Gweld sut rydym eisoes wedi helpu llawer o fusnesau bwyd i gyrraedd eu nod
Mae llawer o fusnesau wedi tyfu a ffynnu o ganlyniad i’r cymorth a’r gefnogaeth y mae ein Technolegwyr Bwyd wedi’i roi yn ystod yr ugain mlynedd y mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod ar waith. Dyma ddetholiad bach o astudiaethau achos am gleientiaid rydym wedi gweithio â nhw:
Sefydlwyd Do Goodly pan ddaeth dau ffrind, Richard Abbey a Scott Davis, ynghyd gyda chenhadaeth i greu bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion ac sy’n blasu’n wych, ac sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffordd foesegol ac ymwybodol gan ddefnyddio cynhyrchion Cymreig pryd bynnag y bo modd. Aethant ati i greu dewis o bedwar dip sy’n figan, sydd heb glwten ac nad ydynt yn cynnwys unrhyw siwgr ychwanegol neu ychwanegion artiffisial. Ar ôl blwyddyn o fasnachu, roeddent yn cael eu gwerthu gan sawl cyfanwerthwr yn y DU, archfarchnadoedd Cenedlaethol ac roeddent wedi ennill gwobr Great Taste. Eleni, llwyddont i gael eu derbyn ar gynllun sbarduno Tesco, sydd wedi ysgogi datblygiad cynhyrchion newydd, ac maent wedi dechrau allforio i’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Mae’r busnes o Sir Gâr wedi ymrwymo i gynaliadwyedd trwy leihau gwastraff bwyd ac mae wastad yn defnyddio deunyddiau ailgylchadwy ac wedi’u hailgylchu yn eu deunydd pacio lle bynnag y bo modd. Mae ethos y cwmni o ‘wneud pethau da, bod yn dda, blasu’n dda’ yn ymestyn hefyd i’r ffaith bod 10% o’i holl elw yn cael ei roi i elusen iechyd meddwl Mind.
Cymorth a Ddarparwyd gan CBC:
Cysylltodd Richard â Chanolfan Bwyd Cymru i ofyn am gymorth wrth ddatblygu’r cynnyrch. Yn y lle cyntaf, rhoddwyd cymorth i ail-fformiwleiddio’r dipiau a oedd ganddynt yn barod, er mwyn helpu i wella’r ansawdd, y blas, y gallu i gynhyrchu mwy ac ymestyn oes silff y cynnyrch. Arweiniodd cyfarfodydd llwyddiannus gydag archfarchnadoedd at Richard yn datblygu 3 chynnyrch potiau pryd newydd gyda chymorth ein Technolegydd Bwyd. Yn dilyn gwaith ymchwil pellach am dueddiadau o ran blasau, crëwyd 3 blas newydd o’r potiau pryd gyda chymorth Technolegydd Bwyd; Mac Gwyrdd, Carbonara Madarch a’r cyrri siop Sglodion, ac yn deillio o hyn, datblygwyd cynnyrch newydd hefyd sef saws cyrri siop sglodion newydd. Bydd y saws a’r potiau pryd newydd yn lansio mewn siopau ar hyd a lled y wlad ar 13 Mai 2024. Yn ogystal â’r cynnyrch newydd a ddatblygwyd, mae’r cymorth technegol a roddwyd wedi cynnwys dadansoddi oes silff, maetheg, labelu a datblygiad proses hefyd.
Budd y Cymorth:
Mae’r cymorth technegol a ddarparwyd i Do Goodly trwy gyfrwng Prosiect HELIX wedi galluogi’r busnes newydd i dyfu, a bydd yr holl gynhyrchion a ddatblygwyd yn cael eu lansio ar draws y DU ym mis Mai 2024 a hefyd, i gwsmeriaid allforio Do Goodly. Mae’r rhaglen trosglwyddo Gwybodaeth wedi cynnig cymorth technegol ar gyfer dewis cyfan o gynhyrchion newydd, a phe na bai’r cymorth technegol wedi bod ar gael, byddai’r broses hon wedi cymryd llawer hirach a byddai hyn wedi arafu twf y busnes.
‘’Mae Rhian wedi bod yn gymaint o help ac mae wedi cynnig cymorth amhrisiadwy i ni trwy gydol y broses ddatblygu ac mae wedi ein galluogi i greu cynhyrchion sy’n blasu’n wych, gan sicrhau ein bod yn bodloni ein meini prawf iechyd ar gyfer Do Goodly hefyd. Mae’r dewis newydd wedi agor y drws i nifer o gwsmeriaid newydd hefyd yr ydym wedi bod yn dymuno gweithio gyda nhw” Richard Abbey, Sylfaenydd, Do Goodly Foods.
Yn ogystal, darparwyd dirnadaeth o’r data gan Ganolfan Bwyd Cymru trwy gyfrwng rhaglen Dirnadaeth Data Llywodraeth Cymru, gan helpu i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r blasau ar gyfer y cynhyrchion newydd, ac fe’i ddefnyddiwyd yn ystod cyfarfodydd gyda darpar brynwyr a phrynwyr presennol.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol:
“Bydd Do goodly yn parhau i ddatblygu blasau newydd cyffrous y bydd tueddiadau ymhlith defnyddwyr yn dylanwadu arnynt, a bydd cynaliadwyedd ac iechyd wastad yn elfen ganolog o’r cynhyrchion y byddwn yn eu datblygu. Heb os, byddwn yn cynnal ein perthynas gyda Chanolfan Bwyd Cymru ac yn manteisio ar eu gwybodaeth a’u cymorth gydag unrhyw gynhyrchion y byddwn yn eu datblygu yn y dyfodol. Cadwch olwg am newyddion pellach :> ” Richard Abbey, Sylfaenydd, Do Goodly Foods.
Ar ôl cael eu derbyn ar gynllun sbarduno Tesco, bydd Richard yn gweithio i feithrin y berthynas hon er mwyn hwyluso lansiad llwyddiannus y cynhyrchion newydd mewn siopau ar hyd a lled y wlad.
Adborth gan CBC:
Mae Do Goodly wedi sicrhau twf cyflym dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac mae hyn o ganlyniad i ymroddiad ei sylfaenwyr yn bennaf. Maent wedi ymrwymo i dyfu’r busnes ac mae wedi bod yn fraint i Ganolfan Bwyd Cymru ymuno â nhw ar y daith hon.
“Mae Do Goodly yn ymroddedig iawn i’w hethos sef cael cynhyrchion iach a chynaliadwy, gan gwestiynu a gwirio yn barhaus bod y cynhwysion a ddewisir yn cyflawni hyn. Mae Richard yn frwdfrydig iawn ac mae wastad yn hoffi bod un cam ar y blaen wrth ddatblygu cynnyrch, sy’n sylfaen wych er mwyn i’r busnes allu parhau i dyfu. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw”, Rhian Jones, Technolegydd Bwyd, Canolfan Bwyd Cymru.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Do Goodly
Brecon Carreg, wedi’i leoli ger Llandeilo, yw un o’r prif frandiau dŵr potel yn y DU. Sefydlwyd y cwmni ym 1978 ac mae’r 46 mlynedd diwethaf wedi gweld twf cadarn, ac erbyn hyn, mae gan y cwmni drosiant blynyddol sylweddol o £10.3M. Llwyddodd y cwmni hwn sydd wedi sicrhau achrediad BRCGS gradd AA+ ac sy’n cyflogi 42 aelod o staff, i botelu 51.1 miliwn litr o ddŵr y llynedd, gan gyflenwi’r holl brif archfarchnadoedd yng Nghymru, yn ogystal â siopau Boots a Greggs ar draws y DU. Yn 2022, sicrhaodd y cwmni wobrau Great Taste am ei gynhyrchion dŵr tonig newydd â blas.
Wrth botelu dŵr mwynol naturiol pur rhagorol o galon Cymru, mae’r cwmni yn cadw at ei egwyddorion o gefnogi’r amgylchedd a ffordd o fyw iach, ac mae’r buddsoddiad a wnaeth yn ddiweddar mewn technolegau pacio newydd a noddi nifer o ddigwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd yn dangos hyn.
Cymorth a Ddarparwyd gan CBC
Dros yr 8 mlynedd ddiwethaf, mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i dîm technegol a rheoli i gynnig cymorth cydymffurfiaeth ar gyfer ei achrediad BRCGS. Bu ein Technolegwyr Bwyd yn rhan o raglen gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth er mwyn eu cynorthwyo i sicrhau eu Hachrediad BRCGS a oedd yn cynnwys cynnal Dadansoddiad GAP, cynllunio systemau a gweithdrefnau newydd a chynnal archwiliadau mewnol. Yn ogystal, er mwyn hwyluso’r cam o ehangu’r busnes, bu ein Technolegydd Bwyd yn cynorthwyo gyda chynllun y warws newydd a bu’n cynnig cymorth labelu ar gyfer y dŵr tonig newydd â blas, sydd wedi ennill gwobrau. Yn fwyaf diweddar, rhoddwyd diweddariad a chymorth pellach er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo i gynnal eu Hachrediad BRCGS gradd AA+, wedi’i ddiweddaru i fersiwn 9 trwy Brosiect HELIX.
Budd y Cymorth
Roedd yn gymharol fach ar y dechrau, wrth i’r tîm technegol gael budd gan y wybodaeth a’r arbenigedd ychwanegol a ddarparwyd gan ein tîm technegol i feithrin eu sgiliau mewnol trwy gyfrwng rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Prosiect HELIX.
“Mae Mark, y Technolegydd Bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth er mwyn cynyddu lefel ein gwybodaeth o BRCGS, diogelwch bwyd a HACCP, gan ganiatáu i ni gynnal y safonau uchel a’r achrediad gradd AA+ yn barhaus, sy’n arbennig o bwysig i’n cwsmeriaid” Andrew Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Brecon Carreg.
Mae cymorth gan Brosiect HELIX wedi tynnu’r pwysau oddi ar y tîm technegol wrth iddynt ddilysu eu systemau a phe na bai’r cymorth technegol wedi’i ariannu ar gael, byddai wedi costio llawer mwy i’r cwmni mewn amser yn ogystal â chyllid i dyfu.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth a gawsom, a mawr obeithiwn y gallwn barhau i gael cymorth technegol gan Ganolfan Bwyd Cymru er mwyn cynorthwyo Brecon Carreg i dyfu. Mae’n hawdd iawn gweithio gyda Mark, mae’n hynod o broffesiynol a diwyd yn ei waith ac rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y berthynas waith hon yn parhau”, Andrew Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Brecon Carreg.
Adborth gan CBC
Gan bod Brecon Carreg yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi yn natblygiad ei dîm, maent wastad wedi croesawu’r cymorth a gynigir gan Ganolfan Bwyd Cymru.
