Diwrnod llwyddiannus yng ngweithdy Arloesi ar gyfer Siopwyr Cydwybodol y Blaned yn Gerddi Fotaneg Genedlaethol Cymru
Diwrnod diddorol a llwyddiannus yng ngweithdy Arloesi ar gyfer Siopwyr Cydwybodol y Blaned yn Gerddi Fotaneg Genedlaethol Cymru wythnos diwethaf. Fe gynhaliwyd gan Arloesi Bwyd Cymru a Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru. Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cynhyrchwyr bwyd a diod Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdy syniadau Datblygu Cynnyrch Newydd, gyda data mewnwelediad am siopwyr cydwybodol y blaned Roedd yn wych gweld nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod yn bresennol.
Aeth y busnesau bant gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o gyfleoedd marchnad newydd a thueddiadau'r dyfodol, a fydd yn eu cefnogi yn eu Datblygiad Cynnyrch Newydd ac yn gwneud dewisiadau mwy gwybodus i helpu i gyrraedd y farchnad gynaliadwy ac arloesol cydwybodol y blaned.
Diolch i bawb am fynychu, gwrando a chyfrannu. Diolch enfawr i’r cyflwynwyr hefyd:
The Food People
Prifysgol Bangor
Kantar Worldpanel