Cwrs pum diwrnod wedi'i anelu at reolwyr ac uwch staff sy'n aelodau o dîm HACCP. Nod y cymhwyster yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso HACCP sy'n seiliedig ar Codex. Argymhellir yn gryf bod dysgwyr gyda chymwysterau Diogelwch Bwyd Lefel 4 a HACCP Lefel 3 yn barod, cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn. Byddai profiad o weithio o fewn tîm HACCP yn fanteisiol hefyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am addasrwydd y cymhwyster hwn, rhowch alwad i ni!
Mae'r dystysgrif hon yn dystysgrif oes, ond awgrymir eich bod yn cadw tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus i gadw'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn gyfredol.
Dyddiad Cwrs nesaf: I'w gadarnhau
Ystod: Rhaglen 5 diwrnod
Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 3 HACCP, Dyfarniad Lefel 4 Diogelwch Bwyd
Dull asesu: Arholiad
Unedau RQF: Oes
Pris: Cysylltwch am bris