“Mae’r diwylliant o fewn Brecon Carreg yn hyrwyddo tîm sy’n awyddus iawn i ddysgu, sy’n gwneud fy ngwaith i o’u cynorthwyo yn llawer mwy effeithiol. Pan fyddwch yn cynorthwyo busnes Cymreig eiconig sy’n cynnig sylfaen i werthoedd y diwydiant bwyd yng Nghymru er mwyn cyflawni eu nodau, mae’n rhywbeth gwerth chweil iawn” Mark Jones, Technolegydd Bwyd, Canolfan Bwyd Cymru
Dunbia yw un o’r cwmnïau bwyd mwyaf blaenllaw yn Ewrop, gan arbenigo mewn cynhyrchu cig eidion, cig oen a chynhyrchion cig o ansawdd, wedi’u prosesu ymhellach a’u coginio yn araf. Mae’r Cwmni, sydd wedi sicrhau Achrediad BRC, yn gyflenwr blaenllaw amrediad o archfarchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol, busnesau gwasanaeth bwyd a bwytai. Mae Dunbia yn gweithio gyda dros 40,000 o ffermwyr ar draws y DU ac Iwerddon i sicrhau ansawdd ei gynnyrch. Gan weithredu o 13 safle yn y DU, gan gynnwys dau yng Nghymru, wedi’u lleoli yn Cross Hands a Llanybydder, mae’n gwasanaethu marchnadoedd amrywiol, gan allforio i dros 50 o wledydd ar draws y byd. Yn 2022, Dunbia oedd y cwmni cyntaf ers dros dau ddegawd i allforio llwyth o gig oen Prydeinig i’r Unol Daleithiau. Gyda throsiant o £1 biliwn, mae Dunbia yn un o’r prif gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.
Mae llwyddiant Dunbia wedi cael ei briodoli yn bennaf i’w werthoedd o gyflawni ei genhadaeth o sicrhau gwelliant parhaus i brosesau a buddsoddiad er mwyn darparu cynhyrchion diogel a chyson i fodloni a rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid.
Cymorth a ddarparwyd gan CBC
Nid yw’n peri unrhyw syndod clywed bod herio a chynorthwyo ei bobl i wireddu eu potensial fel rhan o dîm sy’n sicrhau perfformiad uchel mewn amgylchedd bwyd diogel yn un o brif genadaethau Dunbia. Roeddem wrth ein bodd pan ddaethant at Ganolfan Bwyd Cymru yn gofyn i ni eu cynorthwyo gyda hyfforddiant ar gyfer eu staff er mwyn helpu i gynnal a gwella’r safonau yn eu tîm.
Roedd angen i safle Dunbia yn Llanybydder uwchsgilio aelodau newydd eu tîm gyda gwybodaeth fwy datblygedig ynghylch HACCP. Roeddent yn awyddus i fuddsoddi mewn hyfforddiant HACCP Lefel 3 ar gyfer eu tîm gan eu bod wedi ymrwymo i ragoriaeth a gwelliant parhaus. Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnig hyfforddiant HACCP achrededig hyd at a chan gynnwys lefel 4, a gaiff ei achredu trwy Highfield ac y mae modd ei ddarparu ar y safle, yn ein hystafelloedd hyfforddiant pwrpasol, ar-lein neu trwy drefniant hybrid i fodloni gofynion penodol pob cleient.
Manteision y cymorth a ddarparir gan CBC
Fel cwmni sy’n cyflogi bron i 5,000 o bobl ar draws y DU, mae Dunbia yn falch o’r ffaith ei fod yn buddsoddi yn ei weithlu. Bu ein swyddog hyfforddiant yn trafod eu gofynion ac yn defnyddio enghreifftiau perthnasol trwy gydol yr hyfforddiant er mwyn gweithredu eu dysgu ar gyfer eu proses benodol nhw. Ar ôl trafod y dewisiadau a oedd ar gael, ffurf hyfforddiant modiwlaidd ar-lein wedi’i ddarparu dros 5 diwrnod ar wahân oedd y dewis a ffafriwyd, gydag arholiad ar-lein wedi’i oruchwylio ar y diwedd.
Gan gyfeirio at yr hyfforddiant, dywedodd Stuart McLoughlin, Rheolwr Technegol yn Dunbia Llanybydder:
“Mae Diogelwch ac Ansawdd Bwyd o’r pwys mwyaf yn ein gwaith cynhyrchu, gan ein galluogi i ddarparu cynhyrchion o ansawdd cyson i’n cwsmeriaid ar draws y byd mewn ffordd hyderus. Mae’r hyfforddiant a ddarparwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru wedi ein galluogi i uwchsgilio ein tîm gyda chymwysterau HACCP Lefel 3 er mwyn sicrhau bod gennym yr arbenigedd yn fewnol i gynnal ein safonau diogelwch bwyd uchel.
“Roedd y tîm wir wedi mwynhau’r hyfforddiant achrededig. Roedd yn drylwyr iawn ac roedd Swyddog Hyfforddiant Canolfan Bwyd Cymru wedi ei wneud yn ddiddorol iawn gyda dull rhyngweithiol. Heb os, nid ymarfer ticio bocs yn unig oedd hwn! Diolch yn fawr iawn i CBC, mae’n gwneud y gwaith yn haws cael aelodau ar y tîm HACCP sydd wedi cael eu hyfforddi mor dda a byddwn mewn cysylltiad eto yn fuan, heb os. Byddaf yn bendant yn cyfleu fy argymhelliad i gydweithwyr yn ein chwaer-safleoedd.”
Adborth gan CBC
Bydd unigolion sydd wedi cwblhau hyfforddiant HACCP gyda ni yn meddu ar yr hyder a’r arbenigedd i gynhyrchu bwyd diogel ac o ansawdd ar gyfer eu cwsmeriaid.
“Mae diogelwch ac ansawdd bwyd wrth wraidd gwerthoedd Dunbia, dyna pam eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant Achrededig ar gyfer eu tîm i raddau helaeth. Roeddent oll yn frwdfrydig ac yn awyddus iawn i ddysgu mwy, a oedd yn ei gwneud yn bleser eu dysgu, ac rydw i’n hapus i adrodd bod pob un ohonynt wedi pasio gyda chlod. Hwn oedd dechrau yr hyn yr wyf yn gobeithio a fydd yn bartneriaeth wych i ni wrth ddarparu hyfforddiant ar gyfer Dunbia.” Catherine Cooper, Swyddog Hyfforddiant, Canolfan Bwyd Cymru.
Yn nhref wledig arfordirol Aberteifi, roedd Osian a Catrin ar flaen y gad gyda’r ‘symudiad lleoedd bwyta artisan’ pan agoront ddrysau Crwst yn 2018. O’i ddechreuad dinod mewn marchnad leol wythnosol yn gwerthu bara artisan a chacennau blasus Osian, mae Crwst bellach yn gweini brecinio, bara, cynhyrchion wedi’u pobi a choffi o’u caffi sydd mewn lleoliad blaenllaw yn Aberteifi.
Fel sawl caffi, bu cyfnod clo y pandemig yn 2020 yn gatalydd i Crwst fynd ati i ganlyn datblygiad eu cynhyrchion mewn jariau i’w gwerthu. Yn fuan, daeth ryseitiau blasus Osian a ddefnyddir mewn cynhyrchion dyddiol wedi’u pobi neu mewn seigiau brecinio, megis Caramel Hallt Penfro, yn ffefrynnau i’w ‘Crwstmeriaid’ eu prynu a mynd â nhw gartref gyda nhw i’w mwynhau. Daeth y cynhyrchion yn eitemau hanfodol mewn sawl pantri ar draws Gorllewin Cymru ac roedd gwobrau Great Taste wedi tynnu sylw cynulleidfa ehangach fyth at y cynhyrchion. Yn debyg i Gaffi Crwst, gwelwyd twf yn y gweithgarwch cynhyrchu, ychwanegwyd mwy o flasau ac roedd angen safle cynhyrchu newydd yn fuan ar gyfer amrediad y cynhyrchion manwerthu a’r cynhyrchion bara a oedd yn ehangu.
Cymorth a Ddarparwyd gan CBC
Trwy gyfrwng Prosiect HELIX, darparwyd cymorth a ariannwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru er mwyn cynorthwyo Crwst i fasnacheiddio eu hamrediad o gynhyrchion i’w manwerthu. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi oes silff, labelu maethol, HACCP a chydymffurfio â deddfwriaeth.
“Roeddem eisoes yn gyfarwydd â dilyn gofynion Diogelwch Bwyd ar gyfer ein caffi, fodd bynnag, mae cynhyrchu yn faes hollol wahanol. Bu’r Technolegydd Bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru yn ein cynghori ac yn ein tywys trwy’r broses gyfan, a oedd yn golygu ein bod wedi dilyn y ddeddfwriaeth yn gywir o’r cychwyn cyntaf.” Rhodri Jones, Crwst.
Gwelwyd gwerthiant eu cynhyrchion yn cynyddu’n gyflym, ynghyd â momentwm o ran y diddordeb gan fanwerthwyr a chyfanwerthwyr. Cyn bo hir, datblygwyd y cyfleuster cynhyrchu newydd law yn llaw â’r becws a oedd yn ehangu, ac yn fuan, daeth sicrhau SALSA yn nod er mwyn gallu hwyluso mwy o archebion gan fanwerthwyr mwy o faint. Bu Technolegydd Bwyd yn cydweithio’n agos gyda nhw trwy gwblhau dadansoddiad o’r bwlch a’u helpu i sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau eisoes yn eu lle yn barod ar gyfer yr archwiliad SALSA.
Budd cael y Cymorth
Darparwyd cyngor ac arweiniad gan Ganolfan Bwyd Cymru er mwyn galluogi Crwst i werthu eu cynnyrch yn gyfreithlon. Bu’r cam o’u mentora trwy gydol y broses er mwyn iddynt sicrhau eu hachrediad SALSA yn hollbwysig er mwyn cael mwy o archebion gan fanwerthwyr cenedlaethol a mwy o faint.
“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael y cymorth yr ydym wedi’i gael gan Ganolfan Bwyd Cymru, yn enwedig wrth sicrhau SALSA, gan bod hyn yn bendant wedi codi ein proffil wrth i ni gael archebion gan gwmnïau mawr. Mae hyn wedi bod yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nod o weld ein cynhyrchion ar y silffoedd yn Harrods!” Rhodri Jones, Crwst
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Mae gan Crwst gynlluniau i ehangu dosbarthiad eu cynhyrchion manwerthu a chynyddu eu capasiti cynhyrchu, ac maent eisoes wedi mynychu LUNCH a Taste Wales eleni er mwyn helpu i gyflawni eu targedau. Mae Osian yn teimlo’n angerddol am greu bwyd blasus ac ar hyn o bryd, maent yn datblygu rhagor o gynhyrchion y gallant eu hychwanegu i’w hystod yn y dyfodol agos.
Adborth gan CBC
Mae Crwst yn enghraifft wych o fusnes Cymreig sy’n darparu bwyd rhagorol ac o ansawdd yn lleol, sydd wedi addasu i newid yn gyflym ac sydd wedi llwyddo i gadw ei gwsmeriaid ffyddlon. Mae hyn wedi bod yn sylfaen i’r busnes, sydd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi canolbwyntio ar ystod fechan o gynhyrchion i’w cynhyrchu, gan sicrhau eu bod yn gynhyrchion o safon uchel ac yn hynod flasus.
