Mae Canolfan Bwyd Cymru yn falch o gyhoeddi dychweliad cwrs hyfforddi Diogelwch Bwyd Lefel 3

Rydym yn angerddol am ddiogelwch bwyd yma yng Nghanolfan Bwyd Cymru ac rydym wedi sicrhau y gallwn ddarparu'r un lefel o hyfforddiant sy'n cwrdd â'r holl ofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddi trinwyr bwyd.

Rydym wedi addasu ein cwrs Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd i weminar ar-lein. Bydd yr hyfforddiant yn cael i gynnal ar-lein trwy Zoom ac yn cael ei ddarparu dros 5 sesiwn, gyda sesiwn adolygu ychwanegol opsiynol. Manylion y gyfres gyntaf o weminarau isod*:

 

Dydd Llun 5 Hydref 10:00 - 13:00

Dydd Llun 12 Hydref 10:00 - 13:00

Dydd Llun 19 Hydref 10:00 - 13:00

Dydd Llun 26 Hydref 10:00 - 13:00

Dydd Llun 2 Tachwedd 10:00 - 13:00

 

Bydd yr arholiad yn cael ei gynnal ar-lein gyda Highfield, gydag amser a dyddiad sy’n addas i bob unigolyn.

*Mae'r dyddiadau a'r amseroedd ar gyfer cyrsiau ar-lein yn hyblyg - cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

 

Mae'r cwrs Diogelwch Bwyd Lefel 3 wedi'i anelu at oruchwylwyr trin bwyd yn y diwydiannau bwyd ac arlwyo / gweithgynhyrchu. Cwrs delfrydol i Reolwyr a goruchwylwyr mewn busnesau arlwyo neu weithgynhyrchu canolig a mawr. 

Nod y cymhwyster hwn yw cefnogi rôl yn y gweithle a rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu’n bersonol a chymryd rhan mewn addysg. Mae’n addas i ddysgwyr sydd naill ai wrthi, neu’n dymuno camu ymlaen i lefel uwch neu lefel oruchwylio o fewn busnes arlwyo bwyd.

 

Beth bynnag yw eich anghenion hyfforddi, rydyn ni yma i helpu

Dan y gyfraith, mae’n rhaid i bawb sy’n trin bwyd gael eu hyfforddi yn ôl eu gweithgareddau trin bwyd.. Gallwn eich helpu trwy roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich staff i wneud eu gwaith i'r safonau uchaf. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion hyfforddi:

gen@foodcentrewales.org.uk

01559 362230