Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru dîm o Dechnolegwyr Bwyd arbenigol yn cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.
Os oes gennych syniad newydd gwych am gynnyrch ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych chi’n gynhyrchydd profiadol sydd angen cymorth gyda mater penodol neu gymorth i ennill achrediad gyda BRC (Chonsortiwm Manwerthu Prydain) neu SALSA (Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol), gall ein Technolegwyr Bwyd helpu i’ch tywys a’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan.
Mae ein Technolegwyr Bwyd yn brofiadol iawn ym mhob sector o’r diwydiant cynhyrchu bwyd a gallant helpu i ddatrys eich problemau technegol neu ddatblygu eich cynnyrch. Gallant gynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gynhyrchu bwyd, gan gynnwys:
Mae profiad masnachol ein Technolegwyr Bwyd yn eu galluogi i gynnig cymorth sylweddol wrth i chi berffeithio eich systemau rheoli diogelwch bwyd. Maen nhw’n cynnig cymorth gyda’r canlynol:-
Mae ein Technolegwyr Bwyd yn arbenigwyr ar ddatblygu cynnyrch cwbl newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli a gallant eich helpu gydol y broses gyfan:-
Ydych chi’n ystyried dod yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod? Efallai eich bod am ehangu cynhyrchiad rydych yn ei wneud gartref ar hyn o bryd, neu mae arnoch angen cymorth arbenigol gyda Datblygu Cynnyrch Newydd?
Yn Ganolfan Bwyd Cymru, mae pob cleient newydd yn dechrau ar eu taith drwy’n Sesiynau Cychwyn Busnes bob dau fis. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno i’r cyfleusterau, yr arbenigedd a’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu i dyfu eich busnes.
Mae pob sesiwn yn cynnwys:
Cyflwyniad byr gan ein Rheolwr Gweithrediadau Busnes yn cynnwys:
Sut y gall Canolfan Bwyd Cymru gefnogi eich busnes
Buddion y Rhaglen HELIX
Rhestr wirio ymarferol ar gyfer cychwyn busnes
Sut i gael mynediad at ddata mewnwelediad y farchnad
Taith dywys o’n Canolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu
Cyfarfod 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd i drafod eich syniadau a’ch camau nesaf
Cyflwyniadau gan Busnes Cymru a Cywain, gyda’r opsiwn ar gyfer cyfarfodydd 1-2-1 dilynol
Mae’r sesiynau’n dechrau am 10:00am ac yn para tua 2 awr (cyflwyniad a thaith)
Bydd pob busnes wedyn yn cael apwyntiad 30 munud 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd
Bydd Cynghorydd Busnes o Fusnes Cymru a Rheolwr Datblygu Busnes o Gywain hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pellach ar gais
Darperir lluniaeth a chinio ysgafn
16 Medi 2025
11 Tachwedd 2025
I gadw lle, e-bostiwch gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230.
Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi lansio’r cyfeirlyfr digidol cynhwysfawr cyntaf o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Mae’r cyfeirlyfr, sy’n cynnwys cofnodion o dros 430 o gwmnïau, wedi’i greu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwerthu cynhyrchion Cymreig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cynhwysir cwmnïau bach a mawr yn y cyfeirlyfr a gynhyrchwyd ar ran Bwyd a Diod Cymru ac fe’i defnyddir ar ymweliadau datblygu masnach ac arddangosfeydd ledled y byd. Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchydd yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch, sianel gyflenwi ac ardystiad.
Wrth siarad am lansio’r cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
“Rydym am i gwmnïau bwyd a diod Cymru gael eu dathlu ar lwyfan byd eang. Bydd y cyfeirlyfr hwn yn help i godi proffil bwyd a diod arloesol o Gymru yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol.”
Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth fwyd sy’n ymroddedig i annog datblygiad sector bwyd Cymru a darparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwyd.
I ganfod rhagor am y cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, ewch i’r wefan: http://foodinnovation.wales/directory