“Bu’n hyfryd cynorthwyo Crwst gyda’u hystod o gynhyrchion ac yna sicrhau SALSA. Maent yn dysgu’n gyflym iawn ac yn awyddus i wneud popeth yn gywir. Rydw i’n edrych ymlaen i barhau i’w cynorthwyo gyda chynhyrchion ac achrediadau newydd, yn enwedig gydag unrhyw waith blasu y bydd gofyn ei wneud!!”. Gerallt Morris, Technolegydd Bwyd, Canolfan Bwyd Cymru
Mae beth bynnag y byddant yn ei wneud o ansawdd uchel ac mae’n blasu’n wych, felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr hyn y byddant yn ei wneud nesaf!
Cliciwch yma i brynu nwyddau gan Crwst
Sefydlwyd In the Welsh Wind yn 2018 yn agos i arfordir Bae Ceredigion, yn sgil angerdd dros flasau go iawn a chynnyrch sy’n tarddu o Gymru. Yn gyflym, gwelwyd y freuddwyd wreiddiol o ddistyllu casgliadau bychain o jin crefft yn esblygu wrth iddo ddatblygu i fod yn ddistyllwr a chynhyrchwr gwirodydd gwreiddiol i nifer o fusnesau, yn ogystal â’i frandiau ei hun. Er bod y busnes yn gymharol ifanc o hyd, mae wedi sicrhau twf nodedig iawn, wrth i’w waith arloesol arwain at nifer o wirodydd sydd wedi ennill gwobrau, ac y caiff nifer ohonynt eu hallforio ar draws y byd.
Roedd symud i safle newydd a mwy o faint yn 2019 wedi ei alluogi i gynyddu ei ardaloedd cynhyrchu, yn ogystal â chynnig profiadau cynhyrchu a blasu jin yn ei far trwyddedig a’i safle digwyddiadau. Mae barlys a dyfir yn y cae ar y safle wedi ei alluogi i ddatblygu chwisgi ‘grawn i’r gwydr’ sy’n unigryw i Gymru a’r DU, ac y mae modd ei brynu mewn casgenni ar hyn o bryd, i’w aeddfedu yn bersonol, ac y bydd yn barod i’w roi mewn poteli yn 2025.
Ym mis Mawrth 2020 ar ddechrau’r pandemig, fel distyllwyr eraill yn y DU, gwelwyd pobl yn troi at In the Welsh Wind yn gofyn am hylif diheintio dwylo. O ganlyniad i’w ymateb cyflym, y busnes oedd y distyllwr cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu a chyflenwi hylif diheintio dwylo. Nid yn unig yr oedd hyn wedi gwneud cyfraniad aruthrol wrth reoli brigiad y clefyd, ond roedd wedi galluogi’r busnes i ddefnyddio adnoddau hefyd nad oeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer ochr lletygarwch y busnes adeg y cyfnod clo. Yn ffodus, penderfynodd nifer o bobl brynu eu hoff wirodydd ar-lein hefyd a gwelwyd y cwsmeriaid gwirodydd at eu chwaeth yr oedd In the Welsh Wind yn cynhyrchu ar eu cyfer yn parhau, a gweithgarwch cynhyrchu i fodloni’r galw parhaus.
Roedd cynhyrchu chwisgi wastad wedi bod yn nod allweddol ar gyfer y busnes ac mae symud safle wedi ei alluogi i gyflawni hyn. Gan nad oedd unrhyw gynhyrchwyr heiddfrag ar gael yng Nghymru, byddai hyn wedi golygu cyfaddawdu gyda’i ethos ynghylch gwirodydd wedi’u sicrhau a’u cynhyrchu yn lleol, felly roedd angen ymchwilio i ddewisiadau eraill. Datblygu ei broses ei hun fel dewis amgen i farlys a gaiff ei sychu mewn odyn oedd y catalydd er mwyn cymryd camau arloesol gyda chwisgi brag sengl unigryw o farlys Cymreig grawn gwyrdd. Mae’r cynhaeaf barlys cyntaf yn ystod yr Hydref 2021 eisoes wedi cael ei brosesu, gan greu’r casgliad cyntaf o chwisgi a gaiff ei aeddfedu mewn casgenni dros y blynyddoedd nesaf.
Cymorth a ddarparwyd gan Arloesi Bwyd Cymru
Bu Technolegwyr Bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gynhyrchu Hylif diheintio dwylo trwy gyfrwng Prosiect HELIX. Gwnaethant sicrhau y dilynwyd y rysáit a ddarparwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn y ffordd gywir, gan helpu i weithredu’r broses gynhyrchu ar gyfer y cynnyrch mewn ffordd effeithiol. Bu’n rhaid delio â chryn dipyn o waith papur gan CThEF ynghylch newid y defnydd o gynhyrchu alcohol er mwyn cynhyrchu cynnyrch gwahanol, a bu’r Technolegydd Bwyd yn allweddol wrth goladu hwn. Roedd sicrhau bod y busnes yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol heb wynebu goblygiadau toll alcohol pellach yn bwysig er mwyn gallu cynnig yr hylif diheintio dwylo yn rhad ac am ddim yn y lle cyntaf.
Yn ystod yr Hydref 2020, dechreuodd In The Welsh Wind arbrofi gyda barlys i greu ei broses unigryw o gynhyrchu chwisgi. Roedd cymorth pellach gan Dechnolegydd Bwyd wedi ei alluogi i brofi a threialu gwahanol ddulliau a defnyddio offer y ganolfan bwyd a ariannwyd trwy Brosiect HELIX. Rhyngddynt, datblygont ddull unigryw o brosesu’r barlys lle nad oes gofyn ei sychu mewn odyn. Nid yn unig y mae hyn yn cynnig manteision amgylcheddol enfawr trwy arbed ynni yn ystod y broses gynhyrchu, ond mae hefyd yn creu blas ‘grawn gwyrdd’ unigryw ar gyfer y chwisgi, na cheir mewn chwisgi a gaiff ei ddistyllu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.
Budd y cymorth
Arweiniodd ymateb cyflym y Technolegydd Bwyd a fu’n cynorthwyo In The Welsh Wind trwy gyfrwng Prosiect HELIX at weithredu trefniadau cynhyrchu hylif diheintio dwylo yn gyflym iawn.
“Heb os, bu’r cymorth gan Ganolfan Bwyd Cymru yn allweddol wrth ein cynorthwyo i gynhyrchu’r hylif diheintio dwylo yn ystod y pandemig. Pe na baem wedi cael cymorth Technolegydd Bwyd yn gynnar, byddai wedi cymryd llawer hirach i ni sicrhau cymeradwyaeth i gynhyrchu. Byddai hyn wedi cael effaith anferth ar gyflenwad hylif diheintio dwylo yn yr ardal leol. Hyd yn hyn, rydym wedi cynhyrchu 45,000 litr o hylif diheintio dwylo at ddefnydd masnachol ac at ddefnydd y cyhoedd.” Joe Lewis, Rheolwr Busnes, In The Welsh Wind
O ganlyniad, In The Welsh Wind oedd y cwmni cyntaf i gynhyrchu’r hylif diheintio dwylo yng Nghymru, a hefyd, y cyntaf i allu cyflenwi’r cynnyrch i sefydliadau Allweddol yn y rhanbarth dan drefniant masnachol, gan gynnwys GIG, y gwasanaethau heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, RNLI, Cynghorau Sir a llawer mwy.
“Unwaith eto, rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael cymorth gan Dechnolegydd Bwyd wrth ddatblygu’r broses cynhyrchu chwisgi. Mae hyn wedi ein helpu trwy weithredu syniadau a benthyca offer ar gyfer ein treialon, yn ogystal â gofyn am ddatrysiadau i ddatrys unrhyw broblemau a gawsom. Pe na baem wedi cael help Canolfan Bwyd Cymru, gallai fod wedi bod yn broses llawer yn fwy costus ac amserol.” Joe Lewis, Rheolwr Busnes, In The Welsh Wind.
Adborth gan Ganolfan Bwyd Cymru
“Roedd ymateb cyflym In The Welsh Wind i gynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer y pandemig yr un mor bwysig â’u hymrwymiad i sicrhau y gallent ei gynhyrchu mewn ffordd effeithiol. Mae eu tîm yn wybodus ac yn addasol iawn, a dyna’r union beth yr oedd ei angen ar y pryd, a bu modd i mi weithio gyda nhw i ddarparu canllawiau manwl am y gwaith papur a’r gofynion cyfreithiol ynghylch newid gweithgarwch cynhyrchu. Yna, bu modd i fusnesau distyllu eraill yng Nghymru ddefnyddio’r un canllawiau i fynd ati i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a chynyddu’r cyflenwad ar draws Cymru.” Sarah Thomas, Technolegydd Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
“Mae wedi bod yn bleser parhau i weithio gydag In the Welsh Wind i ddatblygu eu proses o gynhyrchu chwisgi. Mae wedi fy herio i ddefnyddio’r offer sydd gennym yma yn y ganolfan bwyd mewn ffyrdd gwahanol. Mae ganddynt feddwl agored a pharodrwydd i ddysgu, felly gallem arbrofi gyda gwahanol ddulliau er mwyn treialu technegau cynhyrchu. O ganlyniad, gwelwyd dull gweithredu arloesol wrth gynhyrchu chwisgi, a fydd yn arwain at rai blasau unigryw.” Sarah Thomas, Technolegydd Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Mae’r busnes yn parhau i dyfu ac mae cynlluniau ar y gweill unwaith eto i ehangu. Mae gofyn cynyddu maint yr ardaloedd cynhyrchu er mwyn bodloni’r galw gan fwy o fanwerthwyr am eu brand Jin In The Welsh Wind eu hunain sydd wedi ennill gwobrau. Bydd contractwyr yn cychwyn ar y safle cyn bo hir, gyda’r nod o gwblhau prosiect yr estyniad erbyn diwedd 2023.
Mae’r ehangu hwn yn datblygu law yn llaw â phroses y busnes o weithio tuag at sicrhau achrediad trydydd parti, SALSA (Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Llesol). Bellach, mae nifer o fanwerthwyr yn mynnu bod eu cyflenwyr yn sicrhau SALSA ac ar ôl y caiff hwn ei ddyfarnu, bydd yn agor mwy o farchnadoedd fyth iddynt. Trwy gyfrwng cyllid gan Brosiect HELIX, bydd Technolegydd Bwyd o Ganolfan Bwyd Cymru yn eu cynorthwyo trwy’r broses, gan gychwyn gyda dadansoddiad o’r bwlch a chynlluniau y bydd angen eu gweithredi trwy gydol proses gynhyrchu y busnes.
“Rydym yn ffodus bod Technolegydd Bwyd yn ein cynorthwyo gyda’r holl agweddau technegol ar ein busnes hyd yn hyn, a’u bod yn gallu parhau i’n cynorthwyo wrth i’n busnes dyfu unwaith eto. Ein nod yw sicrhau achrediad SALSA cyn pen 6 mis, a gyda chymorth Canolfan Bwyd Cymru, mae hwn yn bendant yn darged sydd o fewn ein cyrraedd”. Joe Lewis, Rheolwr Busnes, In The Welsh Wind
Mae Bluestone Brewing Co yn fragdy micro, a sefydlwyd yn 2013, wedi’i leoli ar y fferm deuluol yn Sir Benfro. Mae’n cynhyrchu cwrw casgen, baril, potel a thun crefft ac wedi ennill gwobrau. Mae ganddynt ddetholiad craidd o bum cwrw a detholiad sy’n cylchdroi o gwrw arbennig tymhorol.
