Mae eleni’n nodi carreg filltir bwysig i Ganolfan Bwyd Cymru wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o hyrwyddo arloesedd, sgiliau a thwf cynaliadwy ar draws y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Ers agor yn 1996, mae’r Ganolfan wedi cefnogi cannoedd o fusnesau - o fusnesau ffarm i weithgynhyrchwyr sefydledig - gan gynnig arbenigedd technegol ymarferol, cyfleusterau prosesu o safon uchel, hyfforddiant a chefnogaeth datblygu busnes. Fel gwasanaeth o Gyngor Sir Ceredigion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen HELIX, ein cenhadaeth bob amser fu cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i ffynnu.
Dros y tair degawd ddiwethaf, mae ein tîm o arbenigwyr wedi gweithio ar draws pob sector allweddol - cynnyrch llaeth, cig, pobi, melysion, diodydd a bwydydd parod - gan gefnogi creu cynhyrchion newydd, prosesau diogelach a llwybrau masnachu hyfyw. O ddatrys heriau technegol i helpu busnesau baratoi ar gyfer archwiliadau manwerthwyr, mae ein gwaith yn seiliedig ar anghenion y diwydiant go iawn.
Sesiwn Cychwyn Busnes Newydd - 18 Mawrth 2026
Rydym yn cynnal Cymhorthfa i Fusnesau Newydd ar 18 Mawrth 2026 yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer busnesau bwyd a diod ar gam cynnar, mae’r sesiwn yn cynnig:
Mae lleoedd yn gyfyngedig - felly rydym yn annog archebu cynnar.
Edrych Ymlaen: Rhagor i Ddod yn 2026
Wrth i ni nodi dechrau ein blwyddyn ben-blwydd ym mis Mawrth, mae gennym hefyd gynlluniau ar gyfer rhai gweithgareddau ychwanegol yn nes ymlaen yn 2026. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth dros y misoedd nesaf, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cymdeithasol am ddiweddariadau.