Cwrs Gwneud Caws

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i wneud caws?

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnal cwrs Gwneud Caws Sylfaenol deuddydd ar 10 ac 11 Medi 2019. Dysgwch sut i wneud caws meddal a chaled, deall damcaniaeth y broses wneud, dysgu am y broses raddio, ac ar ddiwedd y cwrs, mwynhau cymryd rhan mewn sesiwn blasu.

 

Mae popeth rydych ei angen yn cael ei gyflenwi gan gynnwys cinio bwffe ar y diwrnod cyntaf, a bwrdd caws ar gyfer cinio ar y ail ddiwrnod yn ystod eich sesiwn blasu. Y gost yw £ 380 y person, mae'r cwrs wedi'i eithrio rhag TAW.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Catherine Cooper ar 01545 572214 neu Catherine.Cooper@ceredigion.gov.uk