Mae’r ethos y tu ôl i’r busnes wastad wedi ymwneud â chreu cwrw cynaliadwy â blas gwych yn gyfrifol a chyda chyn lleied o effaith â phosibl ar y blaned. Mae'r holl sgil-gynhyrchion o fragu yn cael eu hailddefnyddio ar y fferm neu eu bwydo'n ôl i'w hanifeiliaid. Mae'r dŵr maen nhw'n ei ddefnyddio i wneud eu cwrw’n dod o'u ffynnon eu hunain ac maen nhw hefyd yn cynhyrchu eu pŵer solar eu hunain!
I gydnabod eu hethos ecogyfeillgar, enwyd Bluestone Brewing yn enillwyr Gwobr Busnes Cynaliadwy'r Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023.
Maen nhw’n danfon yn uniongyrchol yn eu faniau eu hunain ledled Cymru ac yn gweithio gyda dosbarthwyr fel Blas Ar Fwyd i gyflenwi ymhellach i ffwrdd. Mae ganddyn nhw siop sy’n gwerthu eu cynnyrch, yn ogystal ag ystafell tap ar y safle.
Cefnogaeth a Ddarparwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru:
Derbyniodd Bluestone Brewing gefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru pan ddechreuon nhw eu taith i gael eu hachredu gan SALSA. Penodwyd Technolegydd Bwyd iddynt a fu’n gweithio’n agos gyda nhw i wella eu prosesau a sicrhau bod popeth yn ei le er mwyn pasio'r archwiliad.
Dywedodd Simon Turner, Sylfaenydd Bluestone Brewing, “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Ganolfan Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy, roedd yn wych cael rhywun wrth law i ateb ein cwestiynau a’n cyfeirio i’r cyfeiriad cywir. Mae gwybodaeth a phrofiad tîm y Ganolfan wedi bod yn allweddol i’n harwain drwy’r broses.”
Mae cymorth a ariennir gan Brosiect HELIX drwy Ganolfan Bwyd Cymru ac Arloesi Bwyd Cymru ar gael i fusnesau cymwys ar amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol y gellir ei deilwra i anghenion cwmnïau unigol.
Mae Prosiect HELIX yn darparu gweithgaredd trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, yn cefnogi cwmnïau bwyd a diod o Gymru i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion arloesol o’r cysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r defnyddiwr.
Manteision y Cymorth:
Gwnaeth y cyngor a chymorth gan Ganolfan Bwyd Cymru eu helpu i gael eu hachrediad SALSA, gan sicrhau bod ganddynt yr hyder bod y cynhyrchion maen nhw’n eu cyflenwi yn ddiogel, yn gyfreithlon ac o ansawdd cyson.
Eglurodd Simon, “Er mwyn cyflawni achrediad SALSA plus Beer roedd yn rhaid i ni ddangos bod gennyn ni systemau diogelwch bwyd o ansawdd uchel ar waith, ar bob agwedd ar ein busnes. Mae'r achrediad hwn wedi galluogi Bluestone Brewing i werthu i amrywiaeth ehangach o gwsmeriaid ac rydyn ni’n gobeithio gwerthu i rai o'r manwerthwyr mwy y mae SALSA yn ofyniad cyflenwad iddynt.
Dywedodd Gerallt Morris, Technolegydd Bwyd, “Mae'r ardystiad SALSA plus Beer yn farc ansawdd gwirioneddol a hoffwn longyfarch yr holl dîm yn Bluestone Brewing. Mae cyrraedd y safonau gofynnol yn anodd. Does dim llawer o fragdai bach wedi cyrraedd yn agos at y safon ansawdd hon – mae’n llwyddiant gwych i bawb.”
Ychwanegodd Simon, “Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf a phasio ein harchwiliad gyda marciau gwych. Rydyn ni’n un o ddim ond 10 bragdy yng Nghymru i gyflawni hyn hyd yma ac rydyn ni wrth ein bodd.”
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol:
Mae Bluestone Brewing yn gosod dau danc newydd yr haf hwn er mwyn cynyddu eu capasiti a’u gallu i ymdopi ag archebion mwy o faint. Gosodon nhw beiriant canio ddiwedd 2021 ac maen nhw’n bwriadu bragu amrywiaeth o gwrw tun eleni er mwyn cyrraedd marchnadoedd newydd gyda detholiad newydd.
Wedi'i sefydlu yn 2019, mae Pembrokeshire Lamb yn rhedeg eu fferm a'u busnes gydag ethos i hyrwyddo cynhyrchion cig oen Cymreig o'r giât i’r plât, sydd wedi'u magu ac y gofalwyd amdanynt â gwerthoedd ffermio traddodiadol. Mae bocsys cig y cwmni ar gael i'w dosbarthu ledled y DU.
Yn dilyn llwyddiant Pembrokeshire Lamb, penderfynodd y sylfaenwyr Steve a Kara gynhyrchu ystod o sawsiau i ategu eu cig oen. Mae sawsiau The Welsh Saucery sydd wedi ennill Gwobr ‘Great Taste’ yn cynnwys sos coch, brown, barbeciw, tikka a tsili mango.
Cefnogaeth a Roddwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru:
Cynorthwyodd Canolfan Bwyd Cymru Pembrokeshire Lamb yn gyntaf yn hydref 2019 gydag ystod o wasanaethau, gan gynnwys datblygu system diogelwch bwyd, ymweld â safleoedd a’u hadolygu ynghyd â chefnogaeth gyda’u cynllun HACCP.
Yn fuan, symudodd Pembrokeshire Lamb ymlaen i ddatblygiad cynnyrch newydd cynhyrchion The Welsh Saucery, gyda llunio ryseitiau, HACCP, micro-brofi a chynhyrchu treialon, i gyd yn digwydd yn y Ganolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Cynhaliodd y tîm o dechnolegwyr ddadansoddiad maethol a rhestrau cynhwysion ar gyfer y cwmni, er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn gofynion labelu cyfreithiol. Yn ogystal, cawsant hyfforddiant ar sut i weithgynhyrchu ar raddfa fwy.
Buddion y Gefnogaeth:
Roedd derbyn cefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru yn gynnar yn nhaith y cwmni wedi caniatáu i Pembrokeshire Lamb ddysgu a meistroli'r systemau prosesu cywir o'r diwrnod cyntaf, ac felly sicrhau eu bod yn cynhyrchu cynhyrchion bwyd yn ddiogel ac yn effeithlon o'r cychwyn cyntaf.
Mae'r cwmni wedi caffael y sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a chynhyrchu eu cynhyrchion newydd yn barod i'w marchnata. Maent wedi gallu defnyddio'r cyfleusterau a'r offer yng Nghanolfan Bwyd Cymru, gyda thechnolegwyr bwyd wrth law gyda gwybodaeth ac arbenigedd bob cam o'r ffordd.
Kara Lewis, The Welsh Saucery: “Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein cefnogi a’n tywys wrth gynhyrchu’r sawsiau a’n helpu i fod â’r hyder i lansio The Welsh Saucery. Heb Ganolfan Bwyd Cymru, rwy'n amau y byddem wedi cymryd y naid i sawsiau. Mae eu harweiniad a'u cefnogaeth yn ogystal â'u cyfleusterau wedi bod mor ddefnyddiol."
Yng nghanol Mynyddoedd Duon Cymru, mae Helen Dunne yn cynhyrchu ei hystod ei hun o gyffeithiau yng nghegin ei chartref yn Nhalgarth. Nid yw ei jamiau, ei siytni a’i chyffrwyth meddal moethus cartref yn cynnwys unrhyw gyflasynnau na chadwolion artiffisial, ac maent yn cynnwys lefel uchel o ffrwythau a lefel isel o siwgr.
Lansiwyd Black Mountain Preserves ym mis Mawrth 2020 yn ystod y cyfnod clo cyntaf, sy’n dyst ei bod hi'n bosibl cychwyn busnes bwyd llwyddiannus gartref hyd yn oed yn ystod pandemig.
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, gwelwyd galw mawr am ei Hamperi Cymreig moethus, a oedd yn cynnwys nwyddau gan gynhyrchwyr bwyd lleol eraill yn yr ardal. Roedd y rhain yn boblogaidd iawn ac fe'u gwerthwyd i gyd erbyn canol mis Rhagfyr. Mae hi bellach wedi lansio detholiad o anrhegion moethus yn barod ar gyfer Sul y Mamau.
Roedd Helen yn awyddus i ddatblygu deunydd pecynnu cynaliadwy ac ailgylchadwy a dyfeisiwyd cynllun teyrngarwch, lle gall cwsmeriaid ddychwelyd jariau gwydr gwag i Helen yn gyfnewid am jar am ddim.
Pan ofynnwyd pa effaith y mae argyfwng COVID-19 wedi'i chael ar y busnes:
“Yn rhyfedd iawn, rwy’n credu ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi helpu fy musnes newydd i dyfu. Gwn fy mod wedi derbyn archebion gan gwsmeriaid sy'n benderfynol o gefnogi manwerthwyr lleol, yn hytrach na siopa gyda brandiau mawr sefydledig. Efallai na fyddwn wedi mynd ar-lein hefyd pe bawn i wedi cael fy nghadw'n brysur gyda’r nifer uchel o ymwelwyr a ragwelwyd yn y parc cenedlaethol yn 2020. ” - Helen Dunne, Black Mountain Preserves.
Rhoddodd y pandemig gyfle i Helen ganolbwyntio ar flasau newydd, ac mae’r adborth cadarnhaol y mae hi wedi’i dderbyn gan ei chwsmeriaid wedi ei hannog i ehangu o'r farchnad leol i siopau manwerthu ledled y sir a Chymru. Er mwyn cyrraedd ymhellach i ffwrdd, creodd Black Mountains Preserves siop a gwefan ar-lein ym mis Hydref 2020 ac maent bellach yn cyflenwi eu nwyddau ledled y DU. Mae eu jariau personol wedi profi i fod yn boblogaidd iawn.
Cymorth a ddarparwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru:
Cysylltodd Black Mountains Preserves â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yng ngwanwyn 2020 a mynychu sesiwn cychwyn busnes ar-lein, a oedd yn egluro’r cymorth sydd ar gael a ariennir trwy Brosiect HELIX. Yna aeth Helen ymlaen i weithio gyda Thechnolegydd Bwyd.
“Chwaraeodd Rhian o’r Ganolfan Fwyd ran ganolog yn fy ngwaith chynllunio a gweithredu HACCP. Yn bwysicaf oll, bod yno i drafod syniadau a chreadigaethau newydd. Ar hyn o bryd rydym yn cytuno ar ddull mwy gwyddonol gan weithio trwy syniadau ac arferion gorau wrth weithio gyda Reffractomedrau a mesuryddion pH. Mae Rhian hefyd yn dadansoddi fy ryseitiau i gadarnhau manylion maethol a chadarnhau pa rai o'm cyffeithiau y gellid eu marchnata fel ryseitiau siwgr isel.” - Helen Dunne, Black Mountain Reserves.
