr eisiau cynnyrch bwyd a diod gan frandiau y gallant ymddiried ynddynt. Mae tarddiad, moeseg dda, deunydd pacio ac atal gwastraff yn feysydd lle mae busnesau Cymru yn gallu arwain y ffordd.”
Cyflwynodd Jessica Palalagi, Pennaeth Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Marks and Spencer, fanylion Cynllun A y cwmni. Eglurodd Jessica fod cyflawni amcanion amgylcheddol yn arwain at fanteision busnes i Marks and Spencer, gan gynnwys enillion masnachol sy’n deillio o effeithlonrwydd a rheoli cynaliadwy. Hefyd, nododd fod y cwmni yn cynorthwyo cyflenwyr i roi newidiadau ar waith a fydd yn gwireddu dyheadau’r cwmni i fod yn fusnes diwastraff. Bydd cynrychiolwyr ar draws y gadwyn gyflenwi yn trafod eu hagwedd fasnachol at atal gwastraff a’r economi gylchol, ac yn darparu cyngor ymarferol i fusnesau ar wneud dewisiadau deunydd pacio cynaliadwy ar sail gwybodaeth.
Hefyd, bu cynrychiolwyr o Volac, Cwtch Glamordy a Natural Weigh yn rhannu eu profiadau o sut maen nhw wedi gwneud newidiadau i’w busnesau er mwyn gwella effeithlonrwydd eu prosesau, lleihau gwastraff a gwneud dewisiadau deunydd pacio cynaliadwy ar sail gwybodaeth. Nododd y cwmnïau hyn yr heriau y maen nhw wedi gorfod eu goresgyn, gan gynnig cyngor ymarferol ar gyfer busnesau ar sut i fod yn fwy cynaliadwy.
Cyflwynodd David Warren, Pennaeth Economi Gylchol a Datblygu Polisi Llywodraeth Cymru, y camau sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno ei pholisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Eglurodd fod ‘Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r broses o geisio sicrhau bod gan Gymru ‘economi gylchol’ go iawn sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’.
Yn y prynhawn, roedd cyfle i’r cynrychiolwyr fynd ar daith o gwmpas Canolfan Arloesi a Chynhyrchu Canolfan Bwyd Cymru a chymryd rhan yng ngweithdy ‘Addewid Twf Gwyrdd’ Busnes Cymru. Nod y gweithdy oedd helpu busnesau i ddatblygu cynllun ar gyfer ymgorffori blaenoriaethau cynaliadwyedd a dangos i gwsmeriaid eu bod yn gweithredu er budd y blaned.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a bu llawer o’r mynychwyr yn canmol y siaradwyr ac yn nodi eu bod wedi cael llawer o wybodaeth bwysig yn ystod y digwyddiad.