Arloesi ar gyfer Siopwyr Cydwybodol y Blaned

Diwrnod llwyddiannus yng ngweithdy Arloesi ar gyfer Siopwyr Cydwybodol y Blaned yn Gerddi Fotaneg Genedlaethol Cymru

Diwrnod diddorol a llwyddiannus yng ngweithdy Arloesi ar gyfer Siopwyr Cydwybodol y Blaned yn Gerddi Fotaneg Genedlaethol Cymru wythnos diwethaf.  Fe gynhaliwyd gan Arloesi Bwyd Cymru a Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru. Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cynhyrchwyr bwyd a diod Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdy syniadau Datblygu Cynnyrch Newydd, gyda data mewnwelediad am siopwyr cydwybodol y blaned Roedd yn wych gweld nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod yn bresennol.

Aeth y busnesau bant gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o gyfleoedd marchnad newydd a thueddiadau'r dyfodol, a fydd yn eu cefnogi yn eu Datblygiad Cynnyrch Newydd ac yn gwneud dewisiadau mwy gwybodus i helpu i gyrraedd y farchnad gynaliadwy ac arloesol cydwybodol y blaned.

Diolch i bawb am fynychu, gwrando a chyfrannu. Diolch enfawr i’r cyflwynwyr hefyd:

The Food People

  • Un o brif asiantaethau tueddiadau a syniadau bwyd. Yn rhannu'r tueddiadau mewn arloesi bwyd sy'n ymgorffori meddwl cynaliadwy.
  • Cymryd y tueddiadau cynaliadwy a'u troi'n syniadau cynnyrch newydd.

Prifysgol Bangor

  • Arweinwyr mewn ymchwil pecynnu cynaliadwy, gan rannu'r meddyliau diweddaraf mewn pecynnu eco, a sut i ddefnyddio gwastraff er mantais fasnachol.

Kantar Worldpanel

  • Arweinwyr ar wybodaeth a mewnwelediad i ddefnyddwyr