Budd y Cymorth:
Mae’r cymorth a’r anogaeth a gafwyd gan Dechnolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru wedi rhoi hyder i Helen gredu yn ei syniadau a pharhau i gynhyrchu ar raddfa fwy.
Helpodd Canolfan Bwyd Cymru Helen gyda HACCP, er mwyn sicrhau bod yr holl weithdrefnau cywir yn cael eu defnyddio o'r dechrau, ac mae hyn wedi galluogi Helen i fabwysiadu systemau effeithiol ar gyfer sefydlu ei chynhyrchiad ei hun.
Mae Helen yn bwriadu parhau i weithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru i ehangu’r gwaith cynhyrchu a chynyddu’r ystod, gan gynnal y broses ‘coginio cartref’ ar yr un pryd.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol:
Bydd set o ‘Anrhegion Blas Cymru’ newydd ar gael trwy gydol y flwyddyn a fydd yn cynnwys Siytni Cwrw Cymreig, un o'u cyffeithiau mwyaf poblogaidd a Marmalêd Jin Cymreig newydd. Cadwch lygad am y Casgliad Byd-eang sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Lansiwyd Milk Churn – Can Llâth ym mis Gorffennaf 2020 yng nghanol pandemig Covid-19 ac mae wedi’i leoli ar fferm deuluol ar gyrion Llandissilio. Nod y teulu oedd arallgyfeirio'r fferm i fod yn fusnes mwy cadarn yn wyneb prisiau llaeth cyfnewidiol.
Tarddodd Can Llâth o’r syniad o werthu llaeth amrwd yn wreiddiol, yn 2017, ond oherwydd natur risg uchel llaeth amrwd, penderfynodd y teulu yn erbyn hyn a throi ei sylw, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, at laeth wedi’i basteureiddio. Mae'r busnes gwerthu llaeth wedi bod yn ymdrech deuluol ond mae'r fenter fusnes newydd hon yn cael ei harwain gan aelod ieuengaf y teulu, Scott Robinson.
Mae'r peiriant gwerthu llaeth yn cael ei ailgyflenwi bob bore â llaeth ffres wedi'i basteureiddio heb ei homogeneiddio, yn syth o'r fferm. Ochr yn ochr â'r peiriant gwerthu mae siop onestrwydd hunanwasanaeth yn gwerthu wyau lleol, bara, cacennau, peiriant coffi a gorsaf ysgytlaeth a osodwyd yn ddiweddar lle y gall cwsmeriaid helpu eu hunain i wahanol flasau o syrupau ysgytlaeth i'w hychwanegu at y llaeth ffres a brynwyd ganddynt – mae’r cyfan ar gael rhwng 7yb a 9yh.
“Rydyn ni bob amser yn edrych ar ddatblygu ein busnes ac wedi bod yn edrych ar ychwanegu ychydig o bethau eraill.” - Scott Robinson, Milk Churn.
Y Gefnogaeth a Ddarperir gan Ganolfan Bwyd Cymru:
Cysylltodd Can Llâth â Chanolfan Bwyd Cymru yn y lle cyntaf ar ddechrau 2020 cyn i’r pandemig daro ac mae’r Technolegwyr Bwyd wedi gallu rhoi cymorth o’r dechrau, o’r syniad busnes cychwynnol. Mae’r Ganolfan Fwyd wedi gallu rhoi cefnogaeth i asesu hyfywedd prosiectau, dyluniad y safle a sefydlu prosesau. Galluogodd ymroddiad tîm Can Llâth a chefnogaeth barhaus y Ganolfan Fwyd i’r busnes gael ei lansio yn ystod cyfnod hynod heriol, gan sicrhau bod y cynnyrch yn cydymffurfio’n llawn â gofynion cyfreithiol a iechyd yr amgylchedd. Mae hyn wedi cynnwys datblygu eu systemau rheoli diogelwch bwyd, y gofynion o ran dogfennaeth yn ogystal ag agweddau ymarferol ar brosesu bwyd.
Mae Can Llâth wedi mynychu sawl gweithdy ar-lein gan gynnwys y rhai ar ganllawiau HACCP ac arallgyfeirio llaeth, yn ogystal â chael cyngor a chefnogaeth un i un gan y technolegwyr bwyd.
“Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth sefydlu Milk Churn - Can Llâth, yn bennaf o safbwynt y gwaith papur ond hefyd drwy fod yn berson ar ben arall y ffôn neu’n rhywun sy’n ymateb i e-bost waeth pa mor fach neu sylfaenol yw'r cwestiwn! Ymwelodd Sarah a Mark â’r safle cyn Covid-19 hefyd i gynghori ar y lleoliad ac ar y llif gwaith, a oedd yn help enfawr. Mae'r help wedi bod yn hanfodol i'r busnes; gan mai ychydig iawn o brofiad o brosesu oedd gennym roeddem yn dechrau ar lechen lân ac maen nhw wedi bod yn rhagorol yn ein tywys trwy'r gwahanol gamau.” - Scott Robinson, Milk Churn.
Y Budd o’r Cymorth:
Roedd Scott yn ffodus o fod wedi cysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru yn gynnar yn y broses o sefydlu ei fusnes bwyd, cyn y cyfnod clo. Galluogodd hyn iddo ddysgu'r gweithdrefnau cywir o'r diwrnod cyntaf, felly roedd yn siŵr ei fod yn cynhyrchu cynnyrch diogel.
“Mae’r gefnogaeth wedi gwneud y broses anodd o sefydlu busnes bwyd gymaint yn llyfnach ac yn haws. Fe’n helpodd ni i fwrw ymlaen a mynd trwy'r broses yn gynt o lawer na phe byddem yn ei gwneud ar ben ein hunain. Rydym yn parhau i weithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru ac maent bob amser yno i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Hyd yn oed ar ôl agor maent yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor rhagorol i'r busnes." - Scott Robinson, Milk Churn.
Adborth gan Ganolfan Bwyd Cymru:
“Mae Scott a’i deulu wedi bod yn gleientiaid gwych i weithio gyda nhw ac wedi cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r gefnogaeth a gynigir gan Ganolfan Bwyd Cymru. Maent wedi llwyddo i oresgyn yr heriau yn sgil Covid-19 ac arallgyfeirio eu fferm laeth i fod yn fusnes teuluol rhyfeddol y gallant fod yn hynod falch ohono. Mae'n fraint i mi fod wedi bod yn rhan o hyn ac rydym yn edrych ar rai prosiectau newydd cyffrous yn barod i ehangu ar y llwyddiant anhygoel a gawsant eisoes." - Sarah Ivens, Technolegydd Bwyd Canolfan Bwyd Cymru.
Sefydlodd Jonathan y Pembrokeshire Beachfood Company am ei fod wrth ei fodd yn creu bwyd môr o ansawdd gan ddefnyddio cynhwysion lleol. Dechreuodd y cwmni mewn sied fach hyfryd ar draeth Freshwater West, Sir Benfro o’r enw ‘Café Môr’, lle gweinir pob math o brydau poeth a byrbrydau rhwng cyfnod y Pasg a mis Medi. Cafodd Jonathan y syniad o greu Café Môr am ei fod am ddianc o fywyd gormesol y swyddfa ac ymgolli mewn busnes a ddefnyddiai ei sgiliau arlwyo ac a olygai y gallai dreulio rhagor o amser ger y môr, rhywbeth sy’n rhoi pleser mawr iddo.
Mae Jonathan, sydd yn ei elfen yn anadlu awyr iach y môr, yn casglu’r holl wymon mae ei angen arno i greu’i gynhyrchion o draethau cyfagos. Mae yna’n ei brosesu i gyd yn ei uned gweithgynhyrchu bwyd ei hun cyn ei roi yn y bwydydd blasus mae’n eu creu. Sefydlodd y fenter yn 2010 wedi cael llwyddiant mewn sawl gŵyl a digwyddiad mawr yn ystod blynyddoedd cyntaf y busnes. Fodd bynnag, setlo yn Freshwater West a wnaeth Café Môr yn y pen draw, sef hoff draeth Jonathan fel mae’n digwydd – dyna oedd gwireddu breuddwyd! Enillodd Café Môr enw iddo’i hun yn fuan am ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau i greu prydau diddorol a llawn blas a llwyddodd i ddenu cwsmeriaid lleol o bobman.
“Dw i wrth fy modd â’r môr a dw i ‘di dotio at y ffaith fy mod i bellach yn gallu gweithio yma yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu. Rwy’n teimlo’n angerddol am greu bwyd blasus, ond dim ond drwy ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau lle bo hynny’n bosib. Nid gwneud bwyd yw fy unig fwriad. Rwy’ am greu rhywbeth sydd allan o’r cyffredin ac sy’n llawn blas. Dw i am i bobl deimlo gwefr wrth fwyta fy mwyd.”
Yn 2012, dechreuodd Jonathan gynhyrchu nwyddau i’w gwerthu mewn siopau delicatessen a siopau fferm ac ymhen dim roedd yn cyflenwi siopau fel M&S. Bachodd siop M&S ei gynnyrch ‘Ship’s Biscuits’ i’w gynnwys yn ei chasgliad o nwyddau ‘Best of British’.
Ar ôl bod mewn digwyddiadau megis y ‘Speciality and Fine Food Fair’ a ‘lunch!’, dechreuodd Jonathan gael archebion o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Mae ei fusnes wedi gallu tyfu rhagor drwy allforio a dechreuodd gael archebion o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Sweden, Nigeria ac America, ar ôl iddo fod yn nigwyddiad Blas Cymru yn 2017.
Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:
Manteisiodd Pembrokeshire Beachfood ar gymorth Canolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2010, ar ôl i Landsker, a oedd yn helpu Jonathan i sefydlu’i fenter newydd, ei gyfeirio at y Ganolfan. Bryd hynny, roedd angen help ar Jonathan i gynhyrchu cacennau a chynyddu’u cyfnod silff. Wrth i’w fusnes dyfu, buan iawn y dechreuodd ddatblygu’i gynnyrch newydd, sef y ‘Ship’s Biscuits’, ailwampiodd y rysáit a chafodd help i greu prosesau cynhyrchu cyson. Crëwyd blasau newydd dros y blynyddoedd nesaf ac roedd Canolfan Bwyd Cymru wrth law i helpu â phob proses.
Yn 2012, enillodd Jonathan gystadleuaeth i gyflenwi 20,000 o frechdanau tortilla i’r Gemau Olympaidd. Cafodd Jonathan gymorth gan y tîm yng Nghanolfan Bwyd Cymru i sefydlu’r broses gynhyrchu yn ardaloedd prosesu bwyd arbennig y Ganolfan.
“Roeddem yn ffodus o allu llogi’r ystafelloedd prosesu yng Nghanolfan Bwyd Cymru i gynhyrchu’r brechdanau tortilla i’r Gemau Olympaidd. Ar ôl i gwmni fethu â’n helpu ni ychydig wythnosau cyn y Gemau, camodd y Ganolfan i’r adwy a doedd dim rhaid inni boeni am ddim. Trefnwyd y gwaith cynhyrchu a llwyddwyd i gyflawni’r archeb. Dydw i ddim yn siŵr beth fyddem wedi’i wneud pe na fyddent wedi bod yno i’n helpu ni.”
Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi helpu Jonathan drwy gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau iddo, gan gynnwys creu manylebau i’w gynhyrchion, datblygu cynhyrchion newydd, cynllunio prosesau, gweithredu system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) a microbrofi. Aeth y tîm o Dechnolegwyr hefyd ati i gynnal dadansoddiadau maeth a rhestru’r cynhwysion i’w cynnwys ar y labeli ar y gwahanol gynhyrchion, a hynny er mwyn bodloni’r holl ofynion a rheoliadau cyfreithiol.
“Mae popeth i’w gael dan yr un to yng Nghanolfan Bwyd Cymru i’ch helpu chi i weithgynhyrchu bwyd. Gall y staff yno eich helpu chi i ddatblygu eich cynhyrchion ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth maent yn barod iawn i’w rhannu â chi. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy i’m busnes i. Hyd yn oed heddiw, os oes gen i broblem, gallaf godi’r ffôn ac maen nhw’n fy helpu i ddatrys y broblem honno”
Datblygwyd y cynnyrch diweddaraf, ‘Kelchup’, sy’n gyfuniad o sôs coch a gwymon, â chymorth Canolfan Bwyd Cymru. Roedd y swp cyntaf a gynhyrchwyd yn 2017 yn boblogaidd iawn. Gwnaeth yn llawer gwell na’r disgwyl a hedfanodd oddi ar y silffoedd! Rydym yn disgwyl cyflenwi’r cynnyrch hyn yn fwy rheolaidd yn y dyfodol agos.
Buddion y Gefnogaeth:
Roedd Jonathan yn ffodus o fod wedi clywed am Ganolfan Bwyd Cymru yn gynnar iawn yn ei fenter. Oherwydd y gefnogaeth hon, gallai ddysgu am y systemau prosesu cywir a meistrolodd y systemau hynny o’r cychwyn gyntaf, felly roedd yn siŵr ei fod yn cynhyrchu’r bwydydd mewn ffordd ddiogel ac effeithlon reit o’r cychwyn.
“Fi oedd yn ben ar yr holl broses ar y cychwyn. Byddwn yn creu pethau heb fesur y rhan fwyaf o’r cynhwysion. Yng Nghanolfan Bwyd Cymru, dysgais am bwysigrwydd cysondeb, felly dechreuais fesur popeth yn ofnadwy o ofalus a byddwn yn defnyddio’r un broses yn union bob tro y byddwn yn creu saig. O ganlyniad i hyn, daeth yn haws cynhyrchu ein nwyddau yn fasnachol.”
Cafodd Jonathan help Canolfan Bwyd Cymru â nifer o gynhyrchion. Dechreuodd gynhyrchu pethau yng nghegin ei fam gan ddefnyddio’i Rayburn ond mae ganddo erbyn hyn ei gyfleuster prosesu masnachol ei hun. Mae’r Technolegwyr Bwyd wedi rhoi cymorth a chyngor iddo bob cam o’r daith ac mae wedi elwa o’u gwybodaeth a’u harbenigedd i’w helpu ar y daith honno.
Mae datblygu’r cynnyrch mwyaf newydd yn broses sydd wedi’i hariannu gan brosiect HELIX, sy’n fenter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai angen i’r cwmni fod wedi mynd at weithgynhyrchwyr yn uniongyrchol er mwyn datblygu a chreu’r cynnyrch.
“Wn i ddim beth fyddwn i wedi’i wneud heb help Canolfan Bwyd Cymru. Rwy’n gwybod y byddai wedi cymryd llawer rhagor o amser imi wireddu fy nghynlluniau. Rwy’ hefyd yn siŵr na fyddwn yn cyflenwi M&S erbyn hyn gan na fyddwn wedi dysgu am yr agweddau masnachol heb gymorth y Ganolfan. Rwy’ wedi bod yn ffodus iawn bod Canolfan Bwyd Cymru wedi gallu rhoi cymaint o gymorth a gwybodaeth imi, a hynny dafliad carreg i ffwrdd.”
Mae cyllid prosiect HELIX wedi galluogi Pembrokeshire Beachfood i ddatblygu’r cynnyrch newydd heb ormod o fuddsoddiad ariannol. Mae’r cwmni bellach yn gallu gwario’r cyllid hwnnw’n fwy effeithiol ar hyrwyddo’r cynnyrch i gynulleidfa ehangach fyth.
Y Cynlluniau i’r Dyfodol:
Mae Jonathan yn dal i sicrhau bod yr holl fwyd mae’r cwmni’n ei gynhyrchu yn dod o’r ardal leol a’i fod o’r ansawdd orau. Mae wedi gweld ei fusnes yn tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n bwriadu gwerthuso’r busnes unwaith yn rhagor a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo ac ar gael rhagor o bobl i brynu’i gynnyrch.
Mae Jonathan wedi dechrau gweithio tuag at ennill achrediad SALSA, ond mae hefyd yn ystyried rhagor o opsiynau o ran cyd-gynhyrchu fel ei fod yn gallu trosglwyddo’i angerdd am greu’r bwydydd blasus yn ei fusnes Café Môr i eraill.
Dyw Jonathan ddim yn bwriadu cael hoe o gwbl. Mae wedi bod yn treulio misoedd y gaeaf yn addasu hen gwch er mwyn creu Café Môr ar ei newydd wedd. Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn cychwyn tymor yr ymwelwyr adeg y Pasg.
BWYD NATURIOL, CYNALIADWY A BLASUS O ORLLEWIN CYMRU
Ffrwyth angerdd dau am arloesi, gwyddoniaeth, yr amgylchedd a bwyd blasus yw Bug Farm Foods. Daeth y cogydd Andy Holcroft a’r entomolegydd (gwyddonydd trychfilod) Dr Sarah Beynon at ei gilydd i ddatblygu cenhedlaeth newydd o fwydydd blasus sy’n cynnwys trychfilod ac sy’n llesol i’r corff ac i’r amgylchedd.
Dechreuodd y daith yn 2013 pan brynodd Sarah ac Andy, ill dau yn arbenigwyr yn eu meysydd, hen fferm deuluol Sarah, Harglodd Isaf ar gyrion Tyddewi. Arweiniodd blwyddyn gyfan o waith adnewyddu at greu Dr Beynon’s Bug Farm (neu ‘The Bug Farm’), sy’n ganolfan ymchwil, fferm weithredol ac atyniad i ymwelwyr sy’n llwyfannu eu cariad tuag at ffermio cynaliadwy a bwyd blasus. Drwy’r ymchwil a gynhaliodd Sarah i gynhyrchu bwydydd cynaliadwy ac entomophagy yn arbennig, (bwyta trychfilod), ysbrydolwyd Andy i arbrofi â ryseitiau newydd gan ddefnyddio trychfilod. Ei nod oedd creu cynhyrchion sy’n cynnwys trychfilod yn hytrach na chig. Eu hathroniaeth yw datblygu bwydydd sy’n defnyddio cynhwysion mwy cynaliadwy sydd hefyd yn fwy maethlon, gan gynnwys rhagor o brotein, omega 3 ac asidau amino. Buan iawn y trodd y treialon hyn yn seigiau ar fwydlen bwyty Andy, y ‘Grub Kitchen’ yn y Bug Farm. Hwn yw’r bwyty trychfilod amser-llawn cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Dair blynedd yn ddiweddarach ac mae’r Bug Farm yn atyniad a chanolfan ragoriaeth academaidd sydd wedi ennill gwobrau lu, gan gynnwys Busnes Newydd Gorau’r Flwyddyn yn 2016 a Busnes y Flwyddyn yng Nghymru 2017 o ran Cynaliadwyedd/Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol/Busnes Gwyrdd. Mae’r Grub Kitchen hefyd wedi cael llawer o lwyddiannau, gan ennill gwobr Busnes Arloesol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2017.
Wedi darlledu rhaglen a gomisiynwyd gan y BBC o’r enw ‘The Bug Grub Couple’ ym mis Awst a Rhagfyr 2017, dechreuodd y ddau ddatblygu eu bisgedi criciaid (eu ‘Cricket Cookies’) gan ddefnyddio brand Bug Farm Foods. Y nod oedd creu bisgedi a fyddai’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddechrau cynnwys protein trychfilod yn eu diet. Roedd datblygu eu ‘Cricket Cookies’, o’r gegin i’r broses gweithgynhyrchu bwyd ar raddfa fwy, yn gam mawr ond mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Helpodd y rhaglen y cwpl i ddatblygu proffil y busnes ymhellach ac mae’r Cricket Cookies wedi bod yn boblogaidd iawn, yn arbennig felly yn y farchnad anrhegion.
Cymorth Canolfan Bwyd Cymru:
Y nod oedd datblygu’r Cricket Cookies i fod yn gynnyrch a oedd yn fasnachol hyfyw, felly trodd Andy a Sarah at Ganolfan Bwyd Cymru i gael help. Yn gyntaf, gweithiodd y Technolegwyr Bwyd gydag Andy i ailwampio cynhwysion y rysáit er mwyn creu rhywbeth y gellid ei gynhyrchu ar raddfa fwy. Wedi i’r rysáit gael ei haddasu i’w defnyddio mewn system weithgynhyrchu fwy, aethpwyd ati i ddatblygu’r broses o gynhyrchu’r bisgedi. Am fod Andy wedi bod yn cynhyrchu’r bisgedi mewn sypiau bychain, sylweddolodd nad oedd hyn yn fasnachol hyfyw os oedd am eu cynhyrchu ar raddfa fwy. Addasodd y Technolegwyr Bwyd beiriant i’w helpu nhw i awtomeiddio’r broses o dorri’r bisgedi ac i gynyddu’r cyfnodau cynhyrchu.
“Roedd mentro i mewn i gynhyrchu bwyd yn codi braw arnom ar y dechrau am ein bod ni’n awyddus i wneud pethau’n iawn. Ond, roedd y cymorth a’r cyfarwyddyd a gawsom gan Ganolfan Bwyd Cymru yn wych a diflannodd ein hofnau ni. Gallem fod yn sicr ein bod yn gwneud pethau’n iawn o’r dechrau’n deg ac nad oeddem yn gwneud camgymeriadau.”
Helpodd y Technolegwyr Bwyd nhw â’r system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) ac i gofrestru ag Adran Iechyd yr Amgylchedd. Ar ôl datblygu’r cynnyrch, aethant ati i ddadansoddi maeth a phroffil microbiolegol y bisgedi, eu cyfnod silff a’r cyfrifon ar gyfer y labeli.
“Mae’r Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru wedi ein helpu ni drwy’r broses i gyd ac maen nhw wedi trosglwyddo’u gwybodaeth inni fel ein bod yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r sgiliau newydd a ddysgom ni oddi wrthyn nhw. Mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy ac os oes gennym ni broblem, neu os ydym am wybod rhywbeth, gallwn godi’r ffôn a gofyn cwestiwn.”
Buddion y Gefnogaeth:
Mae’r holl gefnogaeth a gafodd The Bug Farm i ddatblygu’r ‘Cricket Cookies’ a’u cyflwyno i’r farchnad wedi’i hariannu gan brosiect HELIX, sy’n fenter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai’n rhaid i’r cwmni fod wedi ariannu’r fenter hon ei hunan.
