Unedau Prosesu Bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru

Nod yr unedau prosesu bwyd annibynnol yw cynorthwyo busnesau newydd i gymryd y cam cyntaf tuag at gynyddu cynhyrchiant a datblygu eu busnesau.

Gall busnesau bwyd arloesol logi’r cyfleusterau bwyd hyn sydd o’r radd flaenaf am hyd at bum mlynedd, sy’n eu helpu i gynyddu cynhyrchiant a datblygu eu busnesau heb gostau gwario ar adeiladau.

Gyda chymorth Cyllid Ewropeaidd Amcan 1 a nawdd cyfatebol gan Gronfa Adfywio Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, adeiladwyd pedair Uned Deor yng Nghanolfan Bwyd Cymru, sy’n gyfleusterau unigryw yng Nghymru. Ers eu sefydlu yn 2005, mae’r unedau wedi helpu nifer fawr o fusnesau newydd i dyfu a ffynnu yn fusnesau prosesu bwyd llwyddiannus iawn, gan gyflenwi ar hyd a lled Cymru, y DU ac allforio dramor hyd yn oed.

  • 4 uned x 156 metr sgwâr (yr ardal fewnol)
  • Ardal Gynhyrchu 13m x 7m
  • Lle Swyddfa
  • Toiled
  • Ystafell Staff
  • Ardal Hylendid
  • Ardal Golchi Offer
  • Prif Gyflenwad Dŵr a Thrydan - cynnwys cyflenwad teirgwedd

Rhent blynyddol yn dechrau o £6,500 y flwyddyn

Pum mlynedd yw’r cyfnod hiraf y gellir rhentu

Ewch ar daith rithwir o'n hunedau deor yma: foodcentrewales.org.uk/cyfleusterau

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:

gen@foodcentrewales.org.uk

01559 362230