Cynhyrchwyr Bwyd yn ymuno i greu Bocs Brecwast Blasus

Mae Bocs Brecwast Myrddin Heritage & Ffrindiau yn profi'n boblogaidd, ac mae'r perchnogion Owen a Tanya yn hynod o brysur yn cadw i fyny â'r galw.

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae llawer o fusnesau bwyd a diod wedi bod yn gyflym i addasu - gan gamu i fyny i amddiffyn, cynorthwyo a chefnogi eu gweithwyr a'u cymunedau lleol.

Mae Myrddin Heritage yn enghraifft wych o gynhyrchydd bwyd micro sydd wedi addasu ei model busnes gyda phenderfyniadau cyflym, cydweithredu â chynhyrchwyr eraill yn yr ardal ac yn fod yn benderfynol.

Mae Bocs Brecwast Myrddin Heritage & Ffrindiau yn profi'n boblogaidd, gyda mwy na 100 yn cael eu harchebu bob wythnos, ac mae'r perchnogion Owen a Tanya yn hynod o brysur yn cadw i fyny â'r galw.

Mae Myrddin Heritage yn gartref i foch buarth sydd yn cael eu fagu ar dyddyn Owen a Tanya yn Rhos, ger Llandysul, lle mae’r ansawdd yn cael i sicrhau yn eu huned gynhyrchu ymarferol yn Sir Gaerfyrddin. Daeth y cwpl i Ganolfan Bwyd Cymru gyntaf yn 2018 i fynychu Gymorthfeydd i Fusnesau Newydd, ac yna dychwelodd am gymorth technegol ar gyfer eu busnes.

Er iddynt golli 95% o’u busnes bron dros nos ar ddechrau’r pandemig, maent wedi llwyddo i dynnu drwodd gyda chyflwyniad eu Bocsys Brecwast a’u gwasanaeth dosbarthu.

Mae Bocs Brecwast Myrddin Heritage & Ffrindiau yn llawn cynnyrch blasus Cymreig - cig moch buarth, selsig porc clasurol a chipolatas, yn ogystal ag amrywiaeth o selsig a byrgyrs â blas, a heb anghofio eu Pwdin Du enwog. Gan wybod nad oeddent ar eu pennau eu hunain, fe wnaethant alw allan at gynhyrchwyr lleol eraill a gyda'i gilydd maent yn darparu cynnyrch a gwasanaeth gwych.

‘Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag 9 cyflenwr i ddarparu cynhyrchion organig, buarth a lleol i’n cwsmeriaid. Gwneir nifer o'n cynhyrchion yn benodol i archebion. Cesglir y torthau o Crwst bob bore, mae’r coffi o Teifi Coffee wedi’i rostio mewn sypiau bach ac mae ein cig moch wedi’i halltu a sleisio’n ffres ar gyfer pob cwsmer.’ - Tanya.

Gall cwsmeriaid adeiladu eu bocs brecwast eu hunain neu ddewis o un o'u bocsys parod. Gyda chynhyrchion porc premiwm Myrddin Heritage, gall cwsmeriaid ddewis o blith:

Esboniodd Tanya y byddant yn canolbwyntio eu hymdrechion ar eu bocsys brecwast:

'Maent wedi troi'r busnes wyneb i waered yn llwyr gan ein bod wedi derbyn ymateb gwych ac yn wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth. Byddwn yn bendant yn cadw'r bocsys brecwast wrth symud ymlaen – maent yma i aros'.

Mae’r cwpl yn ymroddedig iawn ac mae ganddyn nhw falchder mawr yn eu rôl o fwydo’r gymuned eu ‘pryd pwysicaf y dydd’.

Mae'n ysbrydoledig gweld y busnes hwn yn llwyddo, sydd wedi aros yn wir i'w ethos busnes o greu cynnyrch o ansawdd lleol. Maent wedi cadw eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i fynd, sydd nid yn unig o fudd iddynt eu hunain fel busnes annibynnol, ond hefyd y cynhyrchwyr micro bwyd a diod gyfagos.

Archebwch eich Bocs Brecwast yma: myrddinheritage.wales