“Rydym yn fusnes newydd bychan a doedd gennym ni ddim mo’r cyfalaf i fuddsoddi mewn datblygu, profi a sefydlu’r broses. Yn ogystal â hynny, nid oes gennym ni brofiad o weithgynhyrchu, felly doedd gennym ni ddim mo’r wybodaeth angenrheidiol i fwrw ‘mlaen â’r syniad. Oni bai am gefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru, byddem wedi gwario ffortiwn ar ymgynghorwyr a byddem wedi mentro i fuddsoddi arian mewn arbrawf arall na fyddem, yn ôl pob tebyg, wedi bwrw ‘mlaen ag ef”.
Mae cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru wedi galluogi Bug Farm Foods i ddatblygu. Maent wedi gallu dysgu popeth posib ynglŷn â rhedeg eu busnes prosesu bwyd eu hunain â’r sicrwydd bod rhywun ar ben arall y ffôn os oes angen rhagor o gefnogaeth arnynt.
Y Cynlluniau i’r Dyfodol:
Ers hynny, mae’r cwpl wedi cael rhagor o gyllid drwy Lywodraeth Cymru a thrwy phrosiect SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach) Innovate UK i ddatblygu bwydydd sy’n cynnwys protein trychfilod i’w bwyta mewn ysgolion. Y bwriad yma yw lleihau’r halen, y siwgr a’r brasterau dirlawn yn niet plant. Mae’r cyllid hwn hefyd yn galluogi’r busnes i ehangu a chreu’i gyfleusterau Ymchwil a Datblygu ei hun ar y fferm. Drwy hyn, bydd rhagor o gynhyrchion newydd yn cael eu datblygu i’w hychwanegu at yr ystod o gynhyrchion sy’n perthyn i’r brand Bug Farm Foods.
Mae Technolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru yn eu helpu nhw â diwyg y ffatri newydd ac i ddod o hyd i’r cyfarpar angenrheidiol. Pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, byddant hefyd yn eu helpu nhw â HACCP a sicrhau bod y cyfleusterau yn barod i’w cymeradwyo gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.
Mae gan Sarah a Andy lawer o syniadau yr hoffent eu hystyried a’u bwriad yw parhau i ehangu ystod o gynhyrchion Bug Farm Foods yn y dyfodol.
Yn 2000, daeth pedwar o ffermwyr organig o Gymru a oedd yn gwerthu llaeth i bobl leol ynghyd i sefydlu cwmni cydweithredol Calon Wen, ac mae nifer o ffermydd teuluol bellach yn rhan o’r cwmni cydweithredol. Maent yn credu’n gryf mewn cadw pethau’n syml. Mae’r gwartheg yn pori porfeydd organig nad ydynt wedi’u trin â chwistrelli neu gemegau ac mae’r caeau’n gyforiog o feillion. Mae’r gwartheg hefyd yn cael digon o ymarfer ac awyr iach allan yn y caeau a phan fônt yn barod, mae’r ffermwyr yn eu godro nhw eu hunain. Mae cwmni Calon Wen yn talu ei ffermwyr am ansawdd y llaeth yn ogystal â faint o laeth maent yn ei gynhyrchu. Golyga hyn nad yw’r ffermwyr yn cael eu gwthio tuag at systemau llaetha trwm.
Yn 2003, dechreuodd Calon Wen greu ystod o gynhyrchion llaeth gan ddefnyddio llaeth organig o’u ffermydd. Cynhyrchwyd menyn ar y dechrau ac maent erbyn hyn yn cynhyrchu caws ac iogwrt wedi’i rewi hefyd. Y cwmni’n sy’n creu’r cynhyrchion i gychwyn ac mae’n defnyddio cwmnïau prosesu allanol i’w gweithgynhyrchu ar ei ran.
Mae Calon Wen bellach yn un o brif frandiau Cymru ac mae’n cyflenwi siopau Tesco, Sainsbury’s, Morrison’s a Waitrose. Mae eu nwyddau hefyd ar gael mewn sawl siop annibynnol yng Nghymru.
Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:
Daeth cwmni Calon Wen i gyswllt â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2016 am ei fod yn awyddus i ddatblygu’i gaws organig ei hun. Anfonodd Canolfan Bwyd Cymru ei Dechnolegydd Gwneud Caws arbenigol i gynorthwyo Calon Wen i ddatblygu’i gynnyrch. Aeth Canolfan Bwyd Cymru ati i ddatblygu caws glas newydd y cwmni, y Preseli Blue, a chynhaliwyd nifer o dreialon i berffeithio’r rysáit a’r prosesau ar ran y cwmni.
‘Rydym wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi gallu manteisio ar gyfleusterau cynnyrch llaeth masnachol Canolfan Bwyd Cymru i ddatblygu ein caws yn ogystal â gwybodaeth ac arbenigedd y Technolegwyr Bwyd. Maen nhw wedi datblygu’r caws ac maent wedi hyfforddi pobl i’w gynhyrchu ar ein rhan.’
Yna, mae’r Technolegwyr Bwyd yn treulio’u hamser yn arwain y cynhyrchwyr drwy’r broses gweithgynhyrchu caws. Yn yr achos hwn, dewiswyd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn y Gogledd. Y nod yw sicrhau y gall Canolfan Bwyd Cymru Bodnant lwyddo i efelychu’r cynnyrch ar eu rhan. Mae gan y caws newydd, sef y Preseli Blue, nod masnach erbyn hyn a dylai gyrraedd silffoedd yr archfarchnadoedd yn gynnar yn 2018.
Buddion y Gefnogaeth:
Mae’r broses o ddatblygu’r cynnyrch newydd wedi’u hariannu drwy brosiect HELIX, sef menter Llywodraeth Cymru a weithredir gan Arloesi Bwyd Cymru sy’n rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Pe na bai’r gefnogaeth hon wedi bod ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru, byddai angen i’r cwmni fod wedi mynd at weithgynhyrchwyr caws yn uniongyrchol er mwyn datblygu’r caws a’i gynhyrchu.
‘Byddai cynhyrchu’r caws glas wedi bod yn broses llawer anos petawn wedi gorfod mynd at rywun arall, gan y byddai gennym lai o reolaeth dros y rysáit. Un fantais arall inni yw’r ffaith nad ydym wedi ein ‘clymu’ wrth un cwmni gweithgynhyrchu penodol am mai ni sy’n berchen ar y rysáit caws glas. Rydym yn gallu dewis y cwmni gweithgynhyrchu gorau i wneud y caws ar ein rhan.’
Mae sicrhau cyllid drwy brosiect HELIX wedi golygu bod Calon Wen wedi gallu datblygu’r cynnyrch newydd heb lawer o fuddsoddiad ariannol. Gall y cwmni yn awr ddefnyddio’r cyllid hwnnw’n fwy effeithiol er mwyn dod â’r cynnyrch i’r farchnad a’i hyrwyddo i gynulleidfa ehangach.
Y Cynlluniau i’r Dyfodol:
Mae Canolfan Bwyd Cymru ar hyn o bryd yn cynorthwyo Calon Wen â’r broses Sicrwydd Cyflenwyr, a hynny er mwyn gwarantu bod cysondeb yn y ffordd mae’r caws newydd yn cael ei gynhyrchu a bod y broses honno mor effeithlon â phosib. Mae’r cymorth hwn hefyd yn cael ei ariannu drwy brosiect HELIX, sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd systemau gweithgynhyrchu bwydydd mewn cwmnïau bach a chanolig.
Bydd Calon Wen yn parhau i arbrofi â blasau a’r gobaith yw y bydd yn gallu datblygu rhagor o gynhyrchion llaeth newydd yn y dyfodol agos.
Mae’r Little Welsh Deli yn fusnes teuluol o Lanelli sy’n arbenigo mewn cynhyrchu pasteiod a chacennau tun pobi bas a wnaed â llaw. Mae’r busnes, a gychwynnodd yng nghegin ddi-nod cwpl priod, wedi ehangu ac mae ganddo bellach ei gyfleuster cynhyrchu ei hun er mwyn cwrdd â’r galw am eu pasteiod blasus. Dechreuodd y fenter fel hobi, yn gwneud cacennau a’u gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr. Ond, wedi iddynt ddechrau cynhyrchu’u pasteiod cartref, fe ddechreuon nhw gyflenwi marchnad lawer mwy.
“Cawsom y syniad o wneud pasteiod drwy hap a damwain. Gwnaeth Clare lwyth ohonyn nhw un penwythnos i farchnad ffermwyr ac fe werthom bob un ohonyn nhw’n syth! Meddyliom efallai y dylem wneud rhagor, ac felly y bu.”
Roedd eu pasteiod mor boblogaidd mewn marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd drwy Gymru fel y tyfodd y busnes i’r graddau nad oedd eu cegin arlwyo yn y seler gartref yn gallu ymdopi, ac felly rhaid oedd ailystyried pethau. Fel cyn nyrs, roedd Clare wedi hen arfer ag oriau gwaith hir, felly gweithiodd yn galed i ddatblygu’r busnes. Pan gollodd ei gŵr, Ryan, ei swydd, hon oedd yr adeg berffaith i arwain y busnes tua’r cam nesaf.
Symudodd y ddau i mewn i’w huned eu hunain yn Llanelli y llynedd ac maent erbyn hyn yn gallu cynhyrchu 2,500-4,000 o basteiod bob wythnos a chyflenwi cacennau tun pobi bas i gwmni Castell Howell. Mae’r ddau yn gweithio llawn-amser yn y busnes ac maent yn cyflogi eu nith, eu mab a ffrind i’w helpu nhw. Maent yn dîm bach a chyfeillgar ac maent i gyd yn mwynhau cydweithio, drwy lwc!
Gellir prynu eu pasteiod mewn garejis, siopau coffi a pharciau carafanau ar draws De a Gorllewin Cymru. Maent hefyd yn cyflenwi Maes Awyr Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:
Daethant i gyswllt â Chanolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2015 gan fod eu ceginau a’u cyfarpar gartref wedi mynd yn rhy fach i ddiwallu’u hanghenion. Roedd angen iddynt felly ddod o hyd i rywle i wneud eu pasteiod. Daethant o hyd i Ganolfan Bwyd Cymru ar-lein, heb sylweddoli faint o gyfleusterau roedd gan y Ganolfan i’w cynnig.
“Rwy’n cofio cael cip ar ardaloedd cynhyrchu’r Ganolfan Fwyd am y tro cyntaf a gweld yr holl gyfarpar gan feddwl sut yn y byd y gallwn ni efelychu hyn!!”
Helpodd y Technolegwyr Bwyd yn y Ganolfan nhw i efelychu’r prosesau ar raddfa lawer mwy gan ddefnyddio’r cyfarpar masnachol yn y Ganolfan. Cawsant gymorth â’r system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) er mwyn sicrhau bod eu systemau i gyd yn dilyn protocol diogelwch bwyd. Defnyddiwyd y cyfleusterau i wneud llenwad eu pasteiod ac i gymysgu’r toes. Wedi iddynt berffeithio’u rysáit er mwyn cynhyrchu ar raddfa fwy, byddent yn dod i’r Ganolfan unwaith yr wythnos a threulio diwrnod yn defnyddio’r cyfleusterau ar y safle.
Yn ystod y 18 mis o waith prosesu ar y safle a gwrando ar gyngor, fe newidion nhw eu dulliau cynhyrchu er mwyn cynyddu’u capasiti.
“Yn y pen draw, roedd y rhan fwyaf o’r cynhwysion yn cael eu cludo i’r Ganolfan, gan gynnwys y llysiau wedi’u torri’n barod, e.e. y winwns, yn hytrach na gwneud hyn i gyd ein hunain. Aethom hefyd ati i fireinio ein systemau ac roeddem yn gallu cynhyrchu hyd at 6 o wahanol lenwadau mewn un diwrnod.”
Ar ôl cael grant, dechreuodd y cwpl chwilio am gyfleusterau cynhyrchu yn nes at adref. Fe chwilion nhw’n ofalus am gyfarpar ac fe lwyddon nhw i ariannu gweddill y datblygiad eu hunain.
Buddion y Gefnogaeth:
Gallai’r cwmni Little Welsh Deli ymarfer a gwella’u dulliau cynhyrchu tra roeddent yn defnyddio’r Ganolfan Fwyd. Gallent brofi’u systemau heb orfod buddsoddi’n helaeth mewn rhagor o gyfarpar newydd, gan alluogi’r busnes i dyfu heb fynd i ddyled. Roedd y Technolegwyr Bwyd yn y Ganolfan wrth law gydol yr amser i’w hyfforddi nhw i ddefnyddio’r cyfarpar ac i roi cyngor iddynt er mwyn i’r broses lifo’n rhwydd. Helpodd y Ganolfan nhw â’r gofynion HACCP er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir o’r dechrau. Drwy hyn, maent wedi gallu mabwysiadu systemau effeithiol er mwyn sefydlu’u cyfleuster cynhyrchu eu hunain.
“Ni fyddem yma nawr oni bai am Ganolfan Bwyd Cymru. Nhw a roddodd yr hwb roedd ei angen arnom ni er mwyn symud i’r cam nesaf. Cawsom ddefnyddio’r cyfleusterau a’r cyfarpar i gynyddu ein cynhyrchiant. Drwy hyn, datblygodd ein menter i fod yn fusnes cynhyrchu bwyd llawn-amser.”
Yn gyffredinol, mae defnyddio cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru am 18 mis wedi helpu’r busnes i ffynnu ac maent wedi gallu ariannu’r cam nesaf yn eu datblygiad â chymorth y grant a gawsant. Maent wedi gallu tyfu’r busnes yn raddol a chynyddu’u gweithlu er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am eu cynnyrch.
Y Cynlluniau i’r Dyfodol:
Ar ôl plesio prynwr un o’r prif archfarchnadoedd mewn sesiwn flasu yn ddiweddar, y cam nesaf yw sicrhau achrediad SALSA (Cymeradwyaeth i Gyflenwyr Diogel a Lleol), er mwyn i’r cwmni allu cyflenwi’r archfarchnad honno.
Bydd Technolegwyr Bwyd Canolfan Bwyd Cymru yn eu helpu nhw i wybod pa ddogfennau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt er mwyn ennill yr achrediad. Yna, byddant yn eu cynorthwyo i greu’r polisïau, y gweithdrefnau a’r cofnodion hynny. Bydd help ychwanegol yn cael ei roi i sicrhau bod monitro parhaus yn digwydd a bod addasiadau yn cael eu gwneud ar gyfer archwiliadau yn y dyfodol.
“Mae’n anodd dod o hyd i’r amser i weithio tuag at y gymeradwyaeth SALSA pan rydym mor brysur yn cynhyrchu, felly bydd arweiniad Canolfan Bwyd Cymru yn hyn o beth yn help mawr inni. Mae hynny’n llawer gwell na cheisio’i wneud ar ein pen ein hunain”.
Mae cynyddu cynhyrchiant hefyd yn arwain at broblemau o ran capasiti ac maent ar hyn o bryd yn ystyried awtomeiddio rhagor ar eu gwaith cynhyrchu drwy gyflwyno gwasg grimpio i orffen eu pasteiod. Ar hyn o bryd, mae hyn i gyd yn cael ei wneud â llaw. Byddai hyn yn eu galluogi nhw i gynyddu capasiti a chyflawni archebion mwy fyth yn y dyfodol.
Creadigaeth Paul a Linda Mear yw Popty Tan y Castell. Dechreuodd Paul gynhyrchu’r pice ar y maen enwog ar y fferm deuluol ar hen ffwrn Aga a dechreuodd eu gwerthu i siopau lleol ger ei fferm.
Pan sicrhaodd Paul ddigon o gyfalaf, symudodd y cwpl y busnes i hen fwthyn a sefydlu cegin er mwyn cwrdd â’r galw am eu cynnyrch gan eu bod erbyn hynny’n gwerthu i westai bach a mawr, caffis a bwytai. Unwaith eto, doedden nhw ddim yn gallu cwrdd â’r galw a doedd dim digon o le yn y bwthyn i wneud y gwaith. Daeth Paul o hyd i uned yn Arberth mewn parc busnes bychan nid nepell o’i gartref. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Paul yn cadw dwy swydd, y naill yn darlithio mewn coleg lleol a’r llall yn gwneud pice ar y maen hyd oriau mân y bore.
Mynegodd archfarchnad leol ddiddordeb yn y cynnyrch a gofynnodd i Paul gyflenwi rhai siopau yng Nghymru. Erbyn heddiw, mae gan gwmni Tan y Castell ddau bopty pwrpasol mewn 6 ystâd ddiwydiannol ac mae’n cyflogi dros 40 o weithwyr llawn-amser. Mae dros ugain mlynedd o nosweithiau hwyr a gwaith caled wedi talu ar eu canfed gan eu bod bellach ymhlith y poptai mwyaf adnabyddus ac uchel eu parch yng Nghymru. Nhw hefyd sy’n cynhyrchu’r pice ar y maen gorau ar y farchnad! Maent yn weithgynhyrchwyr bwydydd balch sydd wedi ennill achrediad AA oddi wrth Gonsortiwm Manwerthu Prydain (y BRC) ac maent yn cynhyrchu nwyddau wedi’u pobi o’r ansawdd orau. Dechreuwyd y busnes ag un cynnyrch ond mae ganddynt bellach dros 15 o gynhyrchion. Yn eu plith mae’r pice ar y maen traddodiadol, y teisennau gradell tymhorol modern a blasus, y bara brith arobryn a’r teisennau brau a wnaed â menyn. Gallwch brynu eu cynnyrch yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr ac mae Cynghorau Sir, cyfanwerthwyr cenedlaethol, cwmnïau rheilffordd, gwestai, cwmnïau moduro ar ben ucha’r farchnad a Fortnum and Mason hefyd yn gwsmeriaid iddynt.
Cefnogaeth Canolfan Bwyd Cymru:
Mae Tan y Castell wedi cael cefnogaeth oddi wrth Ganolfan Bwyd Cymru yn barhaus dros y 10 mlynedd diwethaf. Maent wedi cynnal ambell brosiect datblygu yn y Ganolfan. Prif nod y prosiect cyntaf oedd ymestyn cyfnod silff un o’u cynhyrchion er mwyn iddynt gyrraedd marchnadoedd newydd. Gweithiodd y Technolegydd Bwyd yn y Ganolfan â nhw i ail-greu’r rysáit er mwyn ymestyn cyfnod silff un o’u cynhyrchion bara brith.
‘Fe dreulion ni rai wythnosau yn y Ganolfan yn manteisio ar gefnogaeth a chymorth y Technolegydd Bwyd am ein bod yn ei chael hi’n anodd ymestyn cyfnod silff y cynnyrch ar y pryd. Rydym yn ffodus o allu defnyddio cyfleusterau ac arbenigedd fel hyn yn lleol. Roedd gwybodaeth y Technolegydd Bwyd, ynghyd â’r cyfleusterau yno, yn hollbwysig wrth inni ddatblygu’r cynhyrchion newydd.’
Pan benderfynodd y cwmni greu rhagor o gynhyrchion a datblygu cynhyrchion heb glwten, at Ganolfan Bwyd Cymru y trodd gyntaf. Helpodd y Technolegwyr Bwyd nhw i ddod o hyd i’r holl ddeunyddiau crai roedd eu hangen arnynt i ddatblygu’u cynhyrchion. Cynhaliwyd nifer o dreialon ar y teisennau brau heb glwten newydd hefyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Cynorthwyodd y Technolegwyr Bwyd nhw i ddatblygu’u cynnyrch newydd ac i berffeithio’r ryseitiau yn barod i’w cynhyrchu.
Drwy hyn, roedd modd iddynt ddefnyddio’r cyfleusterau heb darfu ar eu ffatrïoedd cynhyrchu a oedd eisoes yn brysur.
Yn ogystal â hyn, pan newidiodd y BRC eu canllawiau rai blynyddoedd yn ôl, cawsant gymorth Canolfan Bwyd Cymru i’w deall ac i fabwysiadu prosesau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r canllawiau newydd.
Buddion y Gefnogaeth:
Mae’r Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru wedi cefnogi menter pice ar y maen Tan y Castell pan oedd angen y gefnogaeth honno arnynt. Maent wedi defnyddio’r cyfleusterau datblygu a phrosesu yno ar sawl achlysur sy’n golygu nad ydynt wedi gorfod amharu ar eu gwaith cynhyrchu o ddydd i ddydd.
‘Rydym wedi bod yn ffodus o fod wedi cael cymorth a chyngor y Technolegwyr Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru dros y blynyddoedd. Mae wedi bod o fudd mawr inni allu trafod ein syniadau neu broblemau technegol â rhywun sy’n wybodus iawn ac sydd â phrofiad o’r diwydiant.’
Drwy ailddatblygu ac ail-greu’r cynnych yng Nghanolfan Bwyd Cymru, mae Tan y Castell wedi gallu parhau â’u gwaith cynhyrchu arferol ac nid yw’r broses wedi amharu dim ar faint maent yn ei gynhyrchu. Mae cymorth y Technolegwyr Bwyd wedi eu galluogi nhw i ddatrys problemau â’r cynnyrch yn gyflym ac effeithlon. Maent hefyd wedi gallu gwneud y gwaith hwn â hyder bod eu syniadau a’u gwaith datblygu newydd yn ddiogel.
‘Rydym yn ffodus iawn am ein bod yn gallu cysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i ofyn cwestiwn ar unrhyw adeg ac rydym yn hyderus bod gan y staff yr ateb ac, yn bwysicach na dim i ni, eu bod yn parchu ein cyfrinachedd. Rydym yn teimlo’n ddiogel yn siarad â’r Technolegwyr Bwyd yno.’
Heb gymorth Canolfan Bwyd Cymru, byddai’n rhaid iddynt fod wedi troi at gynhyrchwyr neu ymgynghorwyr eraill i wneud y gwaith hwn. Byddai hyn wedi bod yn llawer drutach iddynt, yn ariannol a hefyd o ran cyfrinachedd.
Y Cynlluniau i’r Dyfodol:
Er nad oes cynlluniau mawr ar y gweill, mae Tan y Castell yn bwriadu parhau i dyfu’r busnes yn y dyfodol. Byddant yn parhau i gysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i gael cymorth a chefnogaeth pan